BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
3 blynedd
BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol - Prentisiaeth GraddCyrsiau Lefel Prifysgol
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae’r Radd-brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol hon yn rhoi llwybr arall at addysg uwch draddodiadol - yn cyfuno gwaith gydag astudio yn y coleg a'r brifysgol. Bwriad y cwrs hwn yw galluogi'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau Meddalwedd a TGCh ar hyn o bryd i wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u cymhwysedd a chael gradd, a pharhau i fod mewn cyflogaeth lawn amser.
Mae'r cymhwyster hwn yn cwmpasu amryw o sgiliau sy'n angenrheidiol i lwyddo yn y sector TG. Mae'r agweddau dangosol yn datblygu o'r sylfeini cyfrifiadurol a rhaglennu gyda Python, C# ac enterprise Java ar y we, creu gwefannau gyda HTML5/CSS ac User Experience (UX) ac HCI, datblygu apiau ffôn symudol, dulliau peirianyddu meddalwedd ffurfiol a diogelwch.
Hefyd, yn y flwyddyn olaf, bydd y prentisiaid yn ymgymryd â phrojectau sy'n gysylltiedig â'u gweithle. Yn ogystal, caiff myfyrwyr y cyfle i ystyried ac ymchwilio i dechnoleg newydd sy'n codi'n gyson, sut i'w defnyddio a'r ystyriaethau moesegol.
Cynhelir y cwrs trwy gyfuniad o astudiaethau un-dydd yng Ngholeg Llandrillo a Phrifysgol Bangor a dysgu strwythuredig yn y gwaith. Byddwch yn datblygu cymwyseddau i lefel ddigonol i gofrestru ar gyfer cymhwyster Technegydd TGCh gan yr IET (Technegydd TGCh).
Caiff y cwrs ei gyllido’n llawn gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. I wneud cais am y cwrs hwn mae'n rhaid i chi neu'ch cyflogwr gysylltu â ni'n uniongyrchol.
Gofynion mynediad
- Rhaid i'r prentisiaid fod naill ai mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn cyflogaeth berthnasol yng Nghymru.
- Caiff pob ymgeisydd ei ystyried fesul achos a bydd disgwyl iddynt ddod am gyfweliad anffurfiol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs trwy ddarlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau a gweithdai. Bydd cyflwyniadau hefyd gan siaradwyr gwadd. Mae’r dysgu'n ymarferol ac yn anffurfiol.
Asesiad
Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau fel aseiniadau ymarferol a damcaniaethol, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith project, portffolios ac aseiniadau tîm.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
4-6
Maes rhaglen:
- Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau