Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser a Rhan-amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 1 flwyddyn - 2 ddiwrnod yr wythnos, ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, fel arfer rhwng 9.30am a 4pm

    Rhan-amser: 2 flynedd - 1 diwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9.30am a 4pm

    DYDDIAD DECHRAU: NEWYDD ar gyfer Medi 2026

Gwnewch gais
×

BSc (Anrh) Cwnsela

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi fod yn gwnselydd? Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r holl wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn Ymarferydd Cwnsela. Bydd yn eich galluogi i gael achrediad personol fel Ymarferydd Cwnsela gyda BACP (British Association of Counselling and Psychotherapy).

Dilynwch eich diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth gyda'r radd hon a ddilyswyd ac a ddyfernir gan Brifysgol Bangor. Dysgwch sut i rymuso eraill a meithrin lles meddyliol ac emosiynol cadarnhaol.

Ai hon fydd eich pennod nesaf?

Gellir astudio'r cwrs un ai'n llawn amser neu'n rhan-amser a golyga'r hyblygrwydd ei fod yn gallu cyd-fynd â'ch ymrwymiadau presennol. Felly, os ydych yn dychwelyd i addysg neu eisoes yn gweithio ym maes cwnsela ac yn awyddus i wella'ch cymwysterau a'ch statws neu gyfleoedd cyflogaeth, fe allai'r cwrs fod yn addas i chi.

Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol a phersonol er mwyn gallu bod yn gwnselwyr annibynnol sy'n gweithio'n unol â fframwaith moesegol ac arferion da BACP (British Association of Counselling and Psychotherapy). Mae'r cwrs yn bodloni'r gofynion ar gyfer bod yn gymwys am achrediad BACP. Mae'r modiwlau'n cynnwys:

  • Dulliau Gwybyddol ac Ymddygiadol o Gwnsela (20 credyd)
  • Prosiect Ymchwil y Flwyddyn Olaf - Traethawd Estynedig (40 credyd)
  • Integreiddio Theori a Sgiliau (20 credyd)
  • Gweithio gyda Thrawma (20 credyd)
  • Datblygiad Personol a Phroffesiynol (20 credyd)

Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.

Gofynion mynediad

Bydd dilyniant i'r cwrs BSc lefel 6 hwn yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen mewn Theori Cwnsela i Radd BA (Anrh) mewn Cwnsela yn GLlM, yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus..

Caiff ymgeiswyr eu hystyried ar sail eu cymwysterau academaidd blaenorol a'r profiad galwedigaethol perthnasol sydd ganddynt.

Sylwch y gallai fod angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) arnoch er mwyn cael mynd ar leoliad gwaith.

Ar gyfer unigolion nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod:

Rydym yn fodlon ystyried ystod eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd.

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai
  • Tiwtorialau
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu ar y we
  • ⁠Ymarferion i ddatrys problemau mewn grŵp
  • Arsylwi ac ymarfer sgiliau

Gall siaradwyr gynnwys amrywiaeth o arbenigwyr o sefydliadau partner, asiantaethau a sefydliadau cwnsela

Amserlen:

Llawn amser: 1 flwyddyn - 2 ddiwrnod yr wythnos, ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, fel arfer rhwng 9.30am a 4pm

Rhan-amser: 2 flynedd - 1 diwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9.30am a 4pm

Dyddiad dechrau: Medi 2026

Gofal Bugeiliol

Mae’r system Tiwtorialau Personol yn nodwedd bwysig o'r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ac mae'r sesiynau yn gyfle i drafod materion amrywiol fel cynnydd, dilyniant, lleoliadau gwaith ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Bydd gwybodaeth fanylach am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliadau gwaith / profiad gwaith (os yw'n berthnasol) yn nogfen ddilysu'r rhaglen ac fe’i heglurir i chi yn eich cyfweliad.

Gallai hyn gynnwys aelodaeth BACP, yswiriant, goruchwyliaeth, DBS a chwnsela personol.

Bydd angen i fyfyrwyr ystyried costau'r adnoddau a'r deunyddiau y bydd arnynt eu hangen i astudio'n annibynnol y tu allan i'r coleg, e.e. cyfrifiadur personol/gliniadur, mynediad i'r rhyngrwyd, meddalwedd, deunyddiau y bydd arnynt eu hangen ar gyfer datblygu sgiliau ymarferol, a llyfrau/cyfnodolion ac ati yr hoffent eu prynu yn hytrach na'u benthyg drwy'r gwasanaeth llyfrgell. Gall myfyrwyr ddefnyddio llyfrgelloedd y coleg a gwasanaethau benthyg llyfrau, ond rhaid iddynt dalu dirwy am lyfrau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr neu'n cael eu colli.

Cyswllt: graddau@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae ein hasesiadau'n caniatáu i'r dysgu gael ei gymhwyso ar sail eich prif ddiddordebau, eich profiad galwedigaethol a'ch lleoliadau gwaith. Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.

Mae'r mathau o asesiadau'n cynnwys

  • Portffolios unigol
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Trafodaeth broffesiynol
  • Cyflwyno
  • Cynnig ymchwil
  • Astudiaethau achos
  • Podlediad
  • Portffolio o 100 o oriau cwnsela ar leoliad

Dilyniant

Ble gall y cwrs hwn fynd â mi yn fy ngyrfa yn y dyfodol?

Gall cwblhau'r cwrs hwn arwain at nifer o ddewisiadau dilyniant o ran addysg a chyflogaeth:

  • Cwnselydd cofrestredig
  • Cwnselydd Preifat/Sesiynol
  • Cwnselydd mewn Ysgol neu Goleg
  • Gweithiwr iechyd Meddwl
  • Gwaith therapiwtig
  • Yn dilyn cwblhau gradd BSc yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i wahanol gyrsiau meistr. Er enghraifft:
    • MA Cwnsela
    • MA Gwaith Cymdeithasol
    • MA Troseddeg a Chymdeithaseg
    • MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
    • MA Cymdeithaseg
    • MA Polisïau Cymdeithasol
    • MSc Nyrsio Oedolion, Plant neu Iechyd Meddwl
    • MSc Addysg
    • MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Llesiant
    • MSc Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd

Drwy gydol y flwyddyn, caiff myfyrwyr AU GLlM y wybodaeth ddiweddaraf am ffeiriau recriwtio graddedigion a gynhelir yn lleol a thu hwnt e.e. yn Lerpwl a Manceinion.⁠ ⁠Mae'r Arweinwyr Rhaglenni yn rhoi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau ac yn gweithio gyda Gyrfa Cymru.

Yn rhan o'r strategaeth AU bresennol mae GLlM hefyd wedi cyflwyno'r rhaglen 'Dyfodol Myfyrwyr' er mwyn gwella cyflogadwyedd y dysgwyr. Llwyddodd cyn-raddedigion o GLlM i gael gwaith gyda Chynghorau Bwrdeistrefi Sirol ar amrywiol brosiectau yn cynnwys Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar, Grwpiau Ymgynghorol Arbenigol a gwasanaethau i boblogaethau arbennig. Cafodd graddedigion eu recriwtio hefyd gan elusennau lleol a chenedlaethol sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, diogelu plant a chamddefnyddio sylweddau. ⁠ ⁠ ⁠ ⁠ ⁠

I’r rhai sy’n astudio er mwyn datblygu yn eu proffesiwn presennol, bydd meddu ar radd sylfaen lawn yn dangos sgiliau lefel uchel a all arwain at fwy o ddewisiadau gyrfa mewn amrywiaeth o gyd-destunau sector cyhoeddus a sector preifat, gyda’r posibilrwydd o gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd. Mae'r Ganolfan yn cynnwys darlithfeydd o'r radd flaenaf, ystafelloedd seminar, adnoddau llyfrgell arbenigol, cyfleusterau TG a mannau astudio.

Modiwlau Lefel 6:

Dulliau Gwybyddol ac Ymddygiadol o Gwnsela
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i wahanol ddulliau gwybyddol o gwnsela ac yn ystyried ffyrdd posibl o sefydlu sgiliau a thechnegau’n ddiogel a moesegol yn eich gwaith presennol gyda chleientiaid. Bydd hyn yn helpu eich dealltwriaeth ac yn newid patrymau ac ymddygiadau meddwl camaddasol, gan feithrin gwell iechyd meddwl a lles yn y pen draw.

Prosiect Ymchwil y Flwyddyn Olaf – Traethawd Estynedig
Mae'r modiwl hwn yn ⁠adeiladu ar sgiliau academaidd blaenorol a gyflwynwyd mewn agweddau cynharach ar y radd a bydd yn eich cefnogi ⁠i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymchwil. ⁠Bydd yn eich paratoi a'ch cynorthwyo i ysgrifennu darn o waith estynedig ar bwnc o'ch dewis sy'n ymwneud â'ch maes proffesiynol, gyda chefnogaeth goruchwylydd profiadol.

Bydd yn eich galluogi i ddangos hyd a lled eich gwybodaeth mewn maes penodol sydd o ddiddordeb proffesiynol i chi. Bydd y traethawd estynedig yn dangos eich gallu academaidd cyffredinol. Byddwch yn ymgymryd ag ymchwil cynradd neu eilaidd ac yn cael eich goruchwylio a'ch arwain.

Integreiddio Theori a Sgiliau
Bwriad y modiwl hwn yw archwilio dulliau o sefydlu theori a sgiliau mewn cwnsela, gan roi dealltwriaeth i chi o wahanol ffyrdd o ddefnyddio sgiliau cwnsela uwch fel cwnsela cyfannol a dulliau eclectig. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r dull theoretig yn eich cwnsela.

Gweithio gyda Thrawma
Mae'r modiwl hwn yn rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau i weithio'n therapiwtig gyda chleientiaid sy'n dangos symptomau trawma seicolegol. Cewch eich cyflwyno i nifer o ymyriadau a thechnegau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi triniaeth a gwellhad cleientiaid sy'n delio â thrawma, cywilydd ac euogrwydd gwenwynig.

Datblygiad Personol a Phroffesiynol
Bydd y modiwl hwn yn eich annog i adfyfyrio, cyfathrebu a rhannu eich hunanymwybyddiaeth gynyddol, eich twf personol a'ch gallu i dderbyn eich hun trwy ryngweithio a chymryd rhan mewn prosesau sesiynau grŵp. Byddwch yn gallu cysylltu syniadau a chysyniadau damcaniaethol i'ch datblygiad personol eu hun; yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion datblygiadol a all effeithio ar eu gallu i weithio'n effeithiol gyda chleientiaid; yn meithrin a gwella eich gallu i hunan-adfyfyrio.

Anogir chi i rannu gyda'r grŵp yr hunanymwybyddiaeth rydych wedi'i dysgu o'r broses adfyfyrio; i gyfathrebu, i leisio ac i rannu eich gwendidau ac i arddangos y nodweddion moesol sy'n greiddiol i gwnselwyr, sef gwytnwch, gwyleidd-dra, gonestrwydd a dewrder personol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Cwnsela

Cwnsela

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cwnsela