Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Caffael a Chyflenwi Masnachol (CIPS) Lefel 3 a 4

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    15 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Caffael a Chyflenwi Masnachol (CIPS) Lefel 3 a 4

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Caffael a Chyflenwi yn rhan hanfodol o weithrediadau busnes, nid yn unig yn sicrhau caffaeliad effeithlon ac effeithiol o nwyddau, gwasanaethau a gwaith ond mae hefyd yn gyfle gwych i effeithio ar lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol trwy wneud penderfyniadau prynu gwybodus a rheoli contractau yneffeithiol ar draws pob sector.

Lefel 3: Mae’r brentisiaeth Lefel 3 Caffael a Chyflenwi Masnachol wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion o bob cefndir, gan gynnig pwynt mynediad hygyrch i’r maes cyffrous hwn. Mae'r rhaglen hyblyg hon yn darparu ar gyfer gwahanol sectorau ac anghenion sefydliadol heb unrhyw brofiad blaenorol angenrheidiol.

Byddai disgwyl i Brentisiaethau Lefel 3 fod mewn rolau tactegol / caffael mynediad heb unrhyw gyfrifoldeb rheoli neu gyfrifoldeb rheoli cyfyngedig iawn, mewn rolau risg isel a chyfrifoldeb isel. Byddai prentisiaethau'n cefnogi neu'n cynorthwyo gweithgareddau caffael aelodau'r uwch dîm. Rolau enghreifftiol a disgrifiadau ar Lefel 3: Cynorthwy-ydd Caffael, Prynwr, Swyddog Caffael Cynorthwyol

Lefel 4: Mae'r brentisiaeth Lefel 4 yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol mewn caffael masnachol. Gall hyn fod yn unigolion sy'n trosglwyddo o rolau eraill ar draws sectorau. Efallai bod yr unigolyn yn hollol newydd i faes caffael neu'n gweithio ar lefel uwch.

Byddai disgwyl i brentisiaethau lefel 4 fod mewn rolau caffael gweithredol / rolau lefel mynediad - canol gyda rhywfaint o gyfrifoldeb rheolaethol. Byddai disgwyl i brentisiaid gyflawni gweithgaredd caffael gyda rhywfaint neu ychydig o oruchwyliaeth.

Rolau enghreifftiol a disgrifiadau ar Lefel 4: Swyddog Caffael, Arbenigwr/Rheolwr Categori Cynorthwyol, Uwch Brynwr, Rheolwr Contractau.

Gofynion mynediad

  • Lefel 3 - 16+ oed, TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch
  • Lefel 4 - 18 oed neu'n hyn, TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch + 2 lefel A neu gymhwyster cyfwerth

Cyflwyniad

  • Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

O Lefel 3 i Lefel 4

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3+4

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr mewn llyfrgell