Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma CIM mewn Marchnata Proffesiynol - Lefel 6 (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 sesiynau

Gwnewch gais
×

Diploma CIM mewn Marchnata Proffesiynol - Lefel 6 (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae cymhwyster CIM Lefel 6 yn datblygu eich sgiliau marchnata strategol sy'n golygu y gallwch fynd ymlaen i yrfa ym maes marchnata a pherfformio'n broffesiynol fel rheolwr.

I reolwyr a swyddogion marchnata sy'n gweithio mewn swyddi gweithredol neu oruchwyliol ac sy'n awyddus i wella'u sgiliau rheoli a'u gallu i feddwl yn strategol mae'r cwrs hwn.

Beth fyddwch yn dysgu:

Rydym yn cynnig y modiwlau canlynol:

Strategaeth Marchnata a Digidol - Byddwch yn dod i ddeall pa mor bwysig yw'r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd a sut i ddefnyddio technegau i asesu amgylcheddau allanol a mewnol i allu gwneud penderfyniadau'n effeithiol. Byddwch hefyd yn gallu adnabod pob cam o'r broses cynllunio marchnata - o'r archwiliad i wneud penderfyniadau strategol a rhoi cynlluniau ar waith ar draws sianelau traddodiadol a digidol.

Optimeiddiaeth Digidol – Yn ogystal â'u heffaith ar farchnata, bydd y modiwl hwn yn rhoi i chi ddealltwriaeth drylwyr o oblygiadau strategol datblygiadau yn yr amgylchedd digidol. Bydd hyn yn eich galluogi i integreiddio ac optimeiddio marchnata digidol yn ogystal â datblygu ymatebion strategol i newidiadau. Byddwch hefyd yn gallu sicrhau bod ymatebion yn cael eu mesur i roi tystiolaeth o lwyddiant.

Profiad Cwsmeriaid Digidol - Bydd y modiwl hwn yn rhoi golwg i chi ar brofiadau cwsmeriaid digidol ac yn dangos sut y gallwch addasu i'r farchnad gyfnewidiol hon er mwyn gallu diwallu anghenion cwsmeriaid. Bydd y cwrs yn rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau i allu dewis dulliau marchnata priodol i ddiwallu gwahanol amcanion. Bydd hefyd yn eich helpu i sicrhau eich bod yn darparu'r profiadau y mae cwsmeriaid am eu cael, trwy ddeall taith cwsmeriaid a chydymffurfio'r un pryd â deddfau a rheoliadau perthnasol.

Gofynion mynediad

I astudio am Ddiploma mewn Marchnata Proffesiynol bydd arnoch angen o leiaf ddwy flynedd o brofiad ymarferol yn y diwydiant neu gymhwyster Lefel 4 perthnasol.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)

Asesiad

Bydd gofyn cyflwyno aseiniad yn seiliedig ar thema a sefydliad penodol

Dilyniant

  • Mynd ymlaen i astudio am gymhwyster marchnata uwch
  • Astudiaethau lefel uwch mewn prifysgol
  • Dechrau gyrfa farchnata ar eich liwt eich hun neu redeg eich busnes eich hun.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr mewn llyfrgell