Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Glynllifon
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
Llawn Amser. Blwyddyn 1 - Diploma mewn Rheoli Anifeiliaid, Blwyddyn 2 - Diploma Estynedig mewn Rheoli Anifeiliaid.
Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3Dysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa'n gweithio gydag anifeiliaid? Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau ar lefel uwch?
Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar y profiad sydd gennych o ofalu am anifeiliaid, gan eich paratoi i ymgymryd â dyletswyddau rheoli. Byddwch hefyd yn dod i ddeall yr agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar drin a gofalu am anifeiliaid. Mae hefyd yn llwybr galwedigaethol i Addysg Uwch.
Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 2, neu gwrs Lefel 2 yn y gweithle, mewn Gofalu am Anifeiliaid. Mae hefyd i'r dim os ydych wedi cwblhau TGAU, neu wedi cael profiad perthnasol.
Drwy gyfrwng gwaith theori a sesiynau hyfforddi ymarferol, byddwch yn ennill y profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer amrywiaeth o swyddi rheoli ym maes anifeiliaid. Byddwch yn elwa ar y cyfleusterau rhagorol ar gampws Glynllifon, gan gynnwys yr amrywiaeth o rywogaethau a gedwir yn ein canolfan anifeiliaid.
Gofynion mynediad
Diploma mewn Rheoli Anifeiliaid
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 4 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith 1af a Mathemateg
- Cymhwyster Lefel 2 perthnasol ar lefel Teilyngdod
- Profiad perthnasol yn y diwydiant
Diploma Estynedig mewn Rheoli Anifeiliaid (Blwyddyn 2)
- Llwyddo neu uwch mewn Diploma mewn Rheoli Anifeiliaid
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno trwy gyfuniad o sesiynau ystafell ddosbarth seiliedig ar Theori yn gysylltiedig â sesiynau ymarferol i ddatblygu profiad ymarferol a dyfnhau dealltwriaeth.
Mae safle Coleg Glynllifon yn 750 erw o fferm a choetir, gyda'i ganolfan anifeiliaid ei hun yn cynnwys hyd at 50 o rywogaethau. Mae yna 2 gyfleuster egsotig, amrywiaeth o dai anifeiliaid bach, ystafell trin cŵn, padogau allanol, da byw fferm a mynediad i'n coedwig a reolir ar gyfer gweithgareddau bywyd gwyllt ymarferol. Mae'r cyfleusterau'n caniatáu i'ch astudiaethau gael eu cynnal mewn lleoliad realistig.
Asesiad
Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu drwy gyfuniad o’r canlynol:
- Aseiniadau portffolio i ddangos eich dealltwriaeth
- Asesiad ymarferol
- Arholiad Allanol
- Asesiad synoptig sy'n dod â theori ac ymarfer ynghyd.
Dilyniant
Mae angen cwblhau’r cwrs Diploma yn llwyddiannus ym Mlwyddyn 1 er mwyn symud ymlaen i’r Diploma Estynedig ym Mlwyddyn 2.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau.
Mae'r cymhwyster yn gyfwerth â 3 Lefel A, ac mae nifer o fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i Addysg Uwch i astudio ar gyfer cymwysterau HND, Graddau Sylfaen neu Raddau Anrhydedd. Gallech hefyd astudio cwrs Lefel 3 Nyrsio Milfeddygol yng Nglynllifon.
Gallech hefyd ddewis dilyn cwrs Addysg Uwch a gweithio yr un pryd.
Gwybodaeth campws Glynllifon
I gydymffurfio ag asesiadau risg, mae'n ofynnol i bob myfyriwr ddefnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) priodol ar gyfer gweithgareddau ymarferol. Byddwch yn cael gwybod pa PPE sydd ei angen cyn dechrau'r cwrs a bydd peth o'r cyfarpar ar gael i'w brynu trwy'r coleg. |
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol
Dwyieithog:
Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol
