Modiwl MA ar Fethodoleg Addysgu Dwyieithog
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Pum diwrnod cyswllt ac astudio annibynnol.
Modiwl MA ar Fethodoleg Addysgu Dwyieithog
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Nid yw'r ffaith bod ymarferwyr yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg yn golygu eu bod yn hyderus i weithio'n effeithiol mewn sefyllfa ddwyieithog broffesiynol. Mae angen cynllunio a threfnu i gynnal dwy iaith mewn modd cytbwys a theg. Mae hefyd angen hyder a brwdfrydedd i sicrhau bod dysgwyr yn cael pob cyfle i ddatblygu eu dewis iaith a'u sgiliau dwyieithog personol.
Pwrpas y modiwl 30 credyd hwn ar lefel M (7), 'Methodoleg Addysgu Dwyieithog', yw paratoi ymarferwyr i wneud hyn. Bwriad yr hyfforddiant yw cynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n addysgu'n ddwyieithog, gan arwain at gynnydd yn lefel a hyder defnydd dysgwyr o iaith mewn cyd-destun addysgol. Byddant yn cael eu paratoi i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hyderus ac yn effeithiol gan ddefnyddio'r ddwy iaith yn gytbwys a phriodol yn unol ag anghenion ieithyddol y grŵp dysgu.
Gofynion mynediad
Anelir y modiwl at ymarferwyr sy'n gallu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ond nad oes ganddynt yr hyder i addysgu grwpiau cymysg eu hiaith. Yn ôl canllawiau Prifysgol Bangor, mae'n rhaid i ymgeiswyr fod un ai â:
- gradd gychwynnol,
- cymhwyster cydnabyddedig cyfwerth,
- neu mae'n rhaid iddynt fod dros 25 oed gydag o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol.
Cyflwyniad
Bydd sesiynau'r pum niwrnod yn ymdrin â'r gwahanol ffactorau sydd angen eu hystyried er mwyn cynnal dysgu ac addysgu dwyieithog effeithiol. Bydd rhai o'r rhain yn cynnwys:
- Creu ethos dwyieithog;
- Methodoleg dysgu ac addysgu mewn sefyllfa ddwyieithog;
- Cynllunio gwersi a gweithgareddau dysgu ac addysgu mewn sefyllfa ddwyieithog;
- Paratoi a defnyddio adnoddau ar gyfer dysgu ac addysgu mewn sefyllfa ddwyieithog;
- Cyweiriau iaith;
- Potensial Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i gefnogi dysgu ac addysgu mewn sefyllfa ddwyieithog;
- Adnabod lefelau iaith a dwyieithrwydd unigolion, ac olrhain cynnydd mewn lefelau iaith;
- Cyd-destun addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru;
- Cyflwyniad i ddamcaniaethau yn ymwneud â dysgu ac addysgu dwyieithog sy'n addas ar gyfer addysg ôl-14 yng Nghymru.
Asesiad
Mae tair tasg i’w cwblhau o fewn y cwrs:
- Tasg 1.1 ac 1.2 - Sesiwn meicro-ddysgu ac arsylwad addysgu yn sefydliad yr ymarferwr;
- Tasg 2 - Gwerthusiad adfyfyriol ysgrifenedig o ymarfer personol;
- Tasg 3 – Ymchwil gweithredol (cofnod a gwerthusiad beirniadol o’r defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg yn y dosbarth/gweithdy gan grŵp o ddysgwyr dros gyfnod penodol).
Bydd hefyd angen astudiaeth bersonol.
Dilyniant
Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant a rhaglen mentora arloesol i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid.
Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.
Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.
Ariennir darpariaeth Sgiliaith ar gyfer staff addysg bellach a phrentisiaethau gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Porwch ein holl gyrsiau yma.
Mwy o wybodaeth
Lefel:
7-8
Maes rhaglen:
- Arbenigol / Arall
Dwyieithog:
Cyflwynir y cwrs hwn yn Gymraeg. Bydd holl ddeunydd y cwrs yn ddwyieithog a bydd mynychwyr yn gallu cyfrannu yn eu dewis iaith.