Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BA (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 1 flwyddyn, 1 diwrnod yr wythnos NEU'n rhan-amser: 2 flynedd, hanner diwrnod yr wythnos. Hefyd ar gael fel modiwlau.

    Dolgellau: Dydd Llun a Dydd Mercher, 9:15yb - 4:15yp

    Rhos: Dydd Iau, 9am - 7pm

  • Cod UCAS:
    D515/L515/L511/L512
Gwnewch gais
×

BA (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Atodol)

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n chwilio am waith neu'n awyddus i gael dyrchafiad ym maes Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant neu faes sy'n ymwneud â pholisïau cyhoeddus a chymdeithasol? A fyddai gwybodaeth drylwyr a chyfredol am iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant a pholisïau cyhoeddus a chymdeithasol yn fanteisiol i'ch gyrfa?

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer gweithwyr newydd neu weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio mewn ystod o feysydd cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae'r cwrs yn hyblyg a gellir ei deilwra i gyd-fynd ag ymrwymiadau eraill myfyrwyr. Caiff ei gyflwyno ar un diwrnod yr wythnos i fyfyrwyr rhan-amser a ddwywaith yr wythnos i fyfyrwyr llawn amser. Felly ceir cyfleoedd i astudio'n rhan-amser neu'n llawn amser i unigolion sydd un ai'n dychwelyd i addysg neu'n weithwyr cyflogedig sy'n awyddus i wella'u cymwysterau.

Mae modiwlau o'r radd hon ar gael ar sail unigol fel Cyfleoedd Datblygu Parhaus (CDP) ar gyfer y sector.

Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • Rydych eisoes fod wedi cwblhau cymhwyster perthnasol mewn Iechyd neu Gofal Cymdeithasol, galwedigaethol neu broffesiynol, gyda 120 credyd ar lefel AU 4 a 120 credyd ar lefel AU 5 ac wedi ennill gradd gyffredinol o 50 neu uwch.
  • Efallai gallai myfyrwyr sydd ddim yn gallu dangos 120 o gredydau ar lefel AU 5 gefnogi eu cais gan gyflwyno portffolio ar gyfer achredu dysgu blaenorol/drwy brofiad (APL/APEL/RPEL). Dylai'r portffolio nodi'r dysgu deillio o'u profiadau yn glir.
  • Ar gyfer myfyrwyr sy'n ennill mynediad trwy ddysgu blaenorol, gellir ddefnyddio APEL hefyd ar gyfer eithrio o ran o'r Wobr.

Bydd mynediad yn hyblyg, ond bydd amodau'n cael eu gorfodi yn unol â rheoliadau'r Grŵp.

I fyfyrwyr sydd yn awyddus symud ymlaen a graddio gyda BA (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Polisi Cymdeithasol), bydd rhaid iddynt yn gyntaf cwblhau'r FdA Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Polisi Cymdeithasol) neu gywerth.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Gofynion Iaith:

  • TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, gradd C/4 neu uwch
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: Rhuglder yn y Saesneg at IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Sesiynau tiwtorial
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr-ganolog
  • Gweithdai/Gwaith ymarferol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Amserlen

Dolgellau:

  • 1 flwyddyn, 1 diwrnod yr wythnos NEU'n rhan-amser: 2 flynedd, hanner diwrnod yr wythnos.

Llandrillo-yn-rhos:

  • 1 flwyddyn, 1 diwrnod yr wythnos NEU'n rhan-amser: 2 flynedd, hanner diwrnod yr wythnos.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau Ychwanegol

Bydd gofyn i'r myfyriwr dalu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Gall y rhain gynnwys costau sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau profiad gwaith, teithiau maes, dillad addas ar gyfer gwaith/profiad gwaith, cyfrifiadur personol a chyswllt WiFi, teithio i'r coleg, argraffu a deunyddiau swyddfa.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Cyswllt (Coleg Llandrillo):

Sarah Harris (Rhaglen Arweinydd): harris2s@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Cyswllt (Coleg Meirion-Dwyfor):

Jean Parry Jones (Rhaglen Arweinydd): jones12j@gllm.ac.uk

Rhiannon Jones (Gweinyddiaeth): jones9r@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Traethawd
  • Astudiaeth achos
  • Traethawd hir
  • Cyflwyniad
  • Cyflwyniad poster
  • Prosiect Ymchwil

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gall cwblhau'r cwrs hwn arwain at nifer o ddewisiadau o ran addysg a chyflogaeth.

Os ydych yn dechrau ar yrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, neu os ydych eisoes yn gweithio yn y sector, bydd gradd Anrhydedd yn dangos bod gennych sgiliau lefel uchel ac yn rhoi hwb i'ch cyflogadwyedd. Gallwch chwilio am waith mewn amrywiaeth o feysydd yn y sector cymdeithasol a phreifat gyda'r posibilrwydd o gyfrifoldebau rheoli a goruchwylio.

Dewis arall fyddai parhau â'ch addysg er mwyn ennill cymhwyster ôl-radd neu gymhwyster proffesiynol, ac mae modd gwneud hyn tra ydych hefyd yn gweithio.

Drwy gwblhau'r radd yn ddwyieithog, gan ddangos eich bod yn gallu gweithio'n effeithiol mewn gweithle dwyieithog, bydd gennych well siawns o gael gwaith yng Nghymru.

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi ystod eang o gyfleoedd dilyniant i fyfyrwyr gan gynnwys:

  • Gyrfaoedd yn y sector gwirfoddol, statudol a phreifat gan gynnwys cyfleoedd yn Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol mewn meysydd megis tai, iechyd, gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a chynhwysiant cymdeithasol.
  • Gyrfaoedd gyda chyflogwyr preifat a chyhoeddus ym maes Iechyd neu Ofal Cymdeithasol gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, Hosbisau, Cartrefi Gofal ac asiantaethau Gofal Cartref.
  • Gyrfaoedd mewn sefydliadau megis y Gwasanaeth Carchardai, SOVA, Elusen y Plant (NCA) a Shelter. Mae'r sefydliadau hyn yn gweithio ac yn recriwtio yng Ngogledd Cymru.
  • Llwybrau Nyrsio BSc

Mae'r cwrs hwn hefyd yn sylfaen gadarn i gael eich derbyn ar raglenni sy'n recriwtio graddedigion megis Gwaith Cymdeithasol, Polisïau Cymdeithasol, Seicoleg, Tystysgrif Addysg i Raddedigion ac MA mewn Polisïau Cymdeithasol.

Mae rhai myfyrwyr yn parhau i weithio drwy gydol y rhaglen ac yn symud ymlaen i swyddi rheoli neu arwain yn eu gweithle.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Dros y degawdau diwethaf, daeth gwaith iechyd a gofal cymdeithasol yn ffocws pwysig ar gyfer diddordeb y cyhoedd, academyddion a'r cyfryngau. Mae pwysigrwydd y maes hwn wedi tanlinellu bod angen staff medrus ac addysgiedig, sydd â dealltwriaeth eang a manwl o theori ac ymarfer.

Mae'r modiwlau Lefel 6 yn eich helpu i ddiwallu'r angen hwn drwy barhau i gyfrannu at weithlu mwy proffesiynol gyda mwy o barch iddo. Byddwch yn datblygu mwy ar eich dealltwriaeth o'r sector a'i reolaeth, tra'n canolbwyntio ar arferion a materion cyfoes. Byddwch hefyd yn edrych ar y gwerthoedd craidd sydd wrth wraidd rheoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â materion strategol sy'n cael effaith leol, ranbarthol, genedlaethol neu ryngwladol.

Mae'r cysylltiadau rhwng astudiaeth theoretig a gwaith proffesiynol yn ganolog i'r cwrs hwn, a bydd eich astudiaethau'n goleuo a chyfoethogi eich ymarfer. Mae'r cwrs yn cynnig profiad addysgol gwerthfawr i ystod eang o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Mae'n rhoi hwb i'ch cyflogadwyedd a'ch proffesiynoldeb, gan eich helpu i ddatblygu eich gyrfa.

Gwybodaeth am Fodiwlau

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol sydd ar gael i fyfyrwyr yn rhan-amser, yn llawn amser neu fesul modiwl yn unig.

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Traethawd estynedig (40 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn paratoi ac yn cynorthwyo myfyrwyr i ysgrifennu darn o waith estynedig ar bwnc o'u dewis sy'n ymwneud â'u maes proffesiynol, gyda chefnogaeth goruchwylydd profiadol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddangos hyd a lled eu gwybodaeth mewn maes pwnc penodol sydd o ddiddordeb proffesiynol iddynt. Bydd y traethawd estynedig yn dangos gallu academaidd cyffredinol y myfyrwyr.

Asesiad 1: Cyflwyniad poster yn manylu ar bwnc y traethawd ymchwil estynedig a sail resymegol y fethodoleg. ⁠(10 munud, 20%)

Asesiad 2:
Tystiolaeth o gadw cofnodion o'r holl gyfarfodydd goruchwylio. Dylai'r myfyrwyr gofnodi'r cyfarfodydd hyn yn gywir gan adfyfyrio ar gynnydd a dynodi camau gweithredu personol. (5%)

Asesiad 3:
Traethawd estynedig ar ymchwil unigol sy'n cwmpasu’r holl ddeilliannau dysgu.⁠ (8,000 o eiriau, 75%)

Traethawd ymchwil unigol sy'n cwmpasu pob canlyniad dysgu. (8,000 o eiriau, 75%)

Ystyriaethau Moesegol ym maes Iechyd a Lles (20 credyd. gorfodol)
Rhaid i fyfyrwyr allu dadansoddi'n feirniadol yr egwyddorion moesegol sy'n deillio o'r gwerthoedd craidd sy'n sail i'r ddarpariaeth iechyd, gofal cymdeithasol a pholisi cymdeithasol, ac i'r ymchwil a wneir yn y meysydd hyn. Rhaid i fyfyrwyr allu rhoi egwyddorion moesegol ar waith a chreu, gan roi rhesymau, ddatrysiadau perthnasol sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau a methodolegau ymchwilio cysylltiol. Dylai myfyrwyr allu dadansoddi'n feirniadol oblygiadau moesegol deddfwriaethau, polisïau a/neu godau ymarfer perthnasol sy'n dylanwadu ar iechyd, gofal cymdeithasol a lles, a'r ymchwil a wneir ar hyn o bryd yn eu maes gwaith.

Asesiad:

Aseiniad 1: Dethol darn o ymchwil perthnasol sydd eisoes yn bodoli a nodi ac asesu unrhyw ystyriaethau moesegol, gan ystyried unrhyw faterion moesegol a allai godi ac egluro datrysiadau posib (2,000 o eiriau - 40%).

Aseiniad 2: Aseiniad ysgrifenedig unigol sy'n dadansoddi'n feirniadol werthoedd craidd y ddeddfwriaeth a'r polisïau sy'n sail i arferion ac egwyddorion moesegol sy'n deillio ohonynt wrth iddynt gael eu rhoi ar waith (3,000 o eiriau - 60%).

Anghydraddoldeb, Amrywiaeth a Materion Cymdeithasol Byd-eang (20 credyd, gorfodol)
Pwrpas y modiwl hwn yw egluro cyd-destun byd-eang a rhyngwladol materion cymdeithasol a'r polisïau cymdeithasol a gaiff eu llunio. Bydd problemau cymdeithasol byd-eang yn cael eu nodi, gan gynnwys anghydraddoldeb ym maes iechyd, tlodi, distrywio'r amgylchedd, a throsedd ac eglurir sut maent yn cael effaith wahanol mewn gwledydd datblygedig a gwledydd nad ydynt wedi datblygu, ynghyd a sut mae globaleiddio wedi effeithio ar eu datblygiad. Law yn llaw â hyn, dadansoddir y strwythurau a'r mecanweithiau a ddefnyddir gan wladwriaethau cenedlaethol i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol yn fyd-eang.

Asesiad:

Aseiniad 1: Drwy gyfrwng cyflwyniad 10 munud, bydd y dysgwyr yn nodi un mater cymdeithasol byd-eang ac yn gwerthuso anghyfartaledd ei effaith fyd-eang. 30%

Aseiniad 2: Drwy gyfrwng aseiniad ysgrifenedig bydd myfyrwyr yn dangos i ba raddau mae globaleiddio economaidd a gwleidyddol wedi effeithio ar faterion byd-eang cyfoes (3,500 o eiriau - 70%).

Polisïau Cymdeithasol yng Nghymru (20 credyd, gorfodol)
Gyda dyfodiad datganoli a'r twf yn awdurdod Cynulliad Cymru, pwrpas y modiwl hwn yw rhoi sylw i'r dull cynyddol wahanol o ymdrin â pholisïau cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar y ffactorau cymdeithasol sydd wedi arwain at ymdriniaeth wahanol yng Nghymru ac yn rhoi trosolwg o ddatblygiadau hanesyddol diweddar ym maes polisïau cymdeithasol yn ystod y cyfnod wedi datganoli. Dadansoddir y prif feysydd sy'n ymwneud â pholisïau cymdeithasol gan ddangos sut mae'r ymdriniaeth yn wahanol yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o Brydain. Er bod Cymru'n unigryw, bydd y modiwl hefyd yn dangos bod tebygrwydd o hyd rhwng Cymru a rhanbarthau eraill Prydain ac nad oes gan y Cynulliad awdurdod dros bob agwedd ar bolisïau cymdeithasol.

Asesiad:

Aseiniad 1: Traethawd sy'n dadansoddi'n feirniadol effaith yr agenda gwleidyddol ar bolisïau cymdeithasol yng Nghymru (2,500 i eiriau - 50%).

Aseiniad 2:Drwy gyfrwng astudiaeth achos bydd myfyrwyr yn gwerthuso pa mor wahanol yw Cymru o gymharu â rhannau eraill o Brydain mewn un neu ragor o'r prif feysydd polisïau cymdeithasol.

Risg a Gwytnwch ar hyd Oes Bywyd (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar themâu'n ymwneud â risg a gwytnwch mewn perthynas â materion lles fel iechyd meddwl, dibyniaeth, digartrefedd a cham-drin rhyngbersonol. Trafodir i ba raddau mae grwpiau defnyddwyr gwahanol yn agored i risgiau o'r fath, ym mha amgylchiadau mae'r risgiau hyn yn codi a sut y gall polisïau, gweithdrefnau a deddfwriaethau feithrin a gwella gwytnwch.

Asesiad 1: Traethawd lle mae'r myfyrwyr yn dewis un mater sylfaenol ac yn edrych yn feirniadol ar ba mor gyffredin ydyw, ac ar theorïau achosiaeth fel penderfynynnau seicolegol a chymdeithasegol. (3,000 gair, 60%)

Asesiad 2: Cyflwyno astudiaeth achos ar lafar. Bydd y myfyrwyr yn ymateb i astudiaeth achos dychmygol (yn seiliedig ar destun asesiad 1) ac yn nodi'r effeithiau posibl ar yr unigolyn. Yn rhan o hyn byddant yn disgrifio i ba raddau y gall cyd-destunau seicolegol a chymdeithasegol penodol waethygu a lliniaru sefyllfa'r unigolyn, ac yn gwerthuso'r strategaethau gwytnwch priodol sydd ar gael. (15 munud, 40%)

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr yn gweithio mewn ystafell ddosbarth

Sefydliad dyfarnu