Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn-amser: 1 flwyddyn

Cofrestrwch
×

Gwaith Barbwr Lefel 1

Dysgwyr sy'n Oedolion

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'ngobeithio cychwyn gyrfa ym maes trin gwallt? Hoffech chi ennyn amrywiaeth o sgiliau proffesiynol yn y sector hwn?

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad i'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael rôl draddodiadol fel is-steilydd gwallt fel y gallwch helpu steilydd gyda'r gwaith beunyddiol mewn salon neu weithle tebyg. Gall hefyd fod yn gam ymlaen at eich astudiaethau Lefel 2.

Mae'r cwrs yn cynnwys defnyddio siampŵ, sychu, iechyd a diogelwch, gwaith derbynfa a phynciau hanfodol eraill.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 2 TGAU gradd D neu uwch
  • Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
  • Cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth, Cyn-alwedigaethol, Llwybrau Dysgu neu Gyswllt Ysgolion yn llwyddiannus
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Rhaid i ymgeiswyr sydd eisoes yn astudio yn y coleg wrth bresenoldeb o 86% ar eu cwrs presennol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

  • Gweithdai ymarferol a sesiynau theori
  • Arholiadau ar-lein
  • Portffolio ar-lein
  • Sesiynau theori
  • Sesiynau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig
  • Ystafell Ddosbarth
  • Dysgu o bell

Asesiad

Byddwch yn cael eich asesu ar waith yr ydych yn gwneud ar gleientiaid yn y salon yn ystod dosbarth nos.

Dilyniant

  • Gwaith barbwr Lefel 2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Llandrillo-yn-Rhos

Dwyieithog:

Llandrillo-yn-Rhos

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Myfyriwr yn gwneud gwaith harddwch
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date