Mathemateg Pellach UG
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 blwyddyn
Mathemateg Pellach UGLlawn Amser (Addysg Bellach)
Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau mathemateg ar lefel uwch?
Fe allwch gymeryd y cwrs fel rhan o raglan astudio llawn amser ar y cyd hefo pynciau UG eraill neu mewn achosion cyrsiau lefel 3 eraill. Mae Mathemateg pellach yn fanteisiol iawn ar gyfer unryw fyfyriwr sydd a gwir diddordeb mewn ehangu eu gwybodaeth o'r pwnc, neu yn bwriadu ei astudio ar lefel Uwch.
Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau AS eraill, neu o bosibl gyda chymwysterau Lefel 3 eraill. Mae Mathemateg Bellach yn ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr sydd â diddordeb gwirioneddol mewn ehangu eu gwybodaeth o'r pwnc, neu sy'n dymuno parhau â'r pwnc ar Lefel Uwch.
Gwybodaeth am yr Unedau
Mae'r cwrs yn ymdrin â sawl agwedd ar fathemateg a bwriedir iddo feithrin ynoch ddealltwriaeth eang a thrylwyr o'r pwnc, yn ogystal â rhoi i chi fwynhad ac ymdeimlad o gyflawniad. Golyga'r pwyslais ar fodelu a chyd-destun mathemategol y byddwch yn gallu adnabod a defnyddio mathemateg mewn sawl agwedd ar eich bywyd bob dydd.
Mae'r modiwl Mathemateg Bur yn cyflwyno pynciau fel Matricsau, Anwythiad Mathemategol a Rhifau Cymhlyg, sy'n cynnwys y cysyniad o rif dychmygol. Mae'r rhain i gyd yn syniadau diddorol y bydd myfyrwyr yn cael mwynhad mawr o'u hastudio.
Blwyddyn 1
AS - Uned 1 (33⅓% o AS)
Defnyddio Anwythiad Mathemategol i greu profion mathemategol, gweithio gyda Rhifau Cymhlyg i ddatrys polynomialau sydd ag israddau dychmygol, deall sut i ganfod modwlws ac arg rhif cymhlyg a dehongli'r diagram argand, Algebra Matricsau, Trawsffurfiannau Matricsau, y berthynas rhwng israddau a chyfernodau polynomialau, symiant cyfres o rifau, a Fectorau pellach.
AS - Uned 2 (33⅓% o AS)
Ystadegau - Deall a defnyddio cymedr ac amrywiant cyfuniadau llinol hapnewidynnau annibynnol, canfod cymedr dosraniadau tebygolrwydd arwahanol, deall a defnyddio dosraniadau tebygolrwydd di-dor, dosraniad Poisson ac esbonyddol, cyfernod cydberthynol rhestrol Spearman a dosraniad sgwâr (x) chi.
AS - Uned 3 (33⅓% o AS)
Momentwm ac Ysgogiad, Deddf Hooke, Gwaith, Ynni a Phŵer, Mudiant mewn cylch, yng nghyd-destun llinell lorweddol a fertigol, differu ac integru fectorau.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:
- 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
- TGAU gradd A mewn Mathemateg
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
- Cefnogaeth Tiwtorial
- Ymweliadau addysgol
- MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir).
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
3 arholiad - 1.5awr yr un
Dilyniant
Awgrymir i unryw un sydd eisiau mynd ymlaen i astudio Mathemateg yn y Brifysgol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Lefel AS/A
Dwyieithog:
n/a