Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddoniaeth)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn (16 awr yr wythnos). Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y cynigir rhaglen 2 flynedd.

Cofrestrwch
×

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddoniaeth)

Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi fynd ymlaen i Addysg Uwch? Ydych chi am baratoi ar gyfer astudio pwnc gwyddonol neu bwnc sy'n ymwneud â'r gwyddorau iechyd? Ar y cwrs hwn, cewch y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch perthnasol. Mae hefyd yn llwybr gwerthfawr i yrfa ym maes gwyddoniaeth a'r gwyddorau iechyd.

Nod Diplomâu Mynediad i AU Cymru Gyfan yw rhoi i chi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg uwch yn llwyddiannus. Fe'u bwriadwyd ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael profiad sylweddol o fywyd ers iddynt gwblhau eu haddysg orfodol.

Mae'r Diploma mewn Gwyddoniaeth yn cynnwys pynciau perthnasol mewn meysydd fel Anatomeg a Ffisioleg, Bioleg, Cemeg, Ffiseg a Ffiseg Iechyd.

Bydd pob dysgwr yn astudio sgiliau astudio craidd a mathemateg, ac yn ysgrifennu traethawd hir neu'n ymgymryd â phrosiect. Mae'r Diplomâu 60 credyd yn cynnwys 15 credyd lefel 2 neu 3 (heb eu graddio) o'r modiwlau craidd, ynghyd â 45 credyd academaidd lefel 3.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • TGAU Gradd C neu cyfateb mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, TGAU Gradd D neu cyfateb mewn Mathemateg neu Rhifedd a TGAU mewn Gwyddoniaeth, yn unol â gofynion y llwybr dilyniant i brifysgol. Dylech fod wedi cael profiad mewn sgiliau bywyd perthnasol am o leiaf dair blynedd ar ôl gadael addysg orfodol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cynlluniwyd Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch Cymru Gyfan i'ch helpu i ddychwelyd i astudio ar ôl cyfnod o amser. Felly, bydd y sesiynau'n rhai cyfranogol a gynhelir mewn awyrgylch cyfeillgar ac ysgogol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tiwtoriaid, gan ddysgu drwy gyfrwng gwersi ffurfiol yn ogystal â thrafodaethau, arddangosiadau a gwaith prosiect.

Asesiad

Cewch eich asesu fel a ganlyn:

  • Gosodir tasgau gwahanol ar gyfer pob uned ac fe'ch asesir drwy gyfrwng y rhain yn ystod y cwrs
  • Bydd eich tiwtor yn eich helpu ac yn eich paratoi'n ddigonol
  • Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, tasgau ymarferol, setiau o broblemau, a chyflwyniadau
  • Bydd holl fodiwlau'r pynciau academaidd yn cynnwys o leiaf un ymarfer dibaratoad y bydd gofyn ei gwblhau mewn amser penodol

Bydd y rhaglen ddysgu'n cynnwys pynciau fel Technoleg Gwybodaeth a modiwl 'Edrych Ymlaen at Addysg Uwch' Lefel 4.

Dilyniant

Mae'r Diploma mewn Gwyddoniaeth yn arwain yn bennaf at radd mewn Bioleg, Gwyddorau Biofeddygol, Bioleg Forol, Cemeg, Cadwraeth, Gwyddorau Amgylcheddol ac Eigioneg, neu raddau sy'n ymwneud â'r gwyddorau iechyd, fel hylendid deintyddol, maetheg a dieteg, therapi galwedigaethol, arferion/gwyddoniaeth barafeddygol, ffisiotherapi, podiatreg a radiograffeg.

Gallech hefyd fynd ymlaen i ddilyn cyrsiau gradd yn Grŵp Llandrillo Menai, mewn pynciau fel Astudiaeth Plentyndod a Chymdeithasol neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Mynediad i Addysg Uwch

Dwyieithog:

n/a

Mynediad i Addysg Uwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Mynediad i Addysg Uwch

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth