Tystysgrif Agored Lefel 2 mewn Gweinyddu a Gwaith Derbynfa ym maes Gofal Sylfaenol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
12 mis
Tystysgrif Agored Lefel 2 mewn Gweinyddu a Gwaith Derbynfa ym maes Gofal SylfaenolDysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae’r Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal Sylfaenol, Gweinyddu a Derbyn wedi’i gynllunio i gyflwyno’r sgiliau a’r wybodaeth gychwynnol sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus mewn swydd dderbynfa neu weinyddol rheng flaen. Mae’n addas ar gyfer y rhai sy’n newydd i weithio mewn derbynfa/rôl weinyddol ym maes Gofal Sylfaenol y GIG neu’r rheini sy’n gweithio ar hyn o bryd mewn Gofal Sylfaenol mewn rôl sy’n wynebu claf, yn y swyddfa gefn neu’n delio â galwadau ffôn.
Mae'r cymhwyster hwn a'r unedau ynddo yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn lleoliad gofal iechyd.
Gofynion mynediad
Bydd angen i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn, ac yn gyflogedig o fewn rôl weinyddol mewn Gofal Sylfaenol.
Cyflwyniad
Cyflawnir y cymhwyster hwn trwy ddysgu seiliedig ar waith ac fe'i cyflwynir ar sail un i un. Mae'r cymhwyster hwn ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Byddwch yn creu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith bob dydd ac i ddangos eich bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.
Asesiad
Byddwch yn cyflwyno i'ch asesydd dystiolaeth o sefyllfaoedd gwaith y gwnaethoch ddelio â hwy. Gall hyn gynnwys:
- Astudiaethau Achos
- Cwestiynau ac Atebion
- Trafodaethau
- E-byst neu lythyrau i gefnogi eich tystiolaeth ysgrifenedig
- Tystiolaeth Tystion gan eich cydweithwyr neu reolwr llinell
Bydd diplomâu yn cael eu marcio gan aseswr gweithle a'u safoni gan y dilysydd mewnol.
Dilyniant
Gall y cymhwyster hwn baratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3 Rheoli ym maes Gofal Iechyd neu fel arall lefel 3 mewn Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes, Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes neu gymhwyster Lefel 3 mewn Gwasanaeth Cwsmer.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
Darpariaeth ddwy-ieithog ar gael
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: