Tystysgrif TESOL - Addysgu Saesneg i Siaradwyr o Ieithoedd Eraill
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
32 wythnos (cwrs rhan amser) neu 5 wythnos (cwrs dwys)
Tystysgrif TESOL - Addysgu Saesneg i Siaradwyr o Ieithoedd EraillDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
- Ydych chi eisiau dysgu am hanfodion dysgu Saesneg fel ail iaith er mwyn gweithio dramor neu er mwyn gweithio yn y DU?
- Ydych chi eisiau cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn fyd eang?
- Ydi dysgu am ddiwylliannau eraill o ddiddordeb i chi?
- A oes gennych sgiliau cyfathrebu Saesneg da?
- Ydych chi’n barod i ymgymryd â her newydd?
Os felly, mae’n bosib mai hwn yw’r cwrs i chi!
Mae’r cymhwyster hwn wedi ei gynllunio i’ch galluogi i:
- Ddod yn fwy cyfarwydd ag egwyddorion ac ymarfer dysgu Saesneg i oedolion
- Ddatblygu y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer dysgu iaith i oedolion
- Ddatblygu ymwybyddiaeth o iaith gan gynnwys gramadeg a chystrawen
- Ddatblygu dealltwriaeth gychwynnol o’r cyd-destunau y gellir eu defnyddio i gefnogi oedolion i ddysgu Saesneg, yn ogystal a’u cymhelliant i ddysgu a swyddogaeth yr athro a’r dysgwr o fewn hynny
- Ymgyfarwyddo gyda’r deunyddiau ac adnoddau dysgu priodol
- Adnabod cyfleoedd ar gyfer eich datblygiad personol eich hun o fewn y maes
Cyfleoedd o ran gyrfa:
- Dysgu Saesneg fel iaith dramor
- Teithio a gweithio dramor
- Dysgu SSIE yn y Deyrnas Unedig
- Dysgu Saesneg fel iaith dramor ar lein
- Tiwtora unigol
Gofynion mynediad
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 neu hŷn
- Rhaid i chi ddangos eich bod yn gallu gweithio yn effeithiol ar lefel is radd/prifysgol
- I weithio fel athro ESOL proffesiynol, nid oes gofyn i chi fod yn siaradwr iaith gyntaf. Er hynny, bydd gofyn i chi allu siarad ac ysgrifennu Saesneg at y lefel briodol – IELTS 7/8; Lefel 3
- Bydd gofyn i chi fod yn barod i weithio yn effeithiol o fewn eich grŵp ac i ymateb yn adeiladol i i’r adborth ar eich perfformiad unigol
- Bydd gofyn i chi gwblhau tasgau cyn-gwrs a chyfweliad yn llwyddiannus
Oherwydd natur y cwrs, bydd y rhaglen yn cael ei haddysgu yn Saesneg.
Cyflwyniad
Cwrs 130 awr gyda 90 awr cyswllt. Yn ychwanegol at hynny, mae gofyn i chi ymgymryd â 6 awr o ymarfer dysgu gyda dysgwyr SSIE.
Cyflwynir ac asesir y cwrs drwy gyfrwng 5 uned:
- Uned 1: Sgiliau Addysgu
- Uned 2: Ymwybyddiaeth iaith gan gynnwys gramadeg a seinyddiaeth
- Uned 3: Proffil dysgwr
- Uned 4: Asesiad deunyddiau
- Uned 5: Iaith anhysbys
Asesiad
Ystod o aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol gan gynnwys cyfnodolion, cynllunio gwersi, gwerthusiadau ysgrifenedig.
Dilyniant
Derbynnir y cymhwyster hwn gan y Cyngor Prydeinig ar gyfer dysgu Saesneg fel iaith dramor. Mae modd defnyddio’r credydau ar gyfer cyrsiau gradd o fewn rhai prifysgolion yn y Deyrnas Unedig.
Gwybodaeth campws Bangor (Campws Newydd)
DYLUNIAD Y CWRS
Mae’r cwrs hwn a’r cymhwyster Tyst TESOL yn addas ar gyfer pobl sydd gyda ychydig neu ddim profiad o ddysgu Saesneg. Mae’n gwrs ymarferol a gellir dewis dilyn y cwrs yn rhan-amser neu fel rhan o gwrs dwys.
Cynlluniwyd y cwrs i roi'r cyfle gorau posib i chi fagu’r medrau ac ennill cymhwyster a fyddai yn eich galluogi i ddysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill un ai dramor neu yn y wlad hon. Mae modd i chi felly ddewis y dull mwyaf hwylus i chi o ennill y cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Byddwch yn gweithio gyda dysgwyr o bedwar ban byd sydd hefyd o gefndiroedd amrywiol a gwahanol. Golyga hyn ein bod yn gallu cynnig cyfleon hyfforddiant o’r radd flaenaf i unigolion sydd yn awyddus i ddysgu am hanfodion dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd eraill. Ond yr hyn sydd yn ein gwneud yn neilltuol ac unigryw fel darparwyr hyfforddiant TESOL yw y cyfleon y caiff unigolion i weithio mewn sefyllfa gwbl ddwyieithog – gall hyn fod o fantais i chi yn ystod cyfweliadau ac wrth gwrs yr hyder i weithio dramor mewn gwlad wahanol. Tu allan i'r cwrs, mae modd i chi fwynhau’r bobl, ein cymunedau, y natur a’r gweithgareddau awyr-agored sydd yn rhan o enwogrwydd Gogledd Cymru.
DEILLIANNAU:
Bydd ymgeiswyr yn cael cyfle i fagu sgiliau a gwybodaeth sy’n angenrheidiol arnynt i ymgymryd yn hyderus a swydd athro Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd eraill. Ar ddiwedd y cwrs, bydd gennych sylfaen gadarn o’r theori a’r ymarfer o ddysgu Saesneg fel ail iaith, yn ogystal â syniad eglur o’r heriau sy’n wynebu’r dysgwr a’r athro.
Bydd yn eich paratoi i ddysgu yn y DU ac yn rhyngwladol. Byddwch yn cael cyfle i ddefnyddio yr offer ddiweddaraf, ee byrddau rhyngweithiol ond bydd hefyd yn eich paratoi i weithio mewn sefyllfaoedd lle nad oes technoleg ar gael.
EICH DEWIS:
Wrth ddewis cwrs ar gyfer eich paratoi i ddysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill neu Saesneg fel Iaith Dramor, mae’n hynod bwysig eich bod yn dewis cymhwyster sydd ag enw da yn ogystal â darparwr hyfforddiant proffesiynol a phrofiadol. Mae Tyst TESOL yn cael ei chydnabod fel y safon rhyngwladol yn y maes addysgu SSIE ac mae gan y tîm yng Ngholeg Menai brofiad eang o ddarparu’r math hwn o hyfforddiant gyda llawer o’r dysgwyr yn mynd ymlaen i ymgeisio yn llwyddiannus am swyddi deniadol a chyflawnol.
EIN TÎM:
Mae gan ein tîm o hyfforddwyr proffesiynol dros 100 o flynyddoedd o brofiad addysgu ac hyfforddi rhyngddynt, ac maent wedi dysgu mewn 6 o wledydd dros y byd. O fewn yr ugain blynedd olaf, rydym wedi adeiladu canolfan rhagoriaeth ar gyfer SSIE yng nghanol hyfrydwch Gogledd Cymru.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
5
Maes rhaglen:
- ESOL