Prentisiaeth – Diploma mewn Cymorth Gofal Iechyd Gofal Sylfaenol Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
16 mis
Prentisiaeth – Diploma mewn Cymorth Gofal Iechyd Gofal Sylfaenol Lefel 3Prentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer gweithwyr cymorth Gofal Iechyd Sylfaenol sy'n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymru, yn rhoi cymorth i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau meddygfeydd dan gyfarwyddyd ymarferydd proffesiynol cofrestredig, megis meddyg teulu neu nyrs gofrestredig. Mae'n gymhwyster craidd sy'n cydnabod y rolau a gyflawnir gan weithwyr cymorth sy'n gweithio ag unigolion mewn meddygfeydd.
I ymgymryd â'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi gan feddygon teulu mewn rolau lle mae sgiliau clinigol yn ganolog i'w rôl. Datblygwyd y cymhwyster i lywodraethu arfer yng Nghymru yn well trwy sicrhau ansawdd allanol ar gyfer y rôl ddatblygol ac ehangu hon.
Dyma’r cymhwyster a ffefrir ar gyfer GIG Cymru, a disgwylir y bydd pob gweithiwr cymorth meddyg teulu yn cael y cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i gefnogi newidiadau mewn ymarfer dros amser.
Gofynion mynediad
Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed o leiaf i gyflawni'r cymhwyster hwn
- Dylent weithio mewn rolau lle mae sgiliau clinigol naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhan sylweddol o'u gwaith.
- TGAU - graddau C neu uwch (neu raddau cyfatebol) mewn Saesneg / Cymraeg, Mathemateg a Tch.G. Efallai y bydd gofyn i ddysgwyr heb y graddau hyn uwchsgilio yn gyntaf a bydd angen iddynt gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu, Chymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol.
- Rhaid i ddysgwyr dderbyn goruchwyliaeth gan Ymarferwr(wyr) sydd wedi'u Cofrestru'n Broffesiynol, a all asesu eu cynnydd.
- Byddant wedi bodloni safonau gofynnol y sector ar gyfer ymsefydlu yn y swydd, a gallai rhai ohonynt ddarparu tystiolaeth yn erbyn y cymhwyster hwn drwy gydnabod dysgu blaenorol.
Cyflwyniad
Cyflawnir y cymhwyster hwn trwy ddysgu seiliedig ar waith ac fe'i cyflwynir ar sail un i un.
Asesiad
Rhaid i'r dysgwr gwblhau portffolio o dystiolaeth yn llwyddiannus sy'n cynnwys arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
Dilyniant
Mae dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn gymwys i ymarfer mewn rolau Gofal Sylfaenol (Ymarfer Cyffredinol) ar lefel sgiliau 3.
Datblygwyd y cymhwyster hwn i roi mynediad i addysg a hyfforddiant Lefel 4 / Band 4 / Ymarferydd Cynorthwyol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dwyieithog:
Darpariaeth dwyieithog ar gael
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: