Lefel AS/A Ffiseg
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Lefel AS/A FfisegDisgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch?
Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio. Gallwch ddod o hyd i'r grid pynciau Lefel A i wneud eich dewisiadau ar ein prif dudalen Lefel A.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar y cwrs hwn, cewch wella'ch dealltwriaeth o Ffiseg - y cysyniadau sylfaenol a'r goblygiadau ymarferol. Gall arwain at yrfa ym maes gwyddoniaeth, peirianneg, cyfrifiadureg ac mewn meysydd eraill. Bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer Addysg Uwch, ac mae'r sgiliau datrys problemau a ddefnyddir mewn Ffiseg yn werthfawr ym mhob disgyblaeth.
Mae hefyd yn bwnc gwerthfawr a diddorol yn ei rinwedd ei hun. Mae Ffiseg yn rhan greiddiol o Wyddoniaeth. Golyga astudio'r byd naturiol er mwyn canfod patrymau ymddygiad y gellir crynhoi rhai ohonynt mewn Deddfau Ffiseg syml.
Os ydych yn fyfyriwr ymroddedig, ac os cawsoch raddau da yn eich TGAU Ffiseg/Gwyddoniaeth a Mathemateg, mae'r cwrs hwn yn addas i chi. Bydd yn meithrin eich diddordeb yn y pwnc a'i gymwysiadau ehangach, gan alluogi i chi ragori.
Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu dealltwriaeth eang o Ffiseg gan astudio gwaith arloeswyr yn amrywio o Newton i wyddonwyr gofod y presennol.
Blwyddyn 1 (AS):
Uned 1: Mudiant, Egni a Mater
Yn y modiwl hwn, byddwch yn adeiladu ar y gwaith a wnaethoch yn eich cwrs TGAU, gan astudio rhai o elfennau mwyaf sylfaenol Ffiseg. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i waith newydd fydd yn gwbl wahanol i'r hyn a astudiwyd ar gyfer TGAU, gan gynnwys astudio'r sêr a gronynnau ffiseg.
Uned 2: Trydan a Golau
Yn yr uned hon, byddwch yn astudio cylchedau trydanol a cherrynt trydanol ym myd natur. Yn ogystal, byddwch yn edrych ar nodweddion tonnau gan gynnwys tonnau goleuni, natur ddeuol a sut mae laserau yn gweithio.
Blwyddyn 2 (Uwch)
Uned 3: Osgiliadau a Niwclysau
Yn yr uned hon, byddwch yn astudio osgiliadau mwy cymhleth gan gynnwys osgiliadau mewn cylch ac osgiliadu. Byddwch hefyd yn astudio ffiseg niwclear gan gynnwys y dulliau o gynhyrchu ynni o niwclews.
Uned 4: Meysydd ac Opsiynau
Mae rhan greiddiol y modiwl hwn yn ymwneud â meysydd disgyrchiant, yn drydanol a magnetig. Bydd hyn yn cynnwys astudio orbitau'r planedau (astroffiseg). Ceir dewis o bedwar opsiwn ar gyfer astudio pellach:
- Opsiwn A: Ceryntau Eiledol
- Opsiwn B: Ffiseg Feddygol
- Opsiwn C: Ffiseg Chwaraeon
- Opsiwn D: Cynaliadwyedd a Chadwraeth
Uned 5: Arholiad Ymarferol
Yn yr arholiad hwn cewch eich asesu ar y sgiliau ymarferol rydych wedi'u dysgu yn ystod y pedair uned flaenorol.
Gofynion mynediad
Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:
- 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
- TGAU gradd BB mewn Gwyddoniaeth (Dwyradd) neu TGAU gradd B mewn Ffiseg. TGAU gradd B mewn Mathemateg (Haen Uwch). Ni dderbynnir Gwyddoniaeth Gymhwysol TGAU / BTEC.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.
Cyflwyniad
Ystyrir bod myfyrwyr yn bobl greadigol sy'n gwneud eu synnwyr eu hunain o ffenomenâu y dônt ar eu traws.
Mae'r cwrs yn cynnwys cymaint o ddysgu drwy brofiad ag sy'n bosib. Adlewyrchir hyn yn y gweithgareddau dysgu sy'n cynnwys:
- gweithio mewn grwpiau
- astudio'n annibynnol
- adrodd
- darllen
- trafod
- defnyddio cyfrifiaduron wrth wneud gwaith ymarferol
- ymweliadau addysgol
- MOODLE (amgylchedd dysgu rhithiol)
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Asesir y Lefel AS yn ystod y flwyddyn gyntaf ac asesir y Lefel A yn ystod yr ail flwyddyn.
- AS: 2 arholiad ddiwedd Mai/dechrau Mehefin, ar ddiwedd y flwyddyn 1af (yn werth 40% o'r Lefel A gyfan); ac
- A2: Arholiad Ymarferol, mis Mawrth yr ail flwyddyn, a 2 arholiad fis Mehefin yr ail flwyddyn (yn werth 60% o'r Lefel A gyfan).
Dilyniant
Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn rhoi gwerth mawr ar Lefel A mewn Ffiseg, yn enwedig y sgiliau rhesymu ar sgiliau ymarferol a feithrinir wrth astudior pwnc.
Gellir cyfuno Lefel A Ffiseg â phynciau lefel A eraill er mwyn arwain at ddewis eang o yrfaoedd, gan gynnwys gyrfaoedd yn ymwneud â rhifau megis Cyfrifeg, Pensaernïaeth, Busnes a Chartograffeg.
Mae hefyd yn bwnc manteisiol ar gyfer gyrfa ym maes Gwyddorau Ffisegol, Cemeg, neu Wyddorau Bywyd, gan gynnwys Meddygaeth a Milfeddygaeth. Mae gyrfa ym maes Awyrennau neu Feteoroleg hefyd yn bosibiliadau, yn ogystal â gyrfa ym maes Peirianneg, gan gynnwys Electroneg neu Gyfrifiadura.
Bydd eich astudiaethau ar y cwrs Lefel A yn help i chi ddewis yn ddoeth or dewisiadau sydd ar gael.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- International
- Lefel AS/A
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau
- Pwllheli