Prentisiaeth Uwch - Busnes a Gweinyddu Proffesiynol Lefel 4 a 5
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 mis
Prentisiaeth Uwch - Busnes a Gweinyddu Proffesiynol Lefel 4 a 5Prentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r fframwaith hwn wedi ei gynllunio i gwrdd ag anghenion sgiliau cyflogwyr o bob maint ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw yng Nghymru. Bydd yn denu talent newydd i yrfaoedd mewn busnes a gweinyddu, a bydd yn helpu i uwchsgilio'r gweithlu i gymryd lle'r rhai sy'n gadael neu'n ymddeol.
Bydd Prentisiaid Uwch yn gweithio mewn rolau megis rheolwyr swyddfa, arweinwyr tîm gweinyddol, cynorthwywyr personol neu swyddogion gweithredol datblygu busnes.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, ond mae profiad mewn Gweinyddu Busnes yn ddymunol
- Mae'n rhaid bod gan brentisiaid gyflogwr sy'n gallu ymdrin â meini prawf yr NVQ
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Mae rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn y gweithle
- Bydd yn ofynnol i bob dysgwr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau theori a phrofion
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gwaith
- Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
Dilyniant
Gallech symud ymlaen i ddilyn nifer o raglenni addysg uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
BA (Anrh) Rheoli a Busnes, ar gael yn:
- Llandrillo-yn-Rhos
Graddau Sylfaen (FdA) Rheoli a Busnes ar gael yn:
- Llandrillo-yn-Rhos
HND/HNC Astudiaethau Busnes, ar gael yn:
- Bangor
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
Ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: