CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Marchnata Cymhwysol (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
10 wythnos
CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Marchnata Cymhwysol (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)Proffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
I gwblhau cwrs CIM Lefel 4 bydd angen i chi fod mewn rôl farchnata iau mewn sefydliad neu farchnatwr o fewn BBaCh.
Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu am rôl marchnata yn y sefydliad a'r cysyniadau allweddol sy'n sail i weithgareddau'r marchnatwr. Byddwch yn archwilio’r amgylchedd marchnata, ymddygiad cwsmeriaid yn yr oes ddigidol, ymchwil marchnad a’r broses cynllunio marchnata. Bydd hyn yn cynnwys y cymysgedd marchnata a fframwaith cynllunio tactegol i gynorthwyo effeithiolrwydd marchnata.
Dyma’r manteision o astudio cwrs CIM:
- Ennill cymhwyster marchnata proffesiynol cydnabyddedig sy'n agor rhagolygon gyrfa a swyddi newydd
- Ennill sgiliau marchnata newydd
- Rhoi’r sgiliau newydd ar waith yn eich rôl
- Adeiladu eich galluoedd marchnata proffesiynol
- Datblygu sgiliau cyfathrebu gwell gyda'ch cwsmeriaid
- Mae cyllid 100% ar gael trwy Cyfrif Dysgu Personol (CDP)
Gofynion mynediad
Bydd angen o leiaf blwyddyn o brofiad yn y diwydiant neu gymhwyster Lefel 3 perthnasol i astudio'r Dystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol neu Dystysgrif mewn Marchnata Digidol Proffesiynol.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs hwn yn dechrau ar 16eg Ionawr 2024 ac yn cael ei gyflwyno bob dydd Mawrth o 9.30yb tan 2.30yh am 10 wythnos.
Addysgir y cwrs hwn gan ddefnyddio ystafell ddosbarth ar-lein, gyda mynediad at adnoddau, gwaith grŵp, astudiaeth bersonol a chymorth tiwtor. Rhoddir cefnogaeth i ysgrifennu'r aseiniad i'r rhai sydd angen.
Asesiad
Asesir trwy arholiad amlddewis ar-lein
Dilyniant
- CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Cynllunio Ymgyrchoedd
- CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Technegau Marchnata Digidol
- CIM Tystysgrif Lefel 4 mewn Marchnata Digidol Proffesiynol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: