Beauty Specialist Techniques – Waxing and Eyes Level 2 (VTCT certificate)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 awr yr wythnos am 34 wythnos (dyddiau Mercher)
Beauty Specialist Techniques – Waxing and Eyes Level 2 (VTCT certificate)Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar y cwrs hwn, cewch gyfle i feithrin sgiliau ym maes therapi harddwch, gan osod sylfaen ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd gwaith mewn diwydiant sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i edrych a theimlo ar eu gorau.
Byddwch yn astudio:
- Iechyd a Diogelwch
- Hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion
- Trin Blew'r Llygaid ac Aeliau
- Cwyro
Gwneir y gwaith ymarferol yn salonau harddwch pwrpasol y Coleg, gan roi triniaethau am dâl i gleientiaid mewn amgylchedd gweithio realistig.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd
- Gwaith grŵp
- Sesiynau ymarferol
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Arsylwi
- Asesiadau ymarferol
- Profion ysgrifenedig ac ar lafar
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau Therapi Harddwch Lefel 3 yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Sba
- Llwybr cyffredinol
- Harddwch a Cholur
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dwyieithog:
n/aTrin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch