Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BA (Anrh) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn amser – 1 flwyddyn

    Rhan-amser – 2 flynedd

  • Cod UCAS:
    NN6M
Gwnewch gais
×

BA (Anrh) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r rhaglen BA (Anrh) llawn amser hon mewn Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau yn flwyddyn o hyd ac wedi'i chynllunio i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymhellach, ar ôl cwblhau'r radd sylfaen.

Bydd blwyddyn olaf y radd yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau rheoli a'r wybodaeth ymarferol ragorol sy'n angenrheidiol i ragori yn y sectorau deinamig hyn ac yn sicrhau bod cyfleoedd gyrfa amrywiol o fewn eu cyrraedd.

Yn eu traethawd neu brosiect ymchwil estynedig bydd y myfyrwyr yn gallu canolbwyntio ar y maes arbenigol y maent am ei ddatblygu yn eu gyrfaoedd.

Gydag amrywiaeth o sefydliadau lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau gerllaw, bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd i ymgysylltu, i ymweld ag atyniadau amrywiol, i fynd ar leoliadau profiad gwaith, ac i gael gyrfa dda ar ôl graddio.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Materion Cyfoes yn ymwneud â Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau
  • Moeseg ym maes Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau
  • Grym Arloesi Cynaliadwy
  • Polisïau a Rheoliadau ar gyfer Llwyddo mewn Busnes
  • Prosiect / Traethawd Ymchwil Estynedig

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd
Bydd dilyniant yn uniongyrchol i'r rhai sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen mewn Celfyddydau Coginio neu bwnc perthnasol.

Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â'n polisi ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi).

Yn unol â'n rheoliadau a pholisïau byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Gofynion Ieithyddol

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.

Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 6 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5).

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Cyflwyniadau
  • Gweithdai
  • Gwaith grŵp
  • Siaradwyr gwadd
  • Ymweliadau â diwydiant
  • Seminarau
  • Tasgau dan arweiniad
  • Tiwtorialau
  • Dysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr
Gwersi wyneb yn wyneb a ddefnyddir yn bennaf gyda rhai cyfleoedd i gael gwersi ar-lein os yw hynny'n addas.

Amserlen

  • Llawn amser am 1 flwyddyn, 2 ddiwrnod yr wythnos (9am–5pm fel arfer)
  • Rhan-amser am 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (9am–5pm fel arfer)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Prosiectau ymchwil

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Dilyniant i astudiaethau pellach:

  • Dilyniant uniongyrchol i raglen gradd Meistr gyda darparwyr Addysg Uwch eraill yn y Deyrnas Unedig
  • Cwrs TAR

Cyfleoedd o ran Gyrfa a Dilyniant:

  • Swyddi rheoli ym maes Lletygarwch/Arlwyo/Twristiaeth gyda sefydliadau amrywiol yn y diwydiant
  • Cyfleoedd i ymuno â chynlluniau hyfforddi i raddedigion

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Materion Cyfoes yn ymwneud â Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl materion cyfoes yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ystyried a gwerthuso'r tueddiadau a'r heriau presennol sy'n wynebu'r diwydiannau arlwyo a lletygarwch o safbwynt mewnol ac allanol.

Traethawd (40%) / Astudiaeth Achos 40%) / Cyflwyniad (20%)

Moeseg ym maes Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl moeseg yw archwilio a gwerthuso egwyddorion a damcaniaethau moesegol mewn cyd-destunau modern yn ymwneud ag arlwyo a lletygarwch gan sefydlu eu gwerth i'r diwydiant coginio heddiw.

Traethawd (40%) / Papur Seminar (30%) / Cyflwyniad/Trafodaeth (30%)

Grym Arloesi Cynaliadwy (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn ystyried pa mor hanfodol yw cynaliadwyedd i'r sector lletygarwch, twristiaeth a rheoli digwyddiadau gan archwilio'n feirniadol y materion a'r heriau cyfoes fel newid hinsawdd, treuliant adnoddau ac effeithiau diwylliannol a chymdeithasol sy'n wynebu'r diwydiannau hyn.

Paratoi gwefan/blog mewn grŵp (60%) / Maniffesto unigol (40%)

Polisïau a Rheoliadau ar gyfer Llwyddo mewn Busnes (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r cysylltiad rhwng Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau a pholisïau a rheoliadau cyhoeddus ar amrywiol lefelau. Canolbwyntia ar ddeall gofynion presennol y sector o ran iechyd, diogelwch a risg.

Papur ymchwil (60%) / Cyflwyniad ar gyfer cynhadledd (40%)

Prosiect / Traethawd Ymchwil Estynedig (40 credyd, gorfodol)
Nod a phwrpas y modiwl hwn yw cynnig a chwblhau traethawd ymchwil estynedig mewn cyd-destun a fydd yn cefnogi datblygu ystod o sgiliau academaidd a sgiliau trosglwyddadwy fel dadansoddi a gwerthuso sgiliau, rheoli amser a meddwl yn feirniadol.

Gellir cyflwyno'r prosiect ymchwil mewn fformatau amrywiol a gall gynnwys cyfleoedd i gynnal prosiect ymchwil yn y 'byd go iawn' trwy weithio gyda sefydliad penodol ym maes arlwyo neu letygarwch fel y bo'n briodol.

Cyflwyniad ac adolygiad o lyfryddiaeth y Prosiect/Traethawd Ymchwil Estynedig (35%) / Methodoleg, Canfyddiadau, Dehongliad a Chasgliad/Argymhellion (65%).

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Teithio a Thwristiaeth

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr mewn llyfrgell

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Myfyriwr yn gweithio mewn cegin

Teithio a Thwristiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Teithio a Thwristiaeth

Myfyrwyr yn edrych ar fap

Sefydliad dyfarnu