Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Parc Menai (Celf a Dylunio)
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 3 blynedd; Rhan-amser: 6 blynedd

    Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau, 9:10am - 3:10pm

  • Cod UCAS:
    W190
Gwnewch gais
×

BA (Anrh) Celf Gain

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Parc Menai

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Parc Menai

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs yn datblygu crefft y myfyrwyr ym maes Celfyddyd Gain wrth iddynt feithrin arbenigeddau sy'n cynnwys paentio, cerflunio a gwneud printiau, fideos a gosodiadau celf.

Modiwlau Lefel 4

  • Defnyddiau a Dulliau 1
  • Cysyniadau ac Ymarfer ym maes Celfyddyd Gain
  • Cyflwyniad i Ymchwil Weledol mewn Celfyddyd Gain
  • Celf a Dylunio mewn Cyd-destun 1
  • Cyd-destun Safle ac Ymarfer 1
  • Dadadeiladu ac Ailadeiladu

Modiwlau Lefel 5

  • Ymchwil ac Ymarfer ym maes Celfyddyd Gain
  • Celf a Dylunio mewn Cyd-destun 2
  • Defnyddiau a Dulliau mewn Celfyddyd Gain 2
  • Datblygu Ymarfer yn y Stiwdio
  • Cyd-destun Safle ac Ymarfer 2

Modiwlau Lefel 6

  • Traethawd Hir/Amgueddfa Ddychmygol
  • Astudio’n Annibynnol 1 - Ymchwilio a Chreu
  • Lleoli Ymarfer Proffesiynol
  • Astudio’n Annibynnol 2 - Arddangosyn

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion Academaidd Arferol:

  • O leiaf 64 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; Diploma Sylfaen, Astudiaethau Sylfaen; ; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.

Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol.

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad a phortffolio boddhaol.

Gofynion Academaidd i gael mynediad i raglen ar Lefel 5

Bydd ymgeiswyr ar gyfer y cwrs lefel 5 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu gefnogi eu cais drwy gyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad a phortffolio boddhaol.

Gofynion Academaidd i gael mynediad i raglen ar Lefel 6

Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh.) mewn Celf a Dylunio yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus.

Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu gefnogi eu cais drwy gyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad a phortffolio boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Prosiectau mewn stiwdios a gweithdai, trafod gwaith yn feirniadol mewn grwpiau, darlithoedd, tiwtorialau, seminarau ac ymweliadau â safleoedd.

Amserlen

  • Y rhaglen llawn amser yn 3 diwrnod o amser cyswllt dros 3 blynedd ac yn 2 ddiwrnod o ddysgu hunangyfeiriedig
  • Mewnlenwi'n rhan-amser ar y rhaglen llawn amser dros chwe blynedd

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau ychwanegol

Gall Costau Ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Disgwylir i bob myfyriwr gymryd rhan mewn ymweliadau a theithiau astudio a dylid neilltuo tua £250 ar gyfer hyn.
  • Ffi flynyddol o £30 am ddefnyddio'r stiwdio - cyfraniad tuag at gostau nwyddau a deunyddiau hanfodol a phwrpasol a ddefnyddir yn ystod y sesiynau yn y stiwdio.
  • Defnyddiau celf sydd eu hangen ar gyfer astudio’n annibynnol a modiwlau ymarferol - rhennir rhestrau o'r defnyddiau/offer ar ddechrau Bl. 1
  • Costau cludiant ychwanegol ar gyfer ymweliadau ag Orielau ac Arddangosfeydd
  • Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig ag arddangos gwaith.

Ysgoloriaeth Cymhelliant Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ewch i wefan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael gwybod mwy am yr Ysgoloriaeth Cymhelliant.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu am gymorth i lenwi’r cais, mae croeso i chi gysylltu â Swyddogion Cangen Grŵp Llandrillo Menai ar – colegcymraeg@gllm.ac.uk

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Helen Jones (Rhaglen Arweinydd): jones11h@gllm.ac.uk

Sera Williams (Gweinyddiaeth): willia22s@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r asesu ffurfiannol yn cael ei wneud ar ffurf:

  • Tiwtorialau Unigol
  • Tiwtorialau Grŵp
  • Hunanasesu
  • Asesiad gan gyd-fyfyrwyr
  • Trafodaeth feirniadol mewn grŵp

Mae'r asesu crynodol yn cael ei wneud ar ffurf:

  • Portffolio
  • Adolygu Blogiau
  • Arholiad llafar
  • Traethawd Hir / Gwefan Catalog
  • Cyflwyniad
  • Traethawd
  • Llyfr braslunio
  • Darn terfynol
  • Arddangosfa
  • Datganiad adfyrfyriol
  • Cynnig ar gyfer traethawd hir

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

  • Astudio pellach ar lefel gradd MA a PHD
  • Curadur neu Swyddog Arddangosfeydd mewn Orielau ac Amgueddfeydd
  • Addysgu (Cynradd, Uwchradd, ac Addysg Bellach) - Nid yw'r rhaglen yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (STA) ond gall fod yn gyfle i raddedigion fynd ymlaen i gael STA drwy'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion neu gymhwyster addysgu arall.
  • Therapi Celf
  • Gweinyddu ym maes y Celfyddydau
  • Cymorth Technegol mewn Orielau ac Amgueddfeydd
  • Gwneud ffilmiau ar eich liwt eich hun
  • Cynlluniau i Artistiaid Preswyl mewn amrywiol gyd-destunau
  • Cynnal gweithdai creadigol

Gwybodaeth campws Parc Menai (Celf a Dylunio)

Disgrifiad cwrs

Mae'r BA mewn Celf Gain yng Ngholeg Menai yn anelu at fod yn brofiad heriol a chyffrous wedi ei addysgu gan artistiaid wrth eu gwaith gydag sydd ag enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r cwrs hwn yn cynnig i ddysgwyr y cyfle i archwilio themâu, syniadau a diddordebau creadigol personol drwy amrywiaeth eang o ddisgyblaethau gan gynnwys: lluniau, paentiadau cerflunio, gwneud printiau a gweithgareddau aml-gyfryngol.

Mae modylau Dyfodol Creadigol yn datblygu amrywiol brosiectau gyda phartneriaid a sefydliadau allanol; mae'r rhain yn arfogi dysgwyr gyda dealltwriaeth o'r cyfleoedd ehangach ar gyfer galwedigaeth o fewn y sector Celfyddydau.

Gwybodaeth am yr unedau

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Defnyddiau a Dulliau 1 (20 credyd, craidd)
Cynhelir gweithdai ar Wneud Printiau, Cerflunio/3D a Chyfryngau Digidol/Seiliedig ar Amser sy'n cyflwyno amryw o brosesau, defnyddiau a thechnegau ac yn rhoi sylw priodol i gyfarwyddiadau iechyd a diogelwch perthnasol. Ategir hyn trwy ddysgu yn y stiwdio. (Portffolio 100%)

Cysyniadau ac Ymarfer mewn Celfyddyd Gain (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn annog y myfyrwyr i fentro'n greadigol ac i fod yn chwilfrydig ac adfyfyriol wrth ymdrin â defnyddiau, prosesau a syniadau. (Portffolio 80%/Blog 20%)

Cyflwyniad i Ymchwil Weledol mewn Celfyddyd Gain (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys tasgau cyfeiriedig mewn grwpiau ac yn datblygu unigolion drwy diwtorialau a thrafodaethau beirniadol mewn grŵp. Cyflwynir y myfyrwyr i amrywiaeth o ddefnyddiau er mwyn ehangu eu gallu i gywain gwybodaeth a rhoi syniadau ar waith a all fod yn sail i waith unigol yn y stiwdio. (Portffolio 80%/Blog 20%)

Celf a Dylunio mewn Cyd-destun 1 (20 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno dysgwyr i natur hanesyddol a diwylliannol celf a dylunio trwy gyfrwng darlithoedd, cyflwyniadau ac ymweliadau ag arddangosfeydd. (Traethawd 50%/Cyflwyniad 25%/Blog 25%)

Cyd-destun Safle ac Ymarfer 1
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno cyd-destunau safleoedd a chysylltiadau cymdeithasol mewn celfyddyd gain gyfoes. Rhoddir y pwyslais ar gwestiynu trwy ymchwilio i'r ffactorau daearyddol, cymdeithasol a gwleidyddol y gellir eu hystyried yng nghyd-destun ymarfer cyfoes. (Portffolio 80%/Blog 20%)

Dadadeiladu ac Ailadeiladu (20 credyd, craidd)

Canolbwyntia'r modiwl hwn ar y ffyrdd y gall y myfyrwyr ddysgu o astudio celf y gorffennol. Mae'n ofynnol i'r myfyrwyr ymchwilio'n fanwl i waith a ddewiswyd, un ai'n waith 2D neu 3D, trwy ddarlunio a mathau eraill o ymchwil weledol, hanesyddol a beirniadol. (Portffolio 80%/Blog 20%)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Ymchwil ac Ymarfer ym maes Celfyddyd Gain (30 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hefyd yn annog y myfyrwyr i ddatblygu dull beirniadol ymchwiliol a dadansoddol wrth ystyried datblygiad a chyfosodiad theori ac ymarfer yn eu gwaith eu hunain ac yng ngwaith pobl eraill. (Portffolio 80%/Blog 20%)

Celf a Dylunio mewn Cyd-destun 2 (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y gwaith o edrych ar y cyd-destun hanesyddol a wnaed ar lefel 4. Caiff dulliau cyfoes o ymarfer celfyddyd gain eu harchwilio, eu trafod a'u harddangos. (Cyflwyniad 25%/Traethawd 50%/Ffolder Ymchwil ar y Blog 25%)

Defnyddiau a Dulliau mewn Celfyddyd Gain 2 (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, adeiledir ar weithdai lefel 4 blaenorol ar Waith Lens, Cerflunio, Gwneud Printiau, a Chyfryngau Digidol. (Portffolio 100%)

Datblygu Ymarfer yn y Stiwdio (30 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y profiad a enillwyd ar lefel 4 ac yn annog y myfyrwyr i ddefnyddio stiwdio'n effeithiol i ddatblygu eu gwaith celfyddyd gain. (Gwaith ymarferol terfynol at yr arddangosfa 80%/Datganiad a blog adfyfyriol 20%)

Cyd-destun Safle ac Ymarfer 2 (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn cefnogi myfyrwyr i ehangu eu gwybodaeth o gyd-destun proffesiynol ar gyfer ymarfer Celf a Dylunio. Bydd yn datblygu ac yn gwella strategaethau perthnasol ar gyfer cynllunio, curadu, arddangos a dogfennu gwaith mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cyhoeddi ac arddangos drwy gyfryngau analog, digidol ac ar-lein. (Portffolio gyda chynnig ar gyfer y prosiect 50%/Blog sy'n dogfennu'r gwaith o werthuso'r prosiect arddangos 50%)

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

Traethawd Hir/Amgueddfa Ddychmygol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw datblygu ac atgyfnerthu gallu myfyrwyr i ymgymryd â phrosiect ymchwil mawr sy'n gysylltiedig â'u gwaith stiwdio eu hunain. Mae'n galluogi'r myfyrwyr i wneud gwaith ymchwil estynedig ar bwnc o'u dewis y cytunwyd arno (addas i ymchwil beirniadol a chyd-destunol) sy'n berthnasol i ymarfer celfyddyd gain neu ddylunio cyfoes. (Prosiect ymchwil curadurol unigol estynedig (yn cynnwys traethawd 2,500 gair) neu draethawd 5,000 gair sy'n cwmpasu’r holl ddeilliannau dysgu 100%)

Astudio’n Annibynnol 1 - Ymchwilio a Chreu (40 credyd, gorfodol)
Bydd myfyrwyr yn cynllunio, negodi a chwblhau corff o waith. Unwaith y bydd cynnig ysgrifenedig a chynllun gwaith ymarferol wedi'u cwblhau a'u trafod bydd y myfyrwyr yn dechrau ar y gwaith ymchwilio, arbrofi a datblygu a fydd yn arwain at synthesis o'u prosiect. (Portffolio 100%)

Lleoli Ymarfer Proffesiynol (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn mae'r myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau arddangos a'u gallu i ddogfennu a chyflwyno eu gwaith mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'u nodau proffesiynol unigol. (Portffolio 75% / Arholiad Llafar/Cyflwyniad 25%)

Astudio’n Annibynnol 2 - Arddangosyn (40 credyd, gorfodol)
Mae prif bwyslais y modiwl terfynol hwn ar yr arddangosfa radd. Mae hefyd yn dynodi'r cyfnod pontio i fywyd y tu hwnt i'r brifysgol y mae'r rhaglen drwyddi draw wedi bod yn paratoi myfyrwyr ar ei gyfer. Bydd yr arddangosfa radd o reidrwydd yn ystyried dulliau o gyflwyno gwaith, hunanwerthuso beirniadol, profiad proffesiynol wrth weithio gydag oriel allanol a datblygu sgiliau cyfathrebu a threfnu unigol ac mewn grŵp. (Portffolio 80%/Blog 20%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
  • International

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

Mae 33% o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Myfyriwr yn gwneud llun

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser