Prentisiaeth Uwch - Trin Gwallt Lefel 4
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Rhan-Amser: 78 wythnos (18 mis)
Prentisiaeth Uwch - Trin Gwallt Lefel 4Prentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae’r fframwaith prentisiaeth hwn yn darparu llwybr proffesiynol seiliedig ar waith i hyfforddi uwch-ymarferwyr a rheolwyr yn y sector trin gwallt a harddwch, yn benodol mewn rolau trin gwallt. Gallai dysgwyr ddod o amrywiaeth o gefndiroedd gydag amrywiaeth o gymwysterau neu brofiad cyfatebol ond yn bendant byddent yn angerddol am weithio yn y sector trin gwallt.
Efallai bod dysgwyr eisoes yn gweithio mewn rôl trin gwallt lefel 3 ac yn dymuno datblygu yn eu gyrfa i rolau uwch a/neu waith rheoli neu ddatblygu eu dealltwriaeth a’u hymarfer yn y sector ymhellach er mwyn gwella’r gwasanaethau a gynigir. Gallent hefyd gael eu recriwtio o sectorau cysylltiedig mewn Gwaith Barbwr lefel 3.
Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r rhaglen brentisiaeth lefel uwch hon eisoes yn gweithio fel uwch-steilyddion, uwch-ymarferwyr, rheolwyr salonau neu gyfarwyddwyr. Gallent fod yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys salonau trin gwallt, sbas neu gyrchfannau gwyliau.
Gofynion mynediad
- Rhaid i chi fod yn gyflogedig ar hyn o bryd mewn salon trin gwallt ac yn o leiaf 19 oed. Os nad ydych yn gweithio mewn salon ar hyn o bryd, gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr
- Dylai fod gennych gymhwyster trin gwallt Lefel 3 neu wybodaeth a phrofiad proffesiynol cyfatebol
- Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig, yn barod i ddysgu a bod ag angerdd am y diwydiant
- Cyflwyniad personol priodol gan gynnwys dillad, gwallt a hylendid personol
- Sgiliau ymarferol, trefniadol a chymdeithasol gyda sylw i fanylion a glanweithdra
- Lefel uchel o ddeheurwydd a chydsymud
- Hyfedredd wrth ddefnyddio TGCh
- Bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad a chwblhau aseiniad prawf/tasg neu gyflwyniad
Mae pob lle ar y cwrs yn amodol ar gwblhau cyfweliad boddhaol a bodloni gofynion cwsmeriaid
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhan fwyaf o'r cwrs yn y gweithle. Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa o'r sesiynau theori, a all fod yn rhai un-i-un, yn yr ystafell ddosbarth a/neu ar-lein.
Nid yw'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori. Mae'n bosibl cwblhau'r cymhwyster wrth ddysgu o bell. Bydd yn rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg cyfleus, os oes angen.
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer pob uned
- Aseiniadau a thasgau
- Profion amlddewis yn cwmpasu'r wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein)
- Tasgau a phrofion theori
- Arsylwadau ac Asesiadau yn y gweithle
Dilyniant
Gall dysgwyr symud ymlaen i gael dyrchafiad mewn salonau, naill ai o fewn grwpiau salon neu gyda chyflogwyr newydd. Gallent hefyd gymryd rhan mewn masnach freinio, a dod yn gyflogwyr eu hunain.
Byddwch yn gallu ymgeisio am gyfrifoldebau ychwanegol yn eich gweithle, ac efallai y byddwch yn gallu gweithio mewn rôl oruchwylio neu reoli. Bydd gennych amrywiaeth o opsiynau ar gyfer gweithio fel steilydd, mewn salonau ledled y DU ac mewn gwledydd eraill.
Ar ôl cwblhau'r fframwaith hwn, gall dysgwyr hefyd symud ymlaen â'u hastudiaethau i ennill cymwysterau rheoli lefel uwch. Bydd eraill yn magu hyder creadigol i weithio ar lwyfan neu i hyfforddi, neu’n cael gwaith fel rheolwr salon, cyfarwyddwr creadigol, aseswr salon neu arweinydd tîm.
Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith
Bydd y cymhwyster Lefel 4 yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen o'u prentisiaeth i ddilyn amrywiaeth o lwybrau gyrfaol gwahanol, gan roi cyfleoedd i ddod yn arbenigwr yn y diwydiant a gweithio yn un o'r gyrfaoedd gorau sy'n agored i driniwr gwallt.
Mae Uwch-ymarferwyr/Steilyddion yn rhedeg salon i safon uchel, gan gynnwys agweddau'n ymwneud â gofal cwsmer, technegau ffasiwn cyfoes, gwaith o fewn tîm ac yn unigol. Yn meddu ar y gallu i gynghori ac arwain aelodau o'r tîm e.e. prentisiaid, aelodau staff iau. Cadw at bob agwedd ar Iechyd a Diogelwch. Perfformio pob gwasanaeth gwallt; cyrraedd nodau gwasanaeth a manwerthu. Yn meddu ar y gallu i gadw a thyfu sylfaen dda o gleientiaid, bod yn gyfredol ac yn flaengar. Goruchwylio'r tîm o steilyddion, monitro ansawdd y triniaethau a gynigir a monitro gweithgaredd cleientiaid
Llwybr 1: Trin Gwallt – Uwch-ymarferydd / Uwch-steilydd (Diploma Lefel 4 mewn Technegau Uwch ac Ymarfer Rheoli mewn Trin Gwallt)
Gwybodaeth am yr Uned
I gyflawni’r cymhwyster llawn, rhaid i ymgeiswyr gyflawni 12 credyd o’r uned orfodol, lleiafswm o 31 credyd o unedau Grŵp A a 25 credyd pellach o unedau dewisol Grŵp C.
UNED ORFODOL
Rheoli ansawdd gofal cleientiaid yn y sector trin gwallt a harddwch (cymhwysedd - 6 credyd, gwybodaeth - 6 credyd)
UNEDAU DEWISOL (Grŵp A)
- Cywiro lliw gwallt (cymhwysedd - 6 credyd, gwybodaeth - 6 credyd)
- Rheoli creu casgliad o steiliau gwallt (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
- Gwasanaethau gwallt a chroen pen arbenigol (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 4 credyd)
- Cemeg gwallt a chynhyrchion harddwch (gwybodaeth - 14 credyd)
UNEDAU DEWISOL (Grŵp C)
- Egwyddorion ffotograffiaeth stiwdio (gwybodaeth - 8 credyd)
- Ffotograffiaeth stiwdio (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
- Rheoli salon (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
- Rheoli gwerthiant yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 6 credyd, gwybodaeth - 3 credyd)
- Cysylltiadau cyhoeddus yn y sector trin gwallt a harddwch (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
- Marchnata yn y sector trin gwallt a harddwch (cymhwysedd - 4 credyd, gwybodaeth - 2 gredyd)
- Rheoli iechyd, diogelwch a diogeled yn y salon (cymhwysedd - 6 credyd, gwybodaeth - 2 gredyd)
Unedau Sgiliau Hanfodol Ychwanegol: (Gellir defnyddio dirprwy os oes gennym brawf o gyflawniad blaenorol)
- Cyfathrebu Lefel 2
- Trin Rhifau Lefel 2
Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dwyieithog:
Darpariaeth ddwyieithog ar gael
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch