Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) - Dysgu Cyfunol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd)
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) - Dysgu CyfunolDysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs Mynediad i AU (Gofal Iechyd) yn cael ei gynnal am 1 diwrnod estynedig yr wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r dosbarthiadau'n cael eu cynnal rhwng 9.00am a 7pm a disgwylir i ddysgwyr ddod i'r holl sesiynau. Caiff presenoldeb a phrydlondeb eu monitro'n ofalus yn ystod wythnosau cyntaf y cwrs. Yn ogystal â diwrnod astudio yn y Coleg, bydd disgwyl i ddysgwyr wneud llawer o waith yn annibynnol dan arweiniad eu tiwtoriaid a chan ddefnyddio deunyddiau ar-lein.
Hoffech chi fynd ymlaen i Addysg Uwch? Ydych chi am baratoi ar gyfer astudio pwnc sy'n gysylltiedig ag iechyd?
Ar y cwrs hwn, cewch y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch perthnasol. Mae hefyd yn llwybr gwerthfawr i yrfa ym maes iechyd, yn enwedig nyrsio.
Nod Diplomâu Mynediad i AU Cymru Gyfan yw rhoi i chi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg uwch yn llwyddiannus. Fe'u bwriadwyd ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael profiad sylweddol o fywyd ers iddynt gwblhau eu haddysg orfodol.
Mae'r Diploma mewn Gofal Iechyd yn cynnwys pynciau sy'n ymwneud ag iechyd mewn meysydd fel Anatomeg a Ffisioleg, Cemeg, Microbioleg, Seicoleg ac Iechyd.
Gwybodaeth am y cwrs a rhagofynion
Mae'r cwrs Mynediad i AU (Gofal Iechyd) yn cael ei gynnal am 3 diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r dosbarthiadau'n cael eu cynnal rhwng 9.15am a 4pm a disgwylir i ddysgwyr ddod i'r holl sesiynau. Caiff presenoldeb a phrydlondeb eu monitro'n ofalus yn ystod wythnosau cyntaf y cwrs.
Mae'r cwrs wedi'i anelu at oedolion sy'n dychwelyd i ddysgu ac sy'n awyddus i fynd ymlaen i Brifysgol. Fel arfer, ni chaiff dysgwyr sydd newydd adael yr ysgol neu gwrs Lefel 2 neu 3 arall eu derbyn.
I gael lle ar y cwrs, mae'n ofynnol i ddysgwyr ddangos gallu lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU Gradd C), ond cyn gwneud cais i brifysgol, mae'n bosib y bydd yr NMC (Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) yn gofyn i ddysgwyr fod â TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Os nad oes ganddynt broffil Lefel 2, mae'n bosib y caiff dysgwyr eu cynghori i gwblhau cymhwyster Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach cyn dechrau ar gwrs Mynediad. Oherwydd bod cryn gystadleuaeth i gael lle ar gyrsiau nyrsio, bydwreigiaeth ac ati a bod angen i ddysgwyr wneud eu ceisiadau'n fuan ar ôl dechrau ar y cwrs Mynediad, cewch eich cynghori i gael profiad sylweddol mewn lleoliad gofal (fel gweithiwr cyflogedig neu wirfoddolwr) cyn dechrau ar y cwrs Mynediad i AU.
Pynciau sy'n cael eu hastudio
Mae Sgiliau Astudio, Rhifedd a Llythrennedd yn rhan greiddiol o'r Diploma Mynediad i AU a rhaid llwyddo yn y pynciau hyn, yn ogystal â chael gwybodaeth sylfaenol o TG ar gyfer Addysg Uwch.
Yn ogystal, rhaid i ddysgwyr lwyddo i gael 45 credyd Lefel 3 mewn tri phwnc academaidd sy'n cael eu graddio ar lefel Llwyddo, Teilyngdod a Rhagoriaeth.
Er enghraifft, gallai cynnig arferol gan Brifysgol ofyn am 30 credyd ar lefel Teilyngdod a 15 ar lefel Rhagoriaeth.
Y pynciau academaidd sy'n cael eu hastudio ar y Llwybr Mynediad i AU (Gofal Iechyd) yw:
- Iechyd
- Anatomeg a Ffisioleg
- Seicoleg
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- TGAU Gradd C neu cyfateb mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, TGAU Gradd D neu cyfateb mewn Mathemateg neu Rhifedd a TGAU mewn Gwyddoniaeth, yn unol â gofynion y llwybr dilyniant i brifysgol. Dylech fod wedi cael profiad mewn sgiliau bywyd perthnasol am o leiaf dair blynedd ar ôl gadael addysg orfodol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Noder
- Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn gofyn am TGAU mewn Mathemateg a Saesneg. Os ydych am fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd mewn nyrsio, fe'ch cynghorir i gael TGAU gradd C neu uwch yn y pynciau hyn cyn dechrau ar y cwrs hwn. Os na fydd y cymwysterau hyn gennych pan fyddwch yn cwblhau eich cais UCAS, bydd llawer o brifysgolion yn gwrthod y cais yn syth. Er bod rhai prifysgolion yn gofyn am o leiaf gradd C mewn Mathemateg a Saesneg, ni fydd prifysgolion eraill ond yn rhoi cynnig i ymgeiswyr sydd â gradd B yn y pynciau hyn. Y rheswm am hyn yw eu bod yn derbyn llawer o geisiadau o safon uchel.
- Mae'n bosibl y cynghorir chi i gofrestru ar y cwrs Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach cyn dechrau ar y cwrs Mynediad. Ar y rhaglen hon, cewch gyfle i sefyll arholiadau TGAU Mathemateg a Saesneg.
- Mae tipyn o gystadlu am le ar gyrsiau bydwreigiaeth yn benodol a bydd gofyn i chi ddangos eich bod yn deall yn iawn beth mae'r swydd yn ei olygu.
- Bydd gofyn i chi gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y cewch le ar gwrs nyrsio.
- Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus arddangos ymroddiad, penderfyniad a brwdfrydedd.
- Er mwyn cyflwyno cais i UCAS yn gynnar iawn yn y flwyddyn academaidd, rhaid i'r dysgwyr sydd am fynd ymlaen i ddilyn cwrs nyrsio fod wedi cael profiad diweddar yn y sector gofal.
Cyflwyniad
Cynlluniwyd Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch i'ch helpu i ddychwelyd i astudio ar ôl cyfnod o amser. Felly, bydd y sesiynau'n rhai cyfranogol a gynhelir mewn awyrgylch cyfeillgar ac ysgogol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tiwtoriaid, gan ddysgu drwy gyfrwng gwersi ffurfiol yn ogystal â thrafodaethau, arddangosiadau a gwaith prosiect.
Asesiad
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:
- Tasgau gwahanol ym mhob uned
- Bydd eich tiwtor yn eich helpu ac yn eich paratoi'n ddigonol
- Traethodau ac adroddiadau
- Tasgau ymarferol
- Gwerthuso rolau a chyflwyniadau
- Bydd holl fodiwlau'r pynciau academaidd yn cynnwys ymarferion dibaratoad y bydd gofyn eu cwblhau mewn amser penodol.
Bydd y rhaglen ddysgu'n cynnwys pynciau fel Technoleg Gwybodaeth a modiwl 'Edrych Ymlaen at Addysg Uwch' Lefel 4.
Dilyniant
Mae'r Diploma mewn Gofal Iechyd yn arwain yn bennaf at radd mewn nyrsio, neu radd mewn pwnc cysylltiedig fel bydwreigiaeth. Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Gradd Sylfaen (FdA) mewn Astudiaethau Plentyndod, sydd ar gael yn Llandrillo-yn-Rhos
- Gradd Sylfaen (FdA) Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd ar gael yn Llandrillo-yn-Rhos
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Mynediad i Addysg Uwch
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dwyieithog:
n/a
Mynediad i Addysg Uwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: