Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n falch o gyflwyno 'Potensial', sef y brand a'r enw newydd ar gyfer ein darpariaeth dysgu gydol oes.
![Logo Potensial - Dysgu Gydol Oes](/imager/images/Potensial/574818/Potensial-Logo-Web_72c9be5606906c16e9d80d1324889ea0.jpeg)
Bwriad Potensial yn cynnal a datblygu ymhellach y profiadau dysgu a'r canlyniadau rhagorol sy’n gysylltiedig â dysgu gydol oes yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan barhau i ddatblygu a chynnig cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu gydol oes ar draws gogledd orllewin Cymru.
Gan weithredu ar draws y pedair sir, Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn, mae Potensial yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth.
Trwy Potensial, gallwch gael mynediad at gyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol, o gyrsiau lefel mynediad i gymwysterau proffesiynol sy'n cael eu cyflwyno'n ddwyieithog lle bynnag y bo modd ac sy'n hygyrch i bob dysgwr.
Beth bynnag fo'ch oedran, ble bynnag yr ydych chi'n byw, beth bynnag fo'ch diddordebau neu'ch rhesymau dros fod eisiau datblygu sgiliau newydd neu ddysgu rhagor - gall Grŵp Llandrillo Menai eich helpu i wireddu eich Potensial llawn.
![Myfyrwyr yn dysgu ar gyfrifiaduron](/imager/images/543629/AdobeStock_609894541_151c5dff3345520e34d46efc13d5f11c.jpeg)
Rhifedd Byw - Lluosi: Cyrsiau am Ddim i Oedolion
Ydych chi yn cael trafferth efo rhifau? Fasa chi’n hoffi cael cyfle i wella eich sgiliau rhifedd drwy fynychu sesiynau 1 am 1 neu grwpiau bach cyfeillgar? Gall y prosiect Lluosi eich helpu i wneud hyn, a’ch galluogi i ddysgu ar gyflymder sy’n gyfleus i chi.
Os ydych yn 19 oed neu’n hŷn, heb TGAU Mathemateg gradd C (neu gymhwyster gyfatebol) mae modd i chi fynychu cyrsiau rhifedd yn rhad ac am ddim.
![Myfyriwr yn cael cymorth i ddefnyddio cyfrifiadur](/imager/images/163061/iStock-624713098_13e1088ee692a56034538d1b5088fc55.jpeg)
Sgiliau Sylfaenol – Saesneg a Mathemateg
Ydych chi angen gwella eich sgiliau Saesneg a Mathemateg? Bydd ein cyrsiau yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch ar gyfer bywyd bob dydd, gan eich helpu i wella eich addysg a'ch gyrfa.
Rydym ni hefyd yn cynnig cyrsiau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Tydi hi bydd yn rhy hwyr i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cymwysterau hanfodol hyn a all agor y drws ar gyfleoedd amrywiol o ran addysg a gyrfa.
![Myfyrwyr yn defnyddio gliniadur](/imager/images/504875/ESOL_13e1088ee692a56034538d1b5088fc55.jpeg)
Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)
Os yw'r Saesneg yn ail iaith i chi a'ch bod am wella eich sgiliau Saesneg, yna mae ein cyrsiau ESOL yn berffaith ar eich cyfer.
Bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu i fynd ymlaen i fyd gwaith neu i gwrs pellach yn y coleg.
![Pobl yn defnyddio gliniadur](/imager/images/505330/iStock-1200928994-Medium_13e1088ee692a56034538d1b5088fc55.jpeg)
Prosbectws Ar-lein – Cyrsiau Rhan-amser, Cyrsiau i Oedolion a Chyrsiau yn y Gymuned
Gyda'n prosbectws ar-lein gallwch chwilio am amrywiaeth eang o gyrsiau rhan-amser, cyrsiau i oedolion a chyrsiau yn y gymuned ac archebu lle arnynt.
![Logo Dysgu Oedolion yn y Gymuned](/imager/images/Logos/420449/Adult-Community-Learning-Web_13e1088ee692a56034538d1b5088fc55.jpeg)
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Siroedd Dinbych a Chonwy
Oes gennych chi awydd astudio i feithrin sgiliau newydd, ennill cymwysterau neu ddilyn diddordeb?
Gallwch ymweld â Phartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Conwy a Sir Ddinbych i ddarganfod mwy.
![Logo Addysg Gymunedol Gwynedd & Môn](/imager/images/Logos/564008/Gwynedd-Mon-Community-Learning_13e1088ee692a56034538d1b5088fc55.jpeg)
Partneriaeth Dysgu Cymunedol Gwynedd a Môn
Oes gennych chi awydd astudio i feithrin sgiliau newydd, ennill cymwysterau neu ddilyn diddordeb?
Ewch i wefan Partneriaeth Addysg Gymunedol Gwynedd a Môn i gael gwybod rhagor.
A oes arnoch angen mwy o wybodaeth neu efo cwestiwn?
Mae timau Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg yma i'ch helpu gydag unrhyw gwestiynau. Gallwch anfon neges e-bost, ffonio neu alw heibio un o'n campysau, neu ddod i un o'n digwyddiadau agored.
Beth bynnag yw eich nod, rydym yn sicr o gael cwrs i chi!