Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BA (Anrh) Rheoli Busnes (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 1 flwyddyn NEU Rhan-amser: 2 flynedd. Ar gael hefyd ar sail fodiwlaidd.

    • Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Mercher, 9am - 9pm
    • Dolgellau: Dydd Gwener, 9.15am - 4pm
Gwnewch gais
×

BA (Anrh) Rheoli Busnes (Atodol)

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n llawn-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa lwyddiannus yn y byd busnes? Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle cyffrous a heriol ichi ennill gwybodaeth a dealltwriaeth eang o Reoli Busnes, a dysgu sgiliau sy'n berthnasol i amryw o wahanol gyrff busnes.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Traethawd Estynedig
  • Rheoli Strategol
  • Systemau Gwybodaeth Busnes
  • Datblygu Pobl a Sefydliadau
  • Sefydlu a Rheoli Mentrau Newydd

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

Bydd dilyniant i flwyddyn atodol y Radd BA (Anrh) lefel 6 hon yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh) mewn Rheoli Busnes yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus. Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 240 credyd, sef 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws ar lefel 4 a 5 (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu gefnogi eu cais drwy gyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 6 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Sesiynau tiwtorial
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr-ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Amserlen

Llawn amser: 1 flwyddyn, gan astudio fel arfer am ddau ddiwrnod bob wythnos.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau Ychwanegol Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol: Yn ystod y rhaglen, gall myfyrwyr gael eu hannog i ymaelodi â chyrff proffesiynol a all olygu costau ychwanegol. Mae'n bosibl y bydd ymweliadau allanol yn cael eu cynnal yn ystod y rhaglen y bydd angen i fyfyrwyr gyfrannu'n ariannol tuag atynt. Dylai myfyrwyr gyllido tua £50 ar gyfer hyn. Amcangyfrif yn unig yw'r ffigur hwn, a gall y gost fod yn uwch yn dibynnu ar y cyfleoedd fydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cysylltu

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Cyswllt (Coleg Meirion-Dwyfor):

Catrin Edwards (Rhaglen Arweinydd):edward4c@gllm.ac.uk

Iola Jones (Gweinyddiaeth): jones9i@gllm.ac.uk

Cyswllt (Coleg Llandrillo):

David Kirkby (Rhaglen Arweinydd): kirkby1d@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Traethawd Estynedig
  • Cynnig Ymchwil
  • Arholiad
  • Traethodau
  • Adroddiadau

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Mae cwblhau'r cwrs hwn yn arwain at gyfleoedd gyrfaol mewn ystod eang o fusnesau. Bydd gan fyfyrwyr hefyd yr opsiwn o astudio ar gyfer cymwysterau pellach ar gyrsiau is-raddedig neu broffesiynol.

I'r rhai sy'n astudio i ddatblygu yn eu proffesiwn presennol, gall y cwrs hwn arwain at fwy o opsiynau gyrfa yn eich busnes neu faes.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Mae'r cwrs BA (Anrh) lefel 6 mewn Rheoli Busnes yn parhau i adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd ar lefel 4 a 5 y cwrs gradd sylfaen. Fe'i cynlluniwyd i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr ym maes arferion rheoli busnes.

O'r radd sylfaen i'r radd BA (Anrh), mae'r cwricwlwm eang yn ymdrin â'r holl brif ddisgyblaethau busnes ac yn canolbwyntio ar faterion cyfoes. Bydd y cwrs lefel 6 yn rhoi cyfleoedd priodol i chi barhau i feithrin sgiliau a hefyd i'w defnyddio i ddatrys y problemau amrywiol sy'n wynebu busnesau. Ymysg y sgiliau hyn mae'r gallu i ddadansoddi a dehongli a fydd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gyrfa neu astudiaethau pellach.

Bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi a gwerthuso'r gwahanol ddewisiadau sydd ar gael i sefydliadau, ac yn dod i ddeall y broses o greu strategaeth fusnes. Byddant yn ystyried y cyd-destun mae sefydliadu'n gweithio ynddo ac yn dod i werthfawrogi sut y gall ffactorau allanol ansicr effeithio ar gyfeiriad strategol busnesau. Wedi iddynt gwblhau'r cwrs bydd myfyrwyr wedi meithrin dealltwriaeth o'r broses o gynllunio a rheoli gweithgareddau busnes, a bydd ganddynt y gallu i gymhwyso medrau busnes i ystod eang o sefyllfaoedd a phroblemau.

Lefel 6

Traethawd Estynedig
Nod a phwrpas y modiwl hwn yw cynnig a chwblhau traethawd ymchwil estynedig mewn cyd-destun a fydd yn cefnogi datblygu ystod o sgiliau academaidd a sgiliau trosglwyddadwy, yn cynnwys meddwl yn feirniadol, datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol trwy waith ymchwil, cynllunio a rheoli amser, dadansoddi a gwerthuso ymchwil sylfaenol ac ymchwil eilaidd, llunio crynodeb a chyflwyno'r data, ysgrifennu strwythuredig, gwneud penderfyniadau a chyfiawnhau ynghyd â thrafod a rhoi'r theori ar waith.

Rheoli Strategol
Nod y modiwl hwn yw datblygu ymwybyddiaeth o'r materion amgylcheddol mewnol ac allanol cyfoes sy'n dylanwadu ar benderfyniadau strategol mewn sefydliadau. Bydd y dysgwyr yn astudio ac yn meithrin sgiliau gwerthuso wrth ddefnyddio fframweithiau'n arf i wneud penderfyniadau strategol mewn amgylcheddau busnes.

Systemau Gwybodaeth Busnes
Mae'r modiwl yn meithrin ymwybyddiaeth feirniadol y myfyrwyr o amrediad o faterion a godir pan fydd sefydliadau'n ystyried sut i reoli a defnyddio data. Y nod yw adnabod ac ystyried y materion rheoli sy'n codi yn sgîl datblygu a rhoi dulliau cipio, casglu a rheoli data ar waith, a sut mae hyn yn llywio ac yn gwella prosesau cynllunio strategol ac yn rhoi mantais gystadleuol i sefydliadau.

Datblygu Pobl a Sefydliadau
Yn y modiwl hwn, edrychir ar sut y datblygir trefniadaeth a phobl mewn sefydliadau.

Bydd yn hybu dadansoddi syniadau newydd a'u rhoi ar waith, drwy ymchwilio i gwmnïau.

Asesir a gwerthusir gwerth arferion datblygu ac ymyriadau mewn sefydliadau ynghyd â'r effaith a gânt ar berfformiad busnesau.

⁠ Bydd y myfyrwyr yn ystyried pwysigrwydd creu strategaeth ddysgu heriol mewn sefydliadau a phwysigrwydd hyrwyddo ymwybyddiaeth feirniadol o sut mae sefydliadau cyfoes yn rhoi diwylliant o ddysgu a datblygu ar waith.

Sefydlu a Rheoli Mentrau Newydd
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar sut mae diffinio busnesau bach ac ar eu cyfraniad economaidd a chymdeithasol. Trafodir rôl yr entrepreneur o safbwynt twf posibl busnes bach yn ogystal â phwysigrwydd twf cwmnïau bach o ran yr economi. Edrychir ar fodelau a thueddiadau newydd ym maes sefydlu a datblygu busnesau; sut y rheolir y broses ddatblygu ac addasrwydd gwahanol ffynonellau ariannol, yn cynnwys benthyca a chyllid ecwiti. Edrychir ar fodelau a thueddiadau newydd ym maes sefydlu busnesau newydd a chydnabod rôl a phwysigrwydd yr unigolyn mewn menter a chanolbwyntio ar yr heriau sy'n wynebu rheolwyr wrth iddynt esblygu i fod yn arweinwyr.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr mewn llyfrgell

Sefydliad dyfarnu

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date