Lefel AS/A Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Rhan-amser)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Lefel AS/A Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Rhan-amser)Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.
Disgrifiad o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb mewn pwrpas iaith a'i natur? Hoffech chi ddatblygu sgiliau gwerthfawrogi llenyddiaeth a dadansoddi beirniadol? Mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, sy'n darparu dilyniant naturiol o lefel TGAU. Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i chi ystyried sut mae agweddau a gwerthoedd yn cael eu creu a'u cyfleu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu yn ogystal ag astudio drama, barddoniaeth a thestunau rhyddiaith o bersbectif ieithyddol a llenyddol. Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ar ac yn ehangu eich astudiaethau, gan alluogi gwerthfawrogiad o arwyddocâd diwylliannol y byd llenyddol modern a chlasurol.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:
- 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
- TGAU gradd B mewn Saesneg Iaith Gyntaf a Llenyddiaeth Saesneg
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Dysgu yn y dosbarth
- Trafodaethau
- Darllen ac ysgrifennu dadansoddol
- Ymchwilio'n annibynnol
- Gwaith grŵp
- Dadleuon
Asesiad
Mae'r cwrs yn cael ei asesu fel a ganlyn:
- Cynhelir arholiadau allanol ym mis Mehefin bob blwyddyn
- Gwaith cwrs yn LL2 a LL3
Dilyniant
Os ydych chi'n cyflawni Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi ddatblygu.
Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn sawl sefydliad, gan gynnwys Grŵp Llandrillo Menai. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau Ieithyddiaeth a phynciau ieithyddol eraill, a llawer mwy.
Byddwch hefyd yn gwella'ch rhagolygon o ran gyrfa, ac os dewiswch fynd yn syth i fyd gwaith, gallwch wneud cais am ystod eang o swyddi.
Gwybodaeth campws Bangor (Campws Newydd)
Gwybodaeth Uned
Blwyddyn 1:
Uned 1 - Dadansoddiad cymharol ac ysgrifennu creadigol.
Adran A: Dadansoddiad cymharol o un gerdd o flodeugerdd CBAC a thestun nas gwelwyd o'r blaen.
Adran B: dau ddarn o waith ysgrifennu creadigol a sylwebaeth gymharol.
Uned 2 - Drama ac astudiaeth o destun nad yw'n llenyddol (arholiad llyfr agored)
Drama: Kindertransport gan Diane Samuels
Testun nad yw'n llenyddol: Down and out in Paris and London gan George Orwell
Blwyddyn 2:
Uned 3: Shakespeare (arholiad llyfr caeedig) Dau gwestiwn arholiad ar Othello.
Uned 4: Testunau nas gwelwyd o'r blaen ac astudiaeth o ryddiaith (arholiad llyfr agored)
Adran A: Dadansoddiad cymharol o destunau nas gwelwyd o'r blaen.
Adran B: Astudiaeth o Ryddiaith - The Handmaid's Tale gan Margaret Atwood
Uned 5: Astudiaeth o genre critigol a chreadigol (gwaith cwrs)
Adran A: Astudiaeth feirniadol a pharhaus o genre rhyddiaith.
Adran B: Un darn o ysgrifenedig gwreiddiol sy'n gysylltiedig ag astudio genre.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Lefel AS/A
Dwyieithog:
n/a