Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Technegau Marchnata Digidol (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 wythnos

Cofrestrwch
×

CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Technegau Marchnata Digidol (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

I gwblhau cwrs CIM Lefel 4 bydd angen i chi fod mewn rôl farchnata iau mewn sefydliad neu farchnatwr o fewn BBaCh.

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y dirwedd ddigidol ddeinamig sy’n esblygu’n barhaus. Byddwch yn datblygu sgiliau i wella perfformiad marchnata digidol ac archwilio’r heriau a’r cyfleoedd o fewn yr amgylchedd digidol. Byddwch hefyd yn defnyddio ystod o offer i gynllunio sut i wella effeithiolrwydd sefydliad yn yr oes ddigidol.

Dyma’r manteision o astudio cwrs CIM:

  • Ennill cymhwyster marchnata proffesiynol cydnabyddedig sy'n agor rhagolygon gyrfa a swyddi newydd
  • Ennill sgiliau marchnata newydd
  • Rhowch y sgiliau newydd ar waith yn eich rôl
  • Adeiladu eich galluoedd marchnata proffesiynol
  • Datblygu sgiliau cyfathrebu gwell gyda'ch cwsmeriaid
  • Mae cyllid 100% ar gael trwy Cyfrif Dysgu Personol (CDP)

Gofynion mynediad

Bydd angen o leiaf blwyddyn o brofiad yn y diwydiant neu gymhwyster Lefel 3 perthnasol i astudio'r Dystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol neu Dystysgrif mewn Marchnata Digidol Proffesiynol.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs hwn yn dechrau ar 19eg o Fedi 2023 ac yn cael ei gyflwyno bob dydd Mawrth o 9.30yb tan 2.30yh am 10 wythnos.

Addysgir y cwrs hwn gan ddefnyddio ystafell ddosbarth ar-lein, gyda mynediad at adnoddau, gwaith grŵp, astudiaeth bersonol a chymorth tiwtor. Rhoddir cefnogaeth i ysgrifennu'r aseiniad i'r rhai sydd angen.

Asesiad

Asesir trwy aseiniad seiliedig ar waith, a all fod yn seiliedig ar sefydliad o'ch dewis.

Dilyniant

  • CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Marchnata Cymhwysol
  • CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Cynllunio Ymgyrchoedd
  • CIM Tystysgrif Lefel 4 mewn Marchnata Digidol Proffesiynol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth