Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 months
Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant Lefel 2Dysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bwriad y cwrs hwn yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i unigolion sydd un ai'n gweithio neu am weithio yn y sector gofal plant.
Mae dwy ran i'r cwrs, sef yr elfen Graidd sy'n seiliedig ar theori a'r cymhwyster Ymarferol. Mae'n bosibl cwblhau'r elfen graidd os nad yw'r unigolyn yn gweithio mewn amgylchedd gofal plant.
Gofynion mynediad
Bod yn gyflogedig yn y sector Gofal Plant am o leiaf 16 awr yr wythnos.
Mae pob lle yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle/Ar-lein
Rhoddir portffolio electronig i chi a bydd aseswr yn eich cefnogi unwaith y mis naill ai drwy ymweliad â'ch gweithle neu drwy alwad fideo.
Asesiad
Cwblhau portffolio o dystiolaeth (Defnyddio E-bortffolio Onefile).
Bydd eich aseswr yn trefnu i ymweld â'ch gweithle i asesu eich gallu i gefnogi disgyblion gyda thasgau llythrennedd, rhifedd a TGCh. Bydd angen i chi hefyd ddangos eich gallu i annog ymddygiad cadarnhaol, cadw at bolisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch, a dangos cefnogaeth effeithiol a sgiliau cyfathrebu gyda disgyblion ac aelodau o'r tîm.
Cymhwyster Craidd - 2 arholiad a phortffolio gwaith manwl sy'n cynnwys adfyfyriadau.
Cymhwyster Ymarfer – mae angen o leiaf 6 arsylwad a fydd yn golygu cynllunio, cael eich arsylwi ac adfyfyrio ar eich gwaith.
Bydd y cymhwyster yn cael ei farcio gan aseswr gweithle a'i safoni gan y swyddog sicrhau ansawdd mewnol.
Dilyniant
Os yw rôl eich swydd yn caniatáu gallwch symud ymlaen i gymhwyster GCDDP Lefel 3.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Datblygiad ac Addysg Plant
Datblygiad ac Addysg Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: