Prentisiaeth - Gweithrediadau Bwyd a Diod Lefel 2 a 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Level 2 - 78 wythnos
Level 3 - 91 wythnos
Prentisiaeth - Gweithrediadau Bwyd a Diod Lefel 2 a 3Prentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r diwydiant cynhyrchu bwyd a diod yn gyffrous, deinamig a chystadleuol. Mae'n faes sy'n rhoi lle blaenllaw i arloesi a'r defnydd o dechnoleg newydd ac yn addas i bobl o bob gallu a chefndir.
Mae dewis helaeth o swyddi ar gael yn y maes cynhyrchu a phrosesu bwyd a diod ac maent yn amrywio o gynhyrchu byrbrydau, bwydydd parod, melysion a siocledi, bwydydd wedi'u pobi, brechdanau, bwydydd wedi'u paratoi'n ffres, diodydd meddal a diodydd alcohol, ynghyd â sawl math arall o gynnyrch.
Mae'r cymhwyster Lefel 2 yn addas yn bennaf i ddysgwyr sydd am feithrin sgiliau a gwybodaeth ganolradd mewn gweithrediadau cynhyrchu/prosesu bwyd a diod ac mae'n cynnwys amrywiaeth o bynciau fel paratoi a phrosesu bwyd, gwyddor a thechnoleg bwyd a diogelwch ac ansawdd bwyd.
Mae'r cymhwyster Lefel 3 yn addas i ddysgwyr sydd am feithrin gwybodaeth a sgiliau galwedigaethol uwch mewn amrywiaeth eang o swydd goruchwylio a monitro ym maes prosesu bwyd a chadarnhau eu cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi fel rheolydd/technegydd prosesu bwyd, rheolydd/goruchwyliwr sicrhau ansawdd bwyd neu brif swyddog gwella prosesau, ac ati.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn cynhyrchu bwyd a diod yn ddymunol.
- Dylai fod gan yr holl brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.
Cyflwyniad
- Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
- O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2+3
Maes rhaglen:
- Cynhyrchu Bwyd
Dwyieithog:
- Darpariaeth ddwyieithog ar gael