Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Gweithrediadau Prosesu Polymer

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Safle cyflogwr
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Gweithrediadau Prosesu Polymer

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os ydych chi am ennill cydnabyddiaeth am eich sgiliau polymer presennol neu ddysgu sgiliau prosesu polymer newydd, yna bydd y cymhwyster hwn yn cydnabod sgiliau a gwybodaeth unigolion sy'n gweithio yn y sectorau Polymer a Pholymer Cyfansawdd.

Mae'r cymhwyster yn cynnwys un uned Orfodol sy'n trafod Iechyd a Diogelwch ac yna gall y dysgwyr ddewis o blith unedau dewisol ar ddechrau, cynnal a chau proses gynhyrchu ar beiriant, archwilio a gorffen cynhyrchion, cynnal profion a samplu a thasgau eraill a gyflawnir yn y Diwydiant Polymer.

Mae'n addas i weithredwyr proses sy'n gweithio mewn sefydliadau sy'n rhoi gweithdrefnau iddynt weithio o'u mewn a meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau a gweithredu. Gall gweithrediadau'r broses ymwneud â chynhyrchu parhaus neu gynhyrchu swp a gall fod yn weithrediad sylfaenol neu eilaidd.

Mae'r grwpiau o unedau dewisol yn gwneud y cymhwyster yn addas ar gyfer ystod eang o swyddi yn y sector prosesu polymer.

Swyddi • Gosodwyr / Gweithredwyr Prosesu • Arolygwyr Rheoli Ansawdd • Gweithredwyr Gorffen a Chydosod • Gweithredwyr / Technegwyr Prosesu.

Gofynion mynediad

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol

• Cymhelliant i lwyddo mewn diwydiant

• Ymwybyddiaeth o ofynion y Brentisiaeth

• Parodrwydd i gydymffurfio â thelerau ac amodau cyflogaeth y cyflogwr/darparwr hyfforddiant

• Y gallu i gymhwyso dysgu yn y gweithle

• Parodrwydd i weithio gan roi sylw dyledus i'ch Iechyd a Diogelwch eich hun ac eraill

• Cyfathrebu effeithiol ag amrywiaeth o bobl.

Bydd angen nawdd cyflogwr arnoch i'ch galluogi i gwblhau'r elfen tystiolaeth o'r gweithle yn y cymhwyster.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy sesiynau addysgu a sesiynau ymarferol.

  • Cyflwyniadau
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Google Classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)
  • Sesiynau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig i ddatblygu portffolio o dystiolaeth
  • Mae’r fframwaith yn cynnwys y Sgiliau Hanfodol (Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, TGCh/Llythrennedd Digidol) sydd eu hangen ar gyfer prentisiaeth mewn Gweithrediadau Prosesu Polymer.

Asesiad

Mae'r hyfforddi a'r asesu wedi eu cynnwys yng nghorff y cwrs.

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Portffolios gwaith
  • Arddangos sgiliau ymarferol

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

Diploma Lefel 3 GQA-PAA\VQ-SET mewn Gweithrediadau Polymer

Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Gweithrediadau Polymer yn ymdrin ag egwyddorion iechyd a diogelwch HSG65 a gofynion amgylcheddol ISO14001, gwneud diagnosis ac ymdrin â phroblemau prosesu, techneg chwe phwynt, ffurfweddu systemau prosesu ac optimeiddio gweithrediadau prosesu, a all gynnwys cynnal a chadw peiriannau prosesu polymer yn awtonomaidd. Yna gall dysgwyr ddewis o blith Unedau Dewisol sy'n ymdrin â gwasanaethu arferol, gweithrediadau samplu cymhleth, darparu cymorth technegol a chynllunio gweithgareddau prosesu polymer.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

Oes

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr yn gweithio ar fwrdd trydanol