Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)

Dydi dysgu ddim yn dod i ben ar ôl gorffen yn yr ysgol. Os ydych yn ddysgwr sy'n oedolyn, mae dewis helaeth o gyrsiau dysgu gydol oes ar gael i'ch helpu i gyrraedd eich nod.

Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddychwelyd i fyd addysg – felly os ydych chi am wella eich cyfleoedd gwaith, gloywi eich sgiliau Mathemateg neu Saesneg, neu ddysgu rhywbeth newydd mewn amgylchedd cyfeillgar, mae gennym ni gwrs sy'n addas i chi.

Beth bynnag fo'ch oedran, ble bynnag rydych chi'n byw, beth bynnag fo'ch diddordebau neu'ch rhesymau dros fod eisiau datblygu sgiliau newydd neu ddysgu rhagor – gallwn ni eich helpu.

Myfyriwr cwrs proffesiynol/rhan-amser yn addurno cacen
Logo Potensial - Dysgu Gydol Oes

Dysgu Gydol Oes gyda Potensial

Gall y cyrsiau hyn fod yn ffordd berffaith o gael cyfleoedd newydd mewn addysg, gwaith neu fywyd o ddydd i ddydd. Mae'r cyrsiau'n cynnwys TGAU, Saesneg a Mathemateg sylfaenol, a sgiliau cyfrifiadura a TG.

Rydyn ni hefyd yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau ar y cyd â Phartneriaethau Dysgu Siroedd Conwy a Dinbych a Gwynedd a Môn.

Dewch i wybod mwy...
Pobl yn defnyddio gliniadur

Prosbectws Ar-lein – Cyrsiau Dysgu Gydol Oes a Rhan-amser

Gyda'n prosbectws ar-lein gallwch chwilio am amrywiaeth eang o gyrsiau dysgu gydol oes a rhan-amser ac archebu lle arnynt.

Dewch i wybod mwy...
Myfyrwyr yn defnyddio gliniadur

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Os yw'r Saesneg yn ail iaith i chi a'ch bod am wella eich sgiliau Saesneg, yna mae ein cyrsiau ESOL yn berffaith ar eich cyfer. Bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu i fynd ymlaen i fyd gwaith neu i gwrs pellach yn y coleg.

Dewch i wybod mwy...
Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Mynediad i Addysg Uwch

Mae cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn gwrs blwyddyn o hyd i oedolion a hoffai fynd ymlaen i astudio ar lefel prifysgol ond nad oes ganddynt y cymwysterau ffurfiol sydd eu hangen i wneud hynny.

Dewch i wybod mwy...
Myfyriwr yn cael cymorth i ddefnyddio cyfrifiadur

Sgiliau Cyflogadwyedd a Sgiliau Byd Gwaith

Ydych chi'n ddi-waith ar hyn o bryd ac yn awyddus i feithrin sgiliau newydd i allu cystadlu'n hyderus yn y farchnad swyddi? Beth bynnag fo'ch rheswm, rydyn ni'n hyderus bod gennym ni'r cwrs iawn i'ch rhoi chi ar ben ffordd.

Dewch i wybod mwy...
Derbynfa mewn ysbyty

Cyrsiau Gweinyddu Meddygol

Ydych chi'n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes gweinyddu meddygol?Ydych chi'n gweithio yn y sector gofal iechyd ac eisiau datblygu eich sgiliau?

Dewch i wybod mwy...