Lefel AS/A Ffrangeg
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Pwllheli, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Lefel AS/A FfrangegLlawn Amser (Addysg Bellach)
Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi ddatblygu eich dealltwriaeth o Ffrangeg? Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i gyfathrebu'n hyderus, yn glir ac yn effeithiol mewn Ffrangeg, drwy gyfrwng y gair llafar ac ysgrifenedig. Mae'n darparu cwricwlwm cydlynol a gwerth chweil, gan ymestyn eich sgiliau iaith i lefel uwch. Mae hefyd yn rhoi hwb i'ch dewisiadau gyrfa a rhagolygon Addysg Uwch.
Mae'r cwrs yn addas os ydych wedi cwblhau TGAU mewn Ffrangeg, ac yn awyddus i barhau i astudio yn y maes hwn. Gellir ei gymryd fel rhan o raglen astudio lawn-amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS/A eraill, neu o bosib gyda chyrsiau Lefel 3 eraill.
Ar y cwrs hwn, cewch ddysgu cyfathrebu'n hyderus, yn glir ac yn effeithiol, ar lafar ac ar bapur, drwy gyfrwng y Ffrangeg. Mae maes llafur y cwrs yn un cynhwysfawr a buddiol dros ben, a bydd yn datblygu'ch sgiliau iaith i safon uwch. Bydd hefyd yn rhoi mwy o ddewis i chi o ran gyrfa ac yn gwella'ch rhagolygon o ran dilyn cwrs Addysg Uwch. Os ydych wedi cwblhau TGAU mewn Ffrangeg, ac os ydych am ddal ati i astudio'r iaith, dyma'r cwrs i chi. Gallwch ei ddilyn yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS/Lefel A eraill, neu o bosibl gyda chyrsiau Lefel 3 eraill. Bydd ein staff yn fwy na pharod i'ch helpu i lunio rhaglen a fydd yn ateb eich gofynion orau. Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser. Gwybodaeth uned Ar y cwrs hwn, ymdrinnir â llawer maes a fydd yn helpu i chi ddysgu am fecaneg yr iaith. Byddwch yn dysgu siarad ac ysgrifennu Ffrangeg mewn gwahanol gyweiriau, gan ddefnyddio iaith fwyfwy cywir, cymhleth ac amrywiol. Ar y cwrs, byddwch hefyd yn meithrin eich gallu i edrych yn feirniadol ar y gymdeithas gyfoes, ynghyd â'i chefndir diwylliannol a'i hetifeddiaeth, a geir mewn gwledydd lle siaredir Ffrangeg, ac yn datblygu cysylltiadau â'r gymdeithas honno. Yn anad dim, byddwch yn astudio diwylliant ac arferion Ffrainc, a'r pynciau sy'n hawlio'r penawdau yno. Blwyddyn 1 (Lefel AS) Pobl Ifanc a Chymdeithas: Mae'r uned hon yn ymdrin ag amrediad o bynciau a fydd yn gwella'ch sgiliau iaith a'ch gwybodaeth o ddiwylliannau Ffrengig. Ymhlith y pynciau a astudir, mae addysg, gyrfaoedd a pherthynas pobl â'i gilydd. Hamdden a Ffordd o Fyw: Yn yr uned hon, astudir amrediad arall o bynciau, gan feithrin eich hyder i ddefnyddio'r Ffrangeg mewn cyd-destunau eraill. Mae'r pynciau hyn yn cynnwys chwaraeon, teithio, cyffuriau, diet ac ymarfer corff. Blwyddyn 2 (A Level): Materion Cymdeithasol a Gwleidyddol: Yn yr uned hon, byddwch yn defnyddio'ch sgiliau Ffrangeg mewn amrediad o gyd-destunau mwy dyrys fel gwleidyddiaeth, mewnfudo, hiliaeth, terfysgaeth a'r cyfryngau. Materion Amgylcheddol: Yn yr uned hon, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau fel llygredd, cynhesu byd eang, ailgylchu a mathau o ynni.
Gofynion mynediad
Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:
- 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
- TGAU gradd B mewn Ffrangeg
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Dysgu yn y dosbarth
- Trafodaethau
- Darllen analytig, ysgrifennu ac ymateb
- Gan weithio gyda ffurfiau cyfoes o gyfryngau, fel ffynonellau newyddion Ffrangeg
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Caiff y cwrs ei hasesu drwy arholiadau allanol, sydd yn digwydd ym mis Mehefin bob blwyddyn.
Dilyniant
Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau, gan gynnwys Grŵp Llandrillo Menai. Ymhlith y cyrsiau gradd y gallwch wneud cais i'w dilyn mae Ffrangeg, Astudiaethau Cyfieithu, a phynciau ieithyddol eraill a llawer mwy.
Bydd y sgiliau byddwch yn meithrin wrth astudio Ffrangeg hefyd yn creu manteision eang tu allan i addysg, a bydd yn fuddiol yn eich dyfodol. Gallech ddewis i fyw a gweithio mewn gwlad Ffrangeg ei hiaith, neu chwilio am waith mewn cyfieithu, addysg, cydberthynas rhyngwladol neu'r cyfryngau.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- International
- Lefel AS/A
- Ieithoedd
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau
- Pwllheli