BSc (Anrh) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau (Atodol)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn-amser: 1 flwyddyn, NEU Rhan-amser: 2 flynedd
Dydd Mercher a Dydd Gwener: 9am-5pm
- Cod UCAS:6T50
BSc (Anrh) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau (Atodol)Cyrsiau Lefel Prifysgol
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.
Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar hyn o bryd mae'r cwrs hwn yn cael ei ail-ddilysu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr a rhanddeiliaid. Mae hyn er mwyn diweddaru'r cynnwys erbyn Medi 2025.
Os ydych chi eisoes wedi cwblhau Radd Sylfaen mewn Animeiddio 3D a Datblygu Gemau (neu debyg), mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.
Bydd y cwrs yn adeiladu ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyda modiwlau i ehangu a mireinio'r sgiliau hyn.
Bydd gwaith unigol a grwp yn eich galluogi i archwilio meysydd sydd o ddiddordeb i chi ac yn datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol.
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n aelod o Raglen Academaidd PlayStation®First sy'n cael ei rhedeg gan Sony Interactive Entertainment Europe (SIEE). Mae'r rhaglen hon yn golygu bod gan staff a myfyrwyr fynediad at adnoddau caledwedd a meddalwedd datblygu proffesiynol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion Academaidd:
- Gradd Sylfaen (FdSc) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau, neu gymhwyster arall Lefel 5 mewn disgyblaeth berthnasol.
Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.
Gofynion Iaith:
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
- Dylai unrhyw radd, diploma neu dystysgrif gymwys fel a nodir uchod fod wedi cael eu dysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
- Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
- Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd rhyngweithiol
- Tiwtorialau / gweithdai
- Siaradwyr gwadd
- Dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Mae'r dysgu yn gyfranogol ac yn anffurfiol, ac yn llawn cyfleoedd i'r unigolyn archwilio eu creadigrwydd.
Amserlen
- Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
- Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnoed yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Joe Owen (Rhaglen Arweinydd): owen10j@gllm.ac.uk
David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Asesir y cwrs trwy gyfuniad o'r canlynol:
- Aseiniadau ymarferol a damcaniaethol
- Adroddiadau
- Cyflwyniadau llafar
- Gwaith prosiect
- Portffolios
- Aseiniadau grwp/mewn tim
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai, neu gyflogaeth.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Modiwlau Lefel 6
Prosiect Grŵp 1 - Cynllunio a Phrototeipio (20 credyd, gorfodol):
Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i ddysgwyr weithio mewn grwpiau, o 3 neu 5 fel arfer, ac archwilio ymhellach rhan ddewisol, neu feysydd gwahanol o'r diwydiant gemau. Bydd myfyrwyr yn gwneud hyn fel rhan o brosiect a fydd yn defnyddio sgiliau a ddysgwyd yn flaenorol ac yn datblygu sgiliau gweithio mewn grŵp. (Cynnig 30%, Prosiect 50%, Cyflwyniad 10%, Myfyrdod 10%)
Prosiect Grŵp 2 - Cwblhau Prosiect (20 credyd, gorfodol):
Bydd myfyrwyr yn dilyn egwyddorion a amlinellwyd ac a ddysgwyd yn ystod Prosiect Grŵp 1 - Cynllunio a Phrototeipio ac yn ymgymryd â'r dasg a gynlluniwyd yn ystod seminar 1. Mae angen i fyfyrwyr gynllunio amserlenni newydd gan gadw at y fethodoleg a ddewiswyd, a chadw at yr amserlenni newydd hyd nes bydd y prosiect wedi cael ei gwblhau. (Prosiect 70%, Cyflwyniad 20%, Myfyrdod 10%)
Traethawd Estynedig (40 credyd, gorfodol):
Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i ddysgwyr unigol archwilio rhan ddewisol o ddiwydiant cyfrifiadura a gemau yn fanylach drwy ymchwil neu draethawd estynedig wedi'i selio ar brosiect. (Cyflwyniad 5%, Traethawd Hir 90%, Poster 5%)
Datblygu Gemau ar draws Platfformau (20 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth dysgwyr o raglennu a datblygu gemau fel y gallant greu gemau o safon broffesiynol ar draws amrywiaeth o blatfformau. Trafodir defnydd Cyfrifiaduron, Consol a theclynnau symudol ar ddechrau'r cyfnod datblygu a defnyddir amrywiaeth o adnoddau rhaglennu pwrpasol i wella profiad rhyngweithiol defnyddiwr gyda'r gemau. (Cread ar siop app 40%, Creu gêm gyda nodweddion ychwanegol 60%)
Uwch Animeiddio (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw meithrin ymhellach gallu'r dysgwr o weithio gyda modelau 3D ac animeiddio. Bydd y modiwl yn archwilio'r dull cipio animeiddio ym maes animeiddio cyfoes, yn archwilio'r llwybr i'w dilyn wrth greu golygfeydd animeiddio a llunio rhagolwg o'r syniad gwreiddiol a fydd yn arwain at droi'r cysyniad yn olygfa gysylltu. (Arddangosiad 30%, Rhag-ddelweddu animeiddiad 30%, Creu animeiddiad 40%)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/aCyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau