Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BA (Anrh) Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser a Rhan-amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 1 flwyddyn - 2 ddiwrnod yr wythnos, o fis Medi 2026, Dydd Mawrth a dydd Mercher, 9:30am -5pm

    Rhan-amser: 2 flynedd - 1 diwrnod yr wythnos, o fis Medi 2026, Dydd Mawrth a dydd Mercher, 9:30am -5pm

    DYDDIAD DECHRAU: Medi 2026

Gwnewch gais
×

BA (Anrh) Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

NEWYDD AR GYFER MEDI 2026.

*Yn amodol ar ddilysu yng Ngwanwyn 2024. Gall y cynnwys a'r modiwlau newid.

Mae'r cwrs yn cynnig cyfle arbennig i feithrin a chyfuno dealltwriaeth a gwybodaeth hyd at lefel israddedig ynghyd ag atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd.

Mae'r radd hon wedi'i hanelu at y rhai sydd wedi cwblhau Gradd Sylfaen Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol GLlM neu Lefel 6 mewn pwnc perthnasol arall yn llwyddiannus.

Mae'r radd hon yn unigryw i ranbarth Gogledd Cymru ac mae'n cynnwys agweddau cyfoes sy'n hollbwysig i'r arweinydd a'r rheolwr modern. Dilyswyd a dyfernir y cymhwyster hwn gan Brifysgol Bangor

Yn unol ag anghenion diwydiant lleol, bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau uwch i chi a allai arwain at yrfa lwyddiannus yn rhai o’r sectorau y mae’r galw mwyaf amdanynt yng Ngogledd Cymru.

Mae’r cwrs hwn yn pontio’r bwlch rhwng cymwysterau proffesiynol seiliedig ar waith a rhagoriaeth academaidd gyda sgiliau trosglwyddadwy, proffesiynol ac ymarferol ynghyd â sgiliau cyflogadwyedd wedi’u gwreiddio ym mhob modiwl.

Mae'r modiwlau'n cynnwys:

  • Croesawu Technoleg ac Arloesi ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (10 credyd)
  • Egwyddorion Moesegol ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (20 credyd)
  • Prosiect Ymchwil y Flwyddyn Olaf - Traethawd Estynedig (40 credyd)
  • Iechyd Byd-eang ac Amrywiaeth (20 credyd)
  • Polisïau a Llywodraethiant yng Nghymru (20 credyd)

Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.

Gofynion mynediad

Bydd mynediad uniongyrchol i'r BA hwn i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen ar ôl cwblhau'n llwyddiannus Radd Sylfaen Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol GLlM.

Bydd pob cais gan ymgeiswyr allanol yn cael ei ystyried yn unigol yn unol â pholisi trosglwyddo credydau GLlM, yn seiliedig ar astudio 240 credyd mewn cymhwyster cydnaws yn llwyddiannus (o fewn yr amserlen a amlinellir yn y polisi).

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL). .

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd.

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Seminarau
  • Gweithdai
  • Tiwtorialau
  • Modiwlau cyflogaeth
  • Siaradwyr gwadd

Gall siaradwyr gynnwys ystod o arbenigwyr o sefydliadau partner gan gynnwys Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol Prifysgol Bangor; Heddlu Gogledd Cymru, Prifysgol Wrecsam, Cynrychiolwyr Gofal Cymdeithasol, BIPBC a CAIS.

Amserlen:

  • Llawn amser: 1 flwyddyn - 2 ddiwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9am-4pm
  • Rhan-amser: 2 flynedd - 1 diwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9am-4pm

Dyddiad dechrau: Medi 2026

Gofal bugeiliol

Mae’r system Tiwtorial Personol yn nodwedd bwysig o gymorth myfyrwyr ac mae sesiynau tiwtorial yn gyfle i drafod ystod o faterion gan gynnwys cynnydd, dilyniant, cymorth lleoliad gwaith ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Wrth gynllunio'u hastudiaethau, bydd angen i fyfyrwyr ystyried y costau ychwanegol, nad ydynt wedi'u cynnwys yn y ffioedd dysgu, y gallent orfod eu hwynebu yn ystod y rhaglen.

Gallai hyn gynnwys costau gofal plant, teithio sy’n gysylltiedig â mynychu’r rhaglen a phrofiad gwaith, DBS ar gyfer lleoliad profiad gwaith, ymweliadau allanol a theithiau maes i wella'r dysgu, dillad addas ar gyfer gwaith/lleoliad, argraffu ychwanegol uwchben y lwfans, cofion bach, costau eraill sy’n ymwneud â deunydd ysgrifennu, a chostau sy'n gysylltiedig â seremoni raddio megis llogi gŵn a ffotograffau.

Bydd angen i fyfyrwyr ystyried costau'r adnoddau a'r deunyddiau y bydd arnynt eu hangen i astudio'n annibynnol y tu allan i'r coleg e.e. cyfrifiadur personol/gliniadur, mynediad i'r rhyngrwyd, meddalwedd, deunyddiau y bydd arnynt eu hangen ar gyfer datblygu sgiliau ymarferol, a llyfrau/cyfnodolion yr hoffent eu prynu yn hytrach na'u benthyg, neu gostau ychwanegol am wneud cais am fenthyg cyhoeddiadau nad ydynt ar gael drwy'r gwasanaeth llyfrgell. Gall myfyrwyr ddefnyddio llyfrgelloedd, mannau astudio a gwasanaethau benthyg llyfrau'r coleg, ond rhaid iddynt dalu dirwy am lyfrau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr neu rai sy'n cael eu colli. ⁠

Cyswllt:

Asesiad

Mae ein hasesiadau yn caniatáu i ddysgu gael ei gymhwyso yn seiliedig ar eich prif ddiddordebau, eich profiad galwedigaethol a'ch lleoliadau. Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.

Mae'r mathau o asesiadau yn cynnwys:

  • Portffolios unigol
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Dyddiadur adfyfyriol⁠
  • Prosiect Grŵp
  • Trafodaeth broffesiynol
  • ⁠Cyflwyniad
  • Prosiect Ymchwil
  • Cynnig ymchwil
  • Astudiaethau achos

Dilyniant

Ble gall y cwrs hwn fynd â mi yn fy ngyrfa yn y dyfodol?

Bydd y cwrs hwn, sydd wedi'i ddatblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr lleol, yn sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau diweddaraf sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae rolau mewn addysg, y trydydd sector, llesiant, ac iechyd a gofal cymdeithasol i gyd yn feysydd blaenoriaeth ar gyfer Gogledd Cymru, ac rydym am weld cynnydd parhaus yn y galw am rolau cysylltiedig yn y blynyddoedd i ddod.

Gall cwblhau'r cwrs hwn arwain at nifer o ddewisiadau dilyniant o ran addysg a chyflogaeth:

  • Rolau uwch mewn amrywiaeth o sectorau a chyd-destunau gwaith, gan gynnwys rolau proffesiynol, yn arwain neu reoli
  • Symud ymlaen yn uniongyrchol i raglenni TAR GLlM i hyfforddi i fod yn ddarlithydd Addysg Bellach cymwysedig. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma. TAR GLlM
  • Yn dilyn gradd BA, gallech symud ymlaen i wahanol raddau meistr yng Ngogledd Cymru. Er enghraifft:
    • MA Addysg
    • MA Gwaith Cymdeithasol
    • MA Troseddeg a Chymdeithaseg
    • MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
    • MA Cymdeithaseg
    • MA Polisïau Cymdeithasol
    • MSc Nyrsio Oedolion, Plant neu Iechyd Meddwl
    • MSc Cwnsela
    • MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Llesiant
    • MSc Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd

Drwy gydol y flwyddyn, caiff myfyrwyr AU GLlM y wybodaeth ddiweddaraf am ffeiriau recriwtio graddedigion a gynhelir yn lleol a thu hwnt e.e. yn Lerpwl a Manceinion.⁠ ⁠Mae'r Arweinwyr Rhaglenni yn rhoi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau yn ogystal â gweithio gyda Gyrfa Cymru.

Mae GLlM hefyd wedi cyflwyno Dyfodol Myfyrwyr fel rhan o'r strategaeth AU bresennol, a fydd yn gwella datblygiad cyflogadwyedd y dysgwyr. Llwyddodd cyn-raddedigion o GLlM i gael gwaith gyda Chynghorau Bwrdeistrefi Sirol ar amrywiol brosiectau yn cynnwys Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar, Grwpiau Ymgynghorol Arbenigol a gwasanaethau i boblogaethau arbennig. Cafodd graddedigion eu recriwtio hefyd gan elusennau lleol a chenedlaethol sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, diogelu plant a chamddefnyddio sylweddau. ⁠ ⁠

I’r rhai sy’n astudio er mwyn datblygu yn eu proffesiwn presennol, bydd meddu ar radd BA yn dangos sgiliau lefel uchel a all arwain at fwy o ddewisiadau gyrfa mewn amrywiaeth o gyd-destunau sector cyhoeddus a phreifat, gyda’r posibilrwydd o gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd. Mae'r Ganolfan yn cynnwys darlithfeydd o'r radd flaenaf, ystafelloedd seminar, adnoddau llyfrgell arbenigol, cyfleusterau TG a mannau astudio.

Modiwlau:

Croesawu Technoleg ac Arloesi ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (10 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn archwilio integreiddio technoleg mewn gofal gyda’r nod o’ch arfogi â’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau angenrheidiol i drosoli technoleg ac arloesedd ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol. Bydd y modiwl hwn yn archwilio’r dechnolegol gyfredol ym maes iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol ac yn archwilio technolegau ac arloesiadau newydd sydd â’r potensial i drawsnewid y maes.

Egwyddorion Moesegol ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (20 credyd)
Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar yr agweddau sylfaenol ar faterion moesegol a'r statudau cyfreithiol sylfaenol sy'n cefnogi ymarfer proffesiynol.⁠ Bydd yn archwilio pynciau craidd moeseg ymchwil, megis ymreolaeth, yr egwyddorion sylfaenol sy'n ymwneud â pharch at bersonau, cymwynasgarwch, a chyfiawnder. Bydd yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth i'ch galluogi i ddadansoddi'n feirniadol, archwilio a dadlau cysyniadau, materion a damcaniaethau moesegol a chyfreithiol yn ymwneud â gofal iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol.

Prosiect Ymchwil y Flwyddyn Olaf - Traethawd Estynedig (40 credyd)
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar sgiliau academaidd blaenorol a gyflwynwyd mewn agweddau cynharach ar y radd a bydd yn eich cefnogi i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymchwil. ⁠ ⁠ Mae'n eich paratoi a'ch cefnogi i wneud darn estynedig o ysgrifennu annibynnol o amgylch pwnc o'ch cdewis sy'n ymwneud â'ch maes ymarfer proffesiynol gyda chefnogaeth goruchwyliwr profiadol.

Iechyd Byd-eang ac Amrywiaeth (20 credyd)
Mae'r modiwl hwn yw egluro cyd-destun byd-eang a rhyngwladol y materion cymdeithasol sy'n codi. Nodi'r problemau cymdeithasol cyfredol a pherthnasol a'r perthnasoedd, y gwahaniaethau a'r anghyfartaledd sydd rhyngddynt o fewn cyd-destun rhyngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys anghydraddoldebau iechyd, tlodi, cynaliadwyedd, dinistr amgylcheddol, a throseddu, a chyflwynir enghraifft o sut mae eu heffaith yn anghyson rhwng enillwyr incwm uwch, canolig ac is, lleoliadau a chenhedloedd.

Polisïau a Llywodraethiant yng Nghymru (20 credyd)
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar bolisïau byd go iawn a llywodraethu sefydliadol yn genedlaethol ac o fewn Cymru. Ei nod yw darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o bolisi a llywodraethiant yng nghyd-destun iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol, gan integreiddio gwybodaeth ddamcaniaethol â chymwysiadau ymarferol, ac annog dadansoddi a meddwl yn feirniadol. Mae'n dangos y dull unigryw o ymdrin â pholisïau sy'n digwydd yng Nghymru. Wrth gydnabod natur unigryw Cymru, dangosir hefyd bod tebygrwydd o hyd rhwng Cymru a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig ac Ewrop yn ehangach.

Llwybrau a Dilyniant Ôl-Raddedig (10 credyd)
Bydd pwyslais y modiwl hwn ar symud ymlaen i gyflogaeth neu astudio pellach yn y dyfodol. Byddwch yn cynnig adfyfyrio beirniadol ar eich arfer presennol o ran sut y mae wedi gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau academaidd a galwedigaethol, ac i werthuso llwybrau gyrfa a/neu astudiaethau ôl-raddedig yn y dyfodol.

Yn ogystal, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar greu cynllun datblygu proffesiynol a phersonol cynhwysfawr sy'n berthnasol yn alwedigaethol; nodi anghenion datblygu academaidd a galwedigaethol sy'n seiliedig ar waith ac yn benodol i gyflogadwyedd gan arwain at adnabod nodau y gellir eu cyflawni ar gyfer y dyfodol. Bydd cynnydd tuag at nodau a nodwyd hefyd yn cael ei fesur drwy'r cynllun.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth