Celf a Dylunio Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Parc Menai (Celf a Dylunio), Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
2 flynedd
Celf a Dylunio Lefel 3Dysgwyr sy'n Oedolion
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi wedi gwirioni ar gelf, dylunio a'r cyfryngau? A hoffech chi weithio ac astudio yn y maes hwn?
Bydd y rhaglen hon yn rhoi i chi'r sgiliau a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol i fynd yn eich blaen i Addysg Uwch. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddatblygu eich creadigrwydd yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Mae'r rhaglen yn addas ar eich cyfer os ydych yn symud ymlaen o gwrs Lefel 2 perthnasol neu gyrsiau TGAU addas.
Yn ystod y rhaglen byddwch yn archwilio technegau a deunyddiau mewn meysydd nad ydych wedi eu hastudio o'r blaen. Caiff creadigrwydd pob myfyriwr ei feithrin a'i hybu mewn amgylchedd cefnogol, a bydd eich tiwtoriaid yn artistiaid a dylunwyr sy'n arfer eu crefft. Wrth i chi ddatblygu'ch portffolio o waith creadigol, cewch fanteisio ar gyfleusterau arbenigol, mewn stiwdios a gweithdai pwrpasol.
Cewch eich gwahodd i gyfweliad lle byddwch yn dangos eich portffolio o waith a thrafod eich diddordebau a'ch gobeithion o ran eich gyrfa.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 4 TGAU gradd C neu uwch, yn ddelfrydol i gynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith 1af a Mathemateg
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir ichi fynychu cyfweliad i roi y cyfle i chi drafod y cwrs.
Dewch â sampl o'ch portffolio i'r cyfweliad. Mae lleoedd ar y rhaglen yn destun cyfweliad a phortffolio.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Gwaith dosbarth
- Gwaith tiwtorial
- Ymweliadau addysgol
- MOODLE (awyrgylch ddysgu rhithiol)
- Google Classroom
Asesiad
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol/ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Gwaith portffolio
- Perfformiad ac arsylwi
Dilyniant
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwyster sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i Addysg Uwch neu cwrs Celf Sylfaen.
Os hoffech fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch yn lleol, mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig y cyrsiau gradd a ganlyn:
- Gradd Sylfaen (FdA) Celf a Dylunio
- BA (Anrh) Celfyddyd Gain
- Gradd Sylfaen (FdA) Ffotograffiaeth (a BA (Anrh) Ffotograffiaeth (Atodol))
Mae opsiynau Addysg Uwch eraill yn cynnwys cyrsiau gradd celf a dylunio arbenigol mewn meysydd megis ffasiwn, tecstilau, celfyddyd gain, dylunio graffig, ffotograffiaeth, aml-gyfryngau, dylunio 3D, crefftau dylunio a phensaernïaeth i enwi ychydig o'r meysydd sydd ar gael. Cewch gyngor gyrfaol arbenigol gan ein staff yn ogystal ag ymweliadau â cholegau a phrifysgolion.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
- International
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau
- Parc Menai
Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
