Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth – Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    19 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth – Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r prentisiaethau hyn yn darparu 'safon aur' hyfforddiant cychwynnol i weithwyr mewn swyddi iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd, neu'n rai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Byddai Prentisiaid Lefel 3 yn ymgymryd â’r tasgau uchod, fodd bynnag byddent yn gyffredinol mewn rôl arweinydd tîm, uwch neu oruchwylio yn eu gweithle. Byddai gan brentis lefel 3 ymreolaeth yn ei rôl ac yn ymgymryd â rolau mwy cymhleth mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol. Gallant hefyd gyflawni mwy o dasgau clinigol ac arbenigol na phrentis lefel 2.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi mewn rôl addas mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • TGAU - graddau C neu uwch (neu raddau cyfatebol) mewn Saesneg / Cymraeg a Mathemateg. Efallai y bydd gofyn i ddysgwyr heb y graddau hyn uwchsgilio yn gyntaf a bydd angen iddynt gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed o leiaf i ddilyn y cymhwyster hwn.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cymhwyster hwn ar sail Un i Un yn y gweithle

Asesiad

Rhaid i'r dysgwr gwblhau'n llwyddiannus;

  • portffolio sy'n cynnwys arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
  • tasgau a osodir yn allanol ac a asesir yn fewnol.

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac mae'n asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer wrth eu gwaith. Mae'n rhoi'r cyfle i gyfoethogi gwybodaeth a sgiliau ac yn gwneud hynny drwy ddefnyddio cynnwys gorfodol ac unedau dewisol. Bydd o ddiddordeb i ddysgwyr sy'n gweithio mewn gwasanaethau cymorth cartref, gofal preswyl, darpariaeth anabledd dysgu gan gynnwys gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned. Yn benodol, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod:

  • yn deall, ac yn gallu cymhwyso'n ymarferol, yr egwyddorion a'r gwerthoedd sy'n sail i iechyd a gofal cymdeithasol
  • yn deall, ac yn gallu cymhwyso'n ymarferol, ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • yn hyrwyddo a chefnogi arfer effeithiol o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • yn ymwybodol o bolisïau allweddol o fewn y sector ac yn deall sut mae'r rhain yn effeithio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau
  • yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol
  • yn defnyddio ystod o dechnegau datrys problemau i fyfyrio ar arfer er mwyn parhau i wella'r defnydd o sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol o fewn eu rôl.

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i weithio gyda mwy o ymreolaeth a chyfrifoldeb fel Uwch Weithiwr Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 cymwysedig, gyda ffocws ar oedolion sy'n agored i niwed neu mewn angen.

Bydd hefyd yn helpu dysgwyr sydd angen gwneud cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Uwch Weithiwr Gofal, er y bydd angen bodloni gofynion cofrestru eraill hefyd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dwyieithog:

Darpariaeth dwyieithog ar gael

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth