BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon) (Atodol)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn amser: 1 flwyddyn NEU Rhan-amser: 2 flynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau.
Dydd Mercher a Dydd Iau, 9am - 5pm
- Cod UCAS:CX61
BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon) (Atodol)Cyrsiau Lefel Prifysgol
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Llawn Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n llawn-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar hyn o bryd mae'r cwrs hwn yn cael ei ail-ddilysu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr a rhanddeiliaid. Mae hyn er mwyn diweddaru'r cynnwys erbyn Medi 2025.
Os ydych chi eisoes wedi cwblhau Gradd Sylfaen (FdSc) mewn Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon) (neu debyg), mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.
Bydd y rhaglen hon yn caniatáu i chi:
- Adeiladu ar brofiad Hyfforddi a Gwyddor Chwaraeon galwedigaethol, gan ddarparu fframwaith academaidd manylach
- Cynyddu a chyfleu safbwyntiau newydd mewn gwyddoniaeth chwaraeon a hyfforddi, gan herio safbwyntiau blaenorol
- Ymgymryd â dysgu annibynnol ac ymchwil academaidd ym maes chwaraeon
- Datblygu dadansoddiad beirniadol o sgiliau gwyddor chwaraeon a hyfforddi chwaraeon mewn amrywiaeth o chwaraeon ac ar bob lefel o allu, gan gynnwys poblogaethau arbennig
- Darparu sgiliau uwch a gwybodaeth i ddysgwyr i ddatblygu gyrfa o fewn y sector
- Cynnig profiad dysgu unigryw a chefnogol
Mae modiwlau yn cynnwys:
- Ffisioleg Uwch
- Materion mewn Hyfforddiant a Hyfforddi Chwaraeon
- Poblogaethau Arbennig
- Seicoleg Chwaraeon i Hyfforddwyr
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion academaidd:
Ar ôl cwblhau Gradd Sylfaen (FdSc) mewn Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon) neu gymhwyster cywerth, gan sicrhau teilyngdod o leiaf (sy'n gywerth â chanran gyffredinol o 60%), gall dysgwyr fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd BSc (Anrh). Rhaid i ymgeiswyr a gafodd farc llwyddo da yn y radd sylfaen lwyddo mewn cyfweliad ac ni ddylai eu sgôr yn y modiwl ymchwilio ar Lefel 5 fod yn is na 50%.
Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.
Gofynion Iaith:
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys a nodir uchod fod wedi'u dysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg/Saesneg
- Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
- Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd
- Gweithdai a sesiynau ymarferol
- Sesiynau tiwtorial
- Darlithoedd Hunangyfeiriol
- Siaradwyr gwadd
- Dysgu myfyriwr-ganolog
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Amserlen
- Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
- Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Gwiriad DBS
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Steve Kehoe (Rhaglen Arweinydd): kehoe1s@gllm.ac.uk
Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): backho1s@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Portffolios unigol
- Traethodau
- Traethawd hir
- Adroddiadau
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniadau
- Profion yn y dosbarth (llyfr agored a chaeedig)
- Adroddiadau grŵp
- Cyflwyniadau grŵp
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Mae'r cwrs hwn yn cynnig nifer o opsiynau ar gyfer datblygiad proffesiynol ac addysgol ichi. Gallwch ddewis symud ymlaen at gymhwyster is-raddedig neu broffesiynol, gan gynnwys gradd Meistr neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion.
Neu, gallai'r Radd Anrhydedd arwain ymlaen yn syth at swydd yn y sector cyhoeddus neu breifat. Gallwch weithio fel hyfforddwr neu reolwr hyfforddi, neu mewn rôl cymorth gwyddor chwaraeon neu ddatblygu chwaraeon. Gallech hefyd fynd i un o'r proffesiynau iechyd neu wyddonol cysylltiedig, lle bydd eich profiad ymchwil yn arbennig o berthnasol.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Gwybodaeth uned
Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:
Lefel 6
Ffisioleg Uwch (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw ymchwilio i ffisioleg lludded mewn amgylchedd eithafol (gwres) a thechnegau ymarfer a gynlluniwyd yn benodol i dargedu addasiadau ffisiolegol allweddol, ynghyd â'r canfyddiadau anghyson a geir yn y deunyddiau. Bydd y myfyrwyr yn parhau hefyd i feithrin sgiliau hyfforddi drwy gael eu hasesu'n gwneud y gwaith. (Arholiad 50%, Cymhwysedd ymarfer 50%)
Traethawd Estynedig (40 credyd, gorfodol)
Pwrpas y modiwl hwn yw adeiladu ar y cynnig ymchwil a chwblhau darn o waith annibynnol. Cyn mynd ati i ymchwilio, rhaid i fyfyrwyr wneud cais a chael sêl bendith y pwyllgor moeseg. Mae gofyn i fyfyrwyr gasglu data gwreiddiol/eilaidd, ei ddadansoddi, a darparu casgliadau ysgrifenedig a seiliwyd ar ddeilliannau gwyddonol. (Traethawd hir annibynnol 100%)
Materion mewn Hyfforddiant a Hyfforddi Chwaraeon (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o faterion cyfoes sy'n ymwneud â hyfforddiant a hyfforddi. Bydd myfyrwyr yn archwilio dadleuon mewn ymchwil ar ffactorau aerobig ac anaerobig allweddol, y defnydd o dechnoleg o fewn yr amgylchedd hyfforddi a natur gymhleth y berthynas hyfforddwr-athletwr. (Beirniadaeth erthygl 50%, Cyflwyniad 50%)
Poblogaethau Arbennig (20 credyd, gorfodol)
Prif nod y modiwl hwn yw astudio ffisioleg athletwyr ifanc a rhai hŷn, ynghyd â'r modd y maent yn ymateb i ymarfer corff. Hefyd, sefydlir y cysylltiad rhwng hyn a pherfformiad. Edrychir ar ymarferion sy'n cael eu hargymell, ar sail tystiolaeth, ar gyfer cyflyrau a phoblogaethau penodol ac ar sut y mae'r rhain yn cyfrannu at raglenni hyfforddi sy'n gysylltiedig ag iechyd. (Traethawd ysgrifenedig 60%, Cyflwyniad poster and viva voce 40%)
Seicoleg Chwaraeon i Hyfforddwyr (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw addysgu dysgwyr ynghylch damcaniaethau a modelau gorbryder a'u perthynas â pherfformiad, a rhoi i ddysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth sy'n gysylltiedig ag ymyrraeth effeithiol. Yn y modiwl hwn, edrychir ar sut i lunio a dethol damcaniaethau priodol er mwyn deall ymddygiad perfformiwr mewn cyd-destun cystadleuol. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o'r egwyddorion seicolegol sydd wrth wraidd ymddygiad athletwyr ac i ddatblygu ffyrdd o hybu perfformiad athletwyr drwy gyfrwng amrediad o ymyriadau sy'n gysylltiedig â seicoleg chwaraeon, gan roi theori seicoleg chwaraeon ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn. (Traethawd ysgrifenedig 60%, Astudiaeth achos 40%)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- International
- Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/aChwaraeon ac Addysg Awyr Agored
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored