Therapi Harddwch Lefel 1 (Ionawr 2025 yn Dechrau)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 blwyddyn
Therapi Harddwch Lefel 1 (Ionawr 2025 yn Dechrau)Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn therapydd harddwch? Hoffech chi ennill amrywiaeth o sgiliau proffesiynol yn y maes hwn?
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad ymarferol i faes therapi harddwch gan ymdrin ag amrywiaeth o driniaethau bach yn cynnwys triniaeth i'r dwylo a'r traed, colur a thechnegau tylino.
Byddwch yn dysgu sut i baratoi ar gyfer triniaethau mewn salon, sut i wneud tasgau ar dderbynfa salon a dysgu am weithdrefnau iechyd a diogelwch. Byddwch yn dysgu yr hyn sydd ei angen arnoch i fod yn therapydd proffesiynol a byddwch yn cael hyfforddiant gwerthfawr er mwyn cael swydd neu astudio ymhellach.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 2 TGAU gradd D neu uwch
- Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
- Cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth, Cyn-alwedigaethol, Llwybrau Dysgu neu Gyswllt Ysgolion yn llwyddiannus
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Rhaid i ymgeiswyr sydd eisoes yn astudio yn y coleg wrth bresenoldeb o 86% ar eu cwrs presennol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Cyflwyniad Ymarferol
- Sesiynau Theori
- Gweithdai
- Hyfforddiant Masnachol mewn Salon
- MOODLE
Byddwch hefyd yn mynd ar brofiad gwaith fel rhan o'r rhaglen.
Asesiad
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Arsylwi
- Asesiadau ar-lein
- Arholiadau
Dilyniant
Mae'r rhaglen yn rhoi cymhwyster a set gwerthfawr o sgiliau i'ch helpu symud ymlaen i swydd neu addysg.
Byddai modd i chi fynd yn eich blaen i astudio nifer o raglenni gyda Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnwys:
- Therapi Harddwch Lefel 2
- Trin Gwallt Lefel 1
- Gwaith Barbwr Lefel 1
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Therapi Harddwch
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch