BA (Anrh) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (Atodol)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 flynedd
BA (Anrh) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (Atodol)Cyrsiau Lefel Prifysgol
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Disgrifiad o'r Cwrs
A ydych wedi ennill Gradd Sylfaen yn barod, ac yn awyddus i ddysgu mwy?
Os ydych chi eisoes wedi cwblhau Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (or equivalent), mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu chi i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd mewn amryw o feysydd proffesiynol sy'n ymwneud â gwaith y llyfrgell a gwybodaeth.
Bydd hefyd yn eich helpu i ddatblygu arferion beirniadol a strategaethau dysgu annibynnol, a fydd yn eich galluogi i ymgymryd ag ymchwil a chymryd cyfrifoldeb llawn am eich addysg eich hun a datblygiad proffesiynol.
Caiff y cwrs hwn ei achredu gan CILIP (Chartered Institute of Library and Information Professionals): Dengys hyn fod y cymhwyster yn rhoi sylfaen gadarn i weithwyr proffesiynol ym maes gwybodaeth ac archifau.
Mae modiwlau yn cynnwys:
- Dulliau Cymharol o Reoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth
- Rheoli Gwybodaeth Ddigidol
- Profiad Defnyddwyr o Lyfrgelloedd a Gwasanaethau Gwybodaeth
- Llythrennedd Digidol
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion Academaidd:
- Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth
- Rhugl yn y Saesneg neu'r Gymraeg, gyda TGAU cyfwerth Gradd C/4 neu uwch
Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.
Gofynion Iaith
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 6 neu uwch dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon 6 IELTS neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Cyflwynir yn bennaf drwy fideo gynadledda i ddysgu dysgwyr o bell.
Amserlen
Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (feel arfer 9.30 am - 3.30 pm)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Costau Ychwanegol
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Mynediad at ddyfais PC / gliniadur / offer symudol gyda rhyngrwyd yn ogystal â chlustffon a chamera ar gyfer sesiynau fideo-gynadledda.
- Aelodaeth myfyrwyr CILIP (£40 y flwyddyn ar hyn o bryd) er mwyn cael mynediad i'w hadnoddau ar-lein amhrisiadwy.
Dyddiad cychwyn
Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Ceri Powell (Rhaglen Arweinydd): c.powell@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu yn cynnwys traethodau, traethawd hir (cynnig a chyflwyniad), gweithgaredd ymarferol, adroddiadau, gweithgareddau grŵp, a sgiliau adfyfyrio.
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
- Cyflogaeth yn y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth
- Ymchwil
Amcan y rhaglen yw gwella rhagolygon gyrfaol unigolion sy'n dymuno gweithio yn y sector, a chynnal eu gwybodaeth a'u sgiliau'n gyfredol drwy eu gallu i weithio'n feirniadol ac yn fyfyriol, wrth werthfawrogi pwysigrwydd dysgu gydol oes.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Blwyddyn 1
Dulliau Cymharol o Reoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, caiff y myfyrwyr olwg ehangach ar faterion sy'n gysylltiedig â rheoli llyfrgelloedd. Gwneir hyn drwy gyfrwng dull astudio cymharol sy'n sicrhau bod y myfyrwyr yn cael profiad o lyfrgelloedd y tu hwnt i'w sector eu hunain. Edrychir ar faterion thematig sy'n gyffredin i lyfrgelloedd e.e. meithrin darllenwyr a llythrennedd gwybodaeth, yn ogystal ag ar y gwahaniaethau a'r tebygrwydd sydd rhwng y dulliau a ddefnyddir i reoli llyfrgelloedd mewn ysgolion, addysg bellach, addysg uwch, y sector cyhoeddus a'r sector iechyd. (Traethawd 100%)
Rheoli Gwybodaeth Ddigidol (20 credyd, gorfodol)
Yn ystod y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn meithrin sgiliau ymarferol ac yn dysgu am y theori sydd y tu ôl i greu, rheoli, trefnu a chyflwyno gwybodaeth ar-lein. Yn ogystal, bydd y modiwl yn darparu trosolwg defnyddiol o'r egwyddorion sy'n gysylltiedig â rheoli cofnodion ac archifau.
Profiad Defnyddwyr o Lyfrgelloedd a Gwasanaethau Gwybodaeth (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw cyflwyno'r myfyrwyr i amrediad o dechnegau ymchwilio seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu defnyddio i ddeall ymddygiad defnyddwyr yn well, gyda'r bwriad o wella llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth er budd y defnyddwyr. (Adroddiad 100%)
Llythrennedd Digidol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi'r dysgwyr i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i ddadansoddi eu cymhelliant digidol eu hunain, i astudio effaith cymdeithasol llyfrgelloedd lle cynhelir gweithgareddau llythrennedd digidol ac i ddeall eu rôl o ran meithrin dinasyddion sy'n weithgar yn ddigidol. Mae hefyd yn ategu ymrwymiad i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus ym maes llythrennedd digidol i ddefnyddwyr y gwasanaeth, i gydweithwyr ac iddynt hwy eu hunain. ( Gweithgaredd ymarferol 25%, Adroddiad 50%, Gweithgareddau grŵp 25%)
Blwyddyn 2
Traethawd Estynedig (40 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw datblygu a gwella amrediad o sgiliau, yn cynnwys ymchwilio'n annibynnol, dadlau'n feirniadol, gwerthuso ac adolygu, drwy ddatblygu darn o waith estynedig, gan adolygu llenyddiaeth academaidd, defnyddio methodoleg resymegol, a llunio casgliad ac argymhellion. (Traethawd Hir 80%, Cynnig a chyflwyniad traethawd hir 20%)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/a