Lefel AS/A Cemeg (Rhan-amser)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Lefel AS/A Cemeg (Rhan-amser)Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi ddatblygu eich sgiliau gwyddonol ar lefel uwch? Mae Lefel A Cemeg yn bwnc allweddol wrth baratoi ar gyfer y rhan fwyaf o yrfaoedd o natur wyddonol, ac fe'i hystyrir yn fuddiol iawn fel cefndir i ddilyn gyrfa yn y byd ariannol neu fusnes.
Mae hefyd yn bwnc gwerthfawr a diddorol yn ei rinwedd ei hun. Mae Cemeg yn rhan greiddiol o Wyddoniaeth. Golyga astudio'r byd naturiol er mwyn canfod patrymau cemegol ymddygiadau.
Mae'r cwrs hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o gemeg, y cysyniadau sylfaenol a'u goblygiadau ymarferol. Mae hefyd yn cynnwys agweddau ar beirianneg ac yn darparu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd. Mae'n ffurfio baratoad gwerthfawr ar gyfer Addysg Uwch, a sgiliau rhesymegol, ymchwilio trefnus yn berthnasol i bob disgyblaeth.
Mae'r cwrs yn addas os ydych yn fyfyriwr ymroddedig ac wedi ennill graddau Mathemateg a Cemeg/Gwyddoniaeth dda ac ar lefel TGAU. Bydd y cwrs yn gwella eich diddordeb yn y pwnc a'i chymwysiadau ehangach, sy'n eich galluogi i ragori. Dylai pob myfyriwr fod â diddordeb mewn gwyddoniaeth a'i chymwysiadau ehangach, a rhaid iddynt fod yn barod i ddarllen o amgylch y pwnc.
Gofynion mynediad
Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:
- 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
- TGAU gradd BB mewn Gwyddoniaeth (Dwyradd) neu TGAU gradd B mewn Cemeg. TGAU gradd C mewn Mathemateg (Haen Uwch) neu TGAU gradd B mewn Rhifedd (Uwch/Canolradd).
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.
Cyflwyniad
Ystyrir bod myfyrwyr yn bobl greadigol sy'n gwneud eu synnwyr eu hunain o ffenomenâu y dônt ar eu traws. Mae'r cwrs yn cynnwys cymaint o ddysgu drwy brofiad ag sy'n bosib. Adlewyrchir hyn yn y gweithgareddau dysgu sy'n cynnwys:
- gweithio mewn grwpiau
- astudio'n annibynnol
- adrodd
- darllen
- trafod
- ymweliadau addysgol
- MOODLE (amgylchedd dysgu rhithiol)
- Dysgu Cyfunol (defnyddio rhaglenni dysgu digidol yn annibynnol ac yn y labordy)
Asesiad
Asesir y Lefel AS yn ystod y flwyddyn gyntaf ac asesir y Lefel A yn ystod yr ail flwyddyn.
- AS: 2 arholiad ddiwedd Mai/dechrau Mehefin, ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf (yn werth 40% o'r Lefel A gyfan); ac
- A2: Arholiad Ymarferol - mis Mawrth yr ail flwyddyn, a 2 arholiad fis Mehefin yr ail flwyddyn (yn werth 60% o'r Lefel A gyfan).
Dilyniant
Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster ychwanegol a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen.
Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS ac yn gallu gwneud cais ar gyfer ystod o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau, yn cynnwys Grŵp Llandrillo Menai. Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, a bod eich meddwl yn rhesymegol a bydd sgiliau ymarferol yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
Os byddwch yn dewis parhau â'ch astudiaethau mewn pwnc cysylltiedig, mae yna gyrsiau gradd ar gael mewn cemeg, peirianneg gemegol, biocemeg, gwyddoniaeth fiomoleciwlaidd, gwyddoniaeth fforensig a gwyddorau sy'n gysylltiedig â bwyd.
Mae'r llwybrau gyrfaol a gysylltir â Lefel A mewn Cemeg yn cynnwys Cemeg, Ynni Amgen, Peirianneg Gemegol, y Gwasanaeth Iechyd, Meteleg, Gwyddoniaeth Amgylcheddol, y Diwydiant Niwclear, Petroleg Biocemeg, Deintyddiaeth, Fferylliaeth, Gwyddoniaeth Filfeddygol a Meddygaeth.
Byddwch hefyd mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfa mewn addysgu, y lluoedd arfog neu yn y diwydiant cosmetig. Bydd eich astudiaethau ar y cwrs Lefel A yn eich helpu i wneud dewis gwybodus gan yr opsiynau sydd ar gael.
Gwybodaeth campws Bangor (Campws Newydd)
Gwybodaeth uned
AS Uned 1: IAITH CEMEG, STRWYTHUR MATER AC ADWEITHIAU SYML
Mae'r uned hon yn ymdrin â'r meysydd astudio a ganlyn:
Fformiwlâu a hafaliadau, syniadau sylfaenol ynghylch atomau, cyfrifiadau cemegol, bondio, adeileddau solet, Y Tabl Cyfnodol ac ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas.
AS UNED 2: EGNI, CYFRADD A CHEMEG CYFANSODDION CARBON
Mae'r uned hon yn ymdrin â'r meysydd astudio a ganlyn:
Thermocemeg, cyfraddau adweithio, effaith ehangach cemeg, cyfansoddion organig, hydrocarbonau, halogenoalcanau, alcoholau ac asidau carbocsilig a dadansoddi cyfrannol.
A2 UNED 3: CEMEG FFISEGOL AC ANORGANIG
Mae'r uned hon yn ymdrin â'r meysydd astudio a ganlyn:
Rhydocs a photensial electrod safonol, adweithiau rhydocs, cemeg y bloc-p, cemeg y metelau trosiannol bloc-d, cineteg gemegol, newidiadau enthalpi ar gyfer solidau a hydoddiannau, entropi a dichonoldeb adweithiau, cysonion ecwilibriwm ac ecwilibria asid-bas
A2 UNED 4: CEMEG ORGANIG A DADANSODDI
Mae'r uned hon yn ymdrin â'r meysydd astudio a ganlyn:
Stereoisomeredd, aromatigedd, alcoholau a ffenolau, aldehydau a chetonau, asidau carbocsilig a'u deilliadau, aminau, asidau amino, peptidau a phroteinau, synthesis organig a dadansoddi.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Lefel AS/A
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Bangor