Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn cefnogi oedolion a phobl ifanc gyda Sgiliau Hanfodol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 awr yr wythnos am 16 wythnos, a lleoliad 8 awr.
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn cefnogi oedolion a phobl ifanc gyda Sgiliau HanfodolDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Lefel 2 mewn cefnogi oedolion a phobl ifanc gyda Sgiliau Hanfodol yn galluogi i'r dysgwr ehangu ei sgiliau ymgysylltu a chefnogi oedolion a phobl ifanc hefo cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd de Saesneg fel ail iaith.
Mae'r cwrs yn edrych ar rwystrau i addysgu a sut mae dysgwyr yn cael ei asesu a'i chyfeirio at y ddarpariaeth fwyaf addas. Mi fydd ymgeiswyr hefyd yn dysgu'r sgiliau sydd ei angen i roi'r cymorth gorau o fewn dosbarth yn ôl modelau ymarfer da cyfredol.
Mae'r cymhwyster yma yn addas i bobl sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli mewn Addysg Gymunedol i Oedolion (AGO), Dysgu seiliedig ar waith, Addysg Uwch neu unrhyw sefydliad sydd mewn cyswllt hefo oedolion sydd angen help hefo gwella cyfathrebu, rhifedd neu Saesneg fel ail iaith.
Gofynnir i ddysgwyr sy'n gweithio tuag at y cymhwyster yma wneud 8 awr mewn lleoliad gwaith ble maent yn cefnogi dysgwyr neu grŵp o ddysgwyr sydd yn gweithio tuag at wella sgiliau hanfodol. Mae dau sesiwn arsylwi yn hanfodol.
Rhandaliadau
Mae cyrsiau a ffioedd arholiadau dros £100 yn gymwys i'w talu mewn rhandaliadau. Mae dysgwyr yn talu 20% i gofrestru, a hyd at 4 taliad misol. Rhaid cwblhau ffurflen archeb sefydlog ar adeg cofrestru os yw'n talu trwy randaliadau.
Gofynion mynediad
Mae rhaid i ddysgwyr fod yn:
- 18 oed i ennill y cymhwyster.
- Siarad Saesneg i Lefel 2 neu uwch – mae'n angenrheidiol cael Saesneg da i gefnogi.
- Cyfforddus hefo rhifedd, yn enwedig os ydynt yn bwriadu dilyn llwybr astudio rhifedd.
Cyflwyniad
Yn y dosbarth
Asesiad
Mae'r cymhwyster Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn cefnogi oedolion a phobl ifanc gyda Sgiliau Hanfodol yn cynnwys 5 uned, mae 2 o rain yn angenrheidiol a 3 yn ddewisol yn ôl y llwybr pwnc a ddewisir.
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Hyfforddiant Athrawon
Dwyieithog:
n/a