Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 1 mewn Iaith Arwyddion Prydain

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Lleoliad cymunedol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 awr yr wythnos am 22 wythnos

Cofrestrwch
×

Dyfarniad Lefel 1 mewn Iaith Arwyddion Prydain

Dysgwyr sy'n Oedolion

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cymhwyster hwn yw galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau addas a digonol er mwyn gallu defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i drafod materion pob dydd â phobl fyddar.

  • Cyfarfod pobl – deall cwestiynau syml, bod yn gwrtais, cyflwyno gwybodaeth
  • Gwaith/Ysgol/Coleg – adnabod mathau o waith neu sefydliadau addysgol, swyddi neu gyrsiau a astudir (cyfnod a dreuliwyd yn gweithio neu flynyddoedd yn y coleg)
  • Defnyddio rhifau (termau rhif cyffredinol gan gynnwys amser, oed ac arian)
  • Tywydd – trafod y tywydd a newidiadau tymhorol
  • Cyfarwyddiadau
  • Syniadau a safbwyntiau – ffeithiau a syniadau/mynegi barn mewn disgrifiadau syml
  • Strwythur arwyddo – gallu defnyddio strwythur arwyddo Iaith Arwyddion Prydain er mwyn ffurfio brawddegau
  • Disgrifio pobl, anifeiliaid, a gwrthrychau

Gofynion mynediad

Disgwylir bod y myfyrwyr wedi cwblhau'r Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain neu fod ganddynt lefel gyfatebol o sgiliau yn Iaith Arwyddion Prydain.

Cyflwyniad

Cyflwynir y gwersi ar gampysau'r coleg neu mewn lleoliadau cymunedol dros gyfnod o un flwyddyn academaidd. Bydd asesiadau'r cyrsiau a gyflwynir o bell yn cael eu cynnal ar un o gampysau'r coleg.

Asesiad

Rhennir y cymhwyster yn dair uned:

  • BSL101 - Cyflwyniad i BSL
  • BSL102 - BSL sgwrsio
  • BSL103 - Cyfathrebu mewn BSL am yr Uned Bywyd Bob Dydd

Asesir BSL101 yn fewnol gan yr athro. Caiff unedau BSL102 a BS 103 eu hasesu’n allanol gan Signature (y corff dyfarnu)

Dilyniant

Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn derbyn Tystysgrif iBSL, a gallant fynd ymlaen i ddilyn cwrs Iaith Arwyddion Prydain Lefel 2.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion

Dwyieithog:

n/a

Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion

Myfyrwyr yn defnyddio iaith arwyddion