Highfield Cwrs E-Ddysgu Ar Ymwybyddiaeth o Asbestos
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
65 munud (Mae'r hyd, a dalgrynnwyd, wedi'i seilio ar faint o gynnwys y fideo a ddangosir. Nid yw'n cynnwys amser llwytho nag amser i ystyried y cwestiynau).
Argymhellir System sy'n Cynnwys:
• Porwr: porwr gwe o'r math diweddaraf
• Fideo: Gyriant fideo o'r math diweddaraf
• Cof: RAM 1Gb+
• Cyflymder Lawrlwytho: Band Eang (3Mb+)
Highfield Cwrs E-Ddysgu Ar Ymwybyddiaeth o AsbestosCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs e-ddysgu ar Ymwybyddiaeth o Asbestos yn addas i unrhyw un a all ddod i gysylltiad ag asbestos yn ei waith. Gan amlaf, mae'r bobl hyn yn cynnwys adeiladwyr, plymwyr, trydanwyr, seiri a chrefftwyr eraill sy'n gweithio ym maes adeiladu a chynnal a chadw.
Mae'r Rheoliadau Rheoli Asbestos yn berthnasol i gyflogwyr, gweithwyr, pobl hunangyflogedig a deiliaid dyletswydd, ac maent yn cwmpasu pob gwaith a wneir â defnyddiau sy'n cynnwys asbestos. Yn ôl y degfed rheoliad, mae'n rhaid i bob cyflogwr sicrhau bod gweithwyr sy'n debygol o ddod i gysylltiad ag asbestos yn cael gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant digonol. Mae'r rhain yn cynnwys gweithwyr cynnal a chadw ac eraill a all ddod i gysylltiad ag asbestos neu darfu arno.
Yn ogystal â rhoi gwybod i ymgeiswyr am beryglon gweithio gydag asbestos, bydd y cwrs yn eu helpu i adnabod defnyddiau sy'n cynnwys asbestos ac yn rhoi gwybod iddynt ym mhle y defnyddiwyd asbestos. Sonnir hefyd am y camau y gellir eu cymryd i leihau'r risgiau, a thrafodir y ddeddfwriaeth sy'n berthnasol wrth weithio gydag asbestos.
Gofynion mynediad
N/A
Cyflwyniad
E-ddysgu
Asesiad
I gloi pob modiwl, ceir cwestiynau amlddewis. Er mwyn llwyddo ar y cwrs, rhaid i'r ymgeiswyr ateb y rhain i gyd yn gywir. Cyn eu cyflwyno, cânt gyfle i edrych dros yr atebion ar ddiwedd pob modiwl a chânt dri chynnig ar eu hateb.
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.
Gwybodaeth campws Dysgu o Bell
Modiwl 1: Priodweddau Asbestos a'r Risgiau sy'n gysylltiedig â dod i gyswllt ag Asbestos
Modiwl 2: Gwahanol Fathau o Asbestos
Modiwl 3: Osgoi'r Risgiau sy'n gysylltiedig ag Asbestos
Modiwl 4: Amlinelliad o'r Ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag Asbestos
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
n/aAdeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig