Mynediad i Dystysgrif Estynedig Addysg Uwch (Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 flwyddyn (35 wythnos), 1 diwrnod yr wythnos 9am - 7pm (9 awr)
Mynediad i Dystysgrif Estynedig Addysg Uwch (Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig)Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Oedolion wedi'u cyflogi yn y diwydiant adeiladu/peirianneg sifil sy'n ystyried symud i rôl reoli ond sy'n brin o sgiliau academaidd; oedolion sy'n chwilio am yrfa mewn rheoli ym maes adeiladu ond sy'n brin o wybodaeth a phrofiad yn y diwydiant; oedolion ifanc (17+ oed) sy’n awyddus i gwblhau Prentisiaeth AU mewn adeiladu / peirianneg sifil ond nad ydynt yn bodloni meini prawf mynediad Prentisiaeth AU.
Mae’r cwrs yn cynnwys pedwar modiwl gorfodol:
Egwyddorion Adeiladu
Dylunio Adeiladu
Technoleg Adeiladu
Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu
Cyswllt:
- Wyn Roberts, 01492 546 666 est. 1486 / robert16g@gllm.ac.uk
- Dave Roberto, 01492 546 666 est. 1455 / robert1d@gllm.ac.uk
Gofynion mynediad
- 4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg a phynciau ym maes Gwyddoniaeth/Technoleg
- Cymhwyster Lefel 2 perthnasol ym maes adeiladu.
- Profiad perthnasol mewn diwydiant (bydd hyn yn ddibynnol ar gyfweliad)
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad; cewch gyfle i drafod y cwrs a'ch amgylchiadau personol yn ystod y cyfweliad.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
Darlithoedd (ar y campws ac ar-lein).
Seminarau
Tiwtorialau
Ymweliadau â safleoedd (gall rhai o'r rhain fod yn ymweliadau rhithwir)
Teithiau maes
Rhoi sgiliau a gwybodaeth ar waith yn ymarferol
Asesiad
Asesir y rhaglen drwy ddefnyddio'r dulliau a ganlyn:
Aseiniadau
Tasgau ymarferol
Cyflwyniadau
Arholiad Allanol
Arholiad Mewnol
Dilyniant
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi nifer o ddewisiadau i chi o ran addysg a gwaith. Gallech fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch mewn amrediad eang o feysydd, yn cynnwys:
Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 ym maes Adeiladu
Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Peirianneg Sifil
Prentisiaeth Uwch ym maes Adeiladu
Prentisiaeth Uwch mewn Peirianneg Sifil
Gradd Sylfaen (FdSc) Adeiladu
BSc (Anrhydedd) mewn Rheoli ym maes Adeiladu
Rhaglenni diwydiant cysylltiedig eraill
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Tîm Addysgu Llandrillo-yn-Rhos
- Dave Roberto: BEng, MEng (Dwyrain Llundain), TAR, SFHEA, Grad ISE.
- Simon Carder: BA (Anrh), BArch. Rhan 2 RIBA, MA Pensaernïaeth a Threfoli (Manceinion), TAR, SFHEA.
- Wyn Roberts: BSc Rheolaeth Adeiladu, PCET.
- Alex Roebuck: BSc (Anrh) Rheolaeth Adeiladu, BSc (Gwyddoniaeth Forol), ACIOB, PCQI, GSC, TAR.
- Colin James-Davies: BSc (Anrh) Rheolaeth Adeiladu, Diploma Rheolaeth, TAR.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Mynediad i Addysg Uwch
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Mynediad i Addysg Uwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: