Plant a Phobl Ifanc Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 mis
Plant a Phobl Ifanc Lefel 3Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae angen y cymhwyster hwn i weithio mewn swyddi penodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
Bydd y cymhwyster Lefel 3 mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiad, eu sgiliau a'u hymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.Rhaid i'r dysgwyr fod un ai'n gweithio ym maes gofal maeth neu'n gweithio mewn ysgol breswyl neu ganolfan gofal plant arbenigol.
Gofynion mynediad
Cytundeb i weithio o leiaf 16 awr yr wythnos.
Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Sesiynau ar-lein a gynigir yn ystod y dydd neu fin nos i fodloni gofynion eich patrymau gwaith.
Cyfarfodydd ar-lein bob mis gyda'ch asesydd.
Arsylwadau, dysgu uniongyrchol, trafodaethau proffesiynol a thystiolaeth gan y cyflogwr.
Bydd angen cwblhau adfyfyrion ar eich ymarfer gwaith yn ogystal â pharatoi ar gyfer cael eich arsylwi yn eich lleoliad gwaith trwy dasgau strwythuredig.
Asesiad
Cwblhau portffolio o dystiolaeth (Defnyddio E-bortffolio Onefile).
Gwaith ysgrifenedig, arsylwadau, a thrafodaethau.
Arholiad – i gynnwys prawf ar dair astudiaeth achos a phrawf amlddewis ar gyfer y cwrs craidd Lefel 2 ym maes Plant a Phobl Ifanc.
Dilyniant
Cyrsiau eraill a gynigir gan GLLM.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Datblygiad ac Addysg Plant
Datblygiad ac Addysg Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: