Cyfrifeg - Prentisiaeth Uwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor, Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 mis
Cyfrifeg - Prentisiaeth UwchPrentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Datblygwyd y fframwaith hwn gan gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i ddiwallu anghenion busnesau bach a chanolig eu maint yn ogystal â sefydliadau mwy. Mae cynnwys dull strwythuredig o hyfforddi a datblygu darpar gyfrifwyr sy'n deall y sefydliad, y cwsmeriaid a'r sector maen nhw'n rhan ohoni.
Pwrpas y fframwaith hwn ydy hyfforddi cyfrifwyr o gwmnïau cyfrifwyr neu adrannau ariannol o fewn sefydliadau eraill, i lefel dechnegol (QCF Lefel 4).
Ariannwyd y rhaglen hwn yn rhannol gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch aat@gllm.ac.uk
Gofynion mynediad
Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf.
Gallwch ddilyn Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Cyfrifeg os oes gennych y canlynol:
- Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg
Bydd y Prentis yn astudio tuag at Ddiploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Cyfrifeg Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Ceir manylion yma.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Gall AAT wrthod aelodaeth ar faterion methdaliad neu rai collfarnau troseddol nas gwarcheid. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
Cyflwyniad
- Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos.
Asesiad
- Arholiadau wedi'u gosod a'u marcio'n allanol.
Dilyniant
- ACCA
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
n/a
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
![Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth](/imager/images/444285/GLLM-General-Classroom-1_72c9be5606906c16e9d80d1324889ea0.jpeg)
![AAT Approved logo 330x198 Mapp image](/imager/images/499136/AAT-Approved-logo-330x198-Mapp-image_bef452f0f560e18b7c4f149ac76ef1f4.jpeg 190w, /imager/images/499136/AAT-Approved-logo-330x198-Mapp-image_fb2bc4b36e7f31768055cf3544a96d0c.jpeg 330w)