Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Warysau a Storio Lefel 2 a 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    78 wythnos

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Warysau a Storio Lefel 2 a 3

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae’r economi’n dibynnu ar symud nwyddau’n effeithlon yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod nwyddau’n cyrraedd ar amser ac yn y cyflwr cywir, ac mae busnesau warysau a storio yn rhan hanfodol bwysig o'r broses hon.

Mae'r swyddi hyn yn cynnwys amrywiaeth o dasgau, megis derbyn a storio nwyddau, rheoli stoc a rhestru'r eitemau, pacio archebion, a sicrhau bod y warws yn gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.

Mae Gweithredwyr Warws ar Lefel 2 yn gweithio fel rhan o dîm, a gall fod angen iddynt lwytho/dadlwytho cerbydau. Bydd ganddynt hefyd gyfrifoldeb dirprwyedig am ddethol a phacio archebion cwsmeriaid yn gywir, gan sicrhau eu bod yn barod i'w hanfon ar amser.

Ar Lefel 3 mae Arweinwyr Tîm Warws yn gweithio fel uwch aelod y tîm. Yn ogystal â'u gweithgareddau warws arferol, bydd ganddynt hefyd gyfrifoldeb dirprwyedig am oruchwylio'r tasgau dethol a phacio archebion cwsmeriaid yn gywir, gan sicrhau bod y tîm yn cwblhau'r tasgau hyn ar amser yn barod i'w hanfon.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn cynhyrchu bwyd a diod yn ddymunol.
  • Dylai fod gan yr holl brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.

Cyflwyniad

  • Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

  • O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3

Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith

Nod Tystysgrif Lefel 2 Pearson Edexcel mewn Warysau a Storio yw darparu cymhwyster addas sy'n galluogi unigolion i ddangos eu cymhwysedd a'u dealltwriaeth yn erbyn set o unedau sy'n seiliedig ar anghenion y diwydiant.

Lluniwyd y cymhwyster i gefnogi'r rhai sy'n ymwneud â gweithrediadau dosbarthu fel trin a storio nwyddau mewn warws masnachol, warws diwydiannol neu warws symud, neu gyfleuster cludo nwyddau.

Yn ogystal â dysgu dan arweiniad, efallai y bydd dysgu gofynnol arall dan gyfarwyddyd gan diwtoriaid neu aseswyr. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, astudio preifat, paratoi ar gyfer asesu a gwneud asesiad pan nad yw dan oruchwyliaeth, megis darllen paratoadol, adolygu ac ymchwil annibynnol.

Mae'r cymwysterau hyn ar gyfer pob dysgwr 16 oed a hŷn sy'n gallu cyrraedd y safonau gofynnol.

Mae'r cymwysterau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion ddangos cymhwysedd yn erbyn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy'n seiliedig ar anghenion y diwydiant warysau a storio fel y'u diffinnir gan Sgiliau Logisteg Cyngor Sgiliau'r Sector. Fel y cyfryw, maent yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu medrus i'r sector.


Bydd Tystysgrif Lefel 2 Pearson Edexcel mewn Warysau a Storio yn cyfrannu at y Fframwaith Prentisiaeth mewn Warysau a Storio.

Y radd gyffredinol ar gyfer y cymwysterau hyn yw 'llwyddo'. Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r holl unedau gofynnol yn strwythur cymhwyster penodol.

I lwyddo mewn uned, rhaid i'r dysgwr:

  • gyflawni'r holl ddeilliannau dysgu penodedig
  • bodloni'r holl feini prawf asesu trwy ddarparu tystiolaeth ddigonol a dilys ar gyfer pob maen prawf
  • dangos mai eu tystiolaeth eu hunain yw'r dystiolaeth.

Mae’r cymwysterau hyn wedi’u dylunio i gael eu hasesu:
yn y gweithle, neu

  • mewn amodau sy'n debyg i'r gweithle, fel y nodir yng nghanllawiau asesu Sgiliau Logisteg ar gyfer cymwysterau yn y, neu
  • fel rhan o raglen hyfforddi.

Gall tystiolaeth o gymhwysedd ddod o:

  • arfer presennol ble mae tystiolaeth yn cael ei chynhyrchu o swydd bresennol
  • rhaglen ddatblygu ble daw tystiolaeth o gyfleoedd asesu sydd wedi'u cynnwys mewn rhaglen ddysgu/hyfforddiant boed yn y gweithle neu i ffwrdd o'r gweithle
  • Cydnabod Dysgu Blaenorol, ble mae dysgwr yn gallu dangos eu bod yn gallu bodloni’r meini prawf asesu mewn uned trwy wybodaeth, dealltwriaeth neu sgiliau sydd ganddynt eisoes heb ymgymryd â chwrs dysgu. Rhaid iddynt gyflwyno tystiolaeth ddigonol, ddibynadwy a dilys at ddibenion dilysu mewnol a dilysu safonau. Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol yn dderbyniol ar gyfer achredu uned, sawl uned neu gymhwyster cyfan
  • cyfuniad o'r rhain.


Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Arbenigol / Arall

Dwyieithog:

Darpariaeth dwy-ieithog ar gael