Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BSc (Anrh) Seiberddiogelwch Cymhwysol - Prentisiaeth Gradd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    3 blynedd

Gwnewch gais
×

BSc (Anrh) Seiberddiogelwch Cymhwysol - Prentisiaeth Gradd

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Radd-brentisiaeth Seiberddiogelwch Gymhwysol yn ffordd arloesol a hyblyg o astudio am radd gan weithio ar yr un pryd. Mae'r cwrs gradd ar gael i rai a gyflogir yn unig. Cyflwynir y dysgu un diwrnod yr wythnos yng Ngrŵp Llandrillo Menai am y ddwy flynedd gyntaf, ac ym Mhrifysgol Bangor am y flwyddyn olaf.

Datblygwyd y radd hon ar y cyd â byd diwydiant i sicrhau bod y cwricwlwm yn berthnasol i ofynion y sector TG a datblygiad y gweithlu. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar seiberddiogelwch, gan gyfuno dysgu academaidd traddodiadol â dysgu seiliedig ar waith.

Mae'r llwybr hwn yn arfogi'r technegydd rhwydwaith modern â'r sgiliau sy'n ofynnol i reoli a diogelu systemau cyfrifiadurol. Datblygir amryw o sgiliau gan gynnwys sgiliau rhaglennu gyda Python, cyflwyniad i rwydweithiau gyda chyrsiau CISCO CCNA, deddfwriaeth sy'n ymwneud â rheoli system gyfrifiadurol a rheolaeth a diogelwch gwefannau. Yn y flwyddyn olaf mae project: Datrysiad Diogelwch Uwch, ynghyd â mathemateg Cryptograffeg ffurfiol, Profi Treiddiad, a datblygu Meddalwedd ac Enterprise Java.

Os ydych yn chwilio am gwrs prifysgol sy'n berthnasol i'r sector TG ac y gellir ei gwblhau wrth i chi weithio, yna mae'r radd-brentisiaeth BSc hon mewn seiberddiogelwch gymhwysol yn ddelfrydol. Bydd y rhaglen radd o fudd i chi ac yn hybu eich gwybodaeth a'ch cyfleoedd gyrfa, ac yn hybu llwyddiant eich cyflogwr hefyd.

Ar ôl cwblhau dwy flynedd o'r cwrs gellir ennill gradd FdSc fel cymhwyster ymadael, sydd wedi ei achredu dan y Fframwaith Prentisiaethau Uwch trwy'r Tech Partnership, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer TG.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i'r prentisiaid fod naill ai mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn cyflogaeth berthnasol yng Nghymru.
  • Caiff pob ymgeisydd ei ystyried fesul achos a bydd disgwyl iddynt ddod am gyfweliad anffurfiol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs trwy ddarlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau a gweithdai. Bydd cyflwyniadau hefyd gan siaradwyr gwadd. Mae’r dysgu'n ymarferol ac yn anffurfiol.

Asesiad

Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau fel aseiniadau ymarferol a damcaniaethol, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith project, portffolios ac aseiniadau tîm.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Myfyriwr yn chwarae gemau cyfrifiadurol

Sefydliad dyfarnu