Cwrs CISRS i Sgaffaldwyr – Rhan 2 Tiwbiau a Gosod
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
10 diwrnod
×Cwrs CISRS i Sgaffaldwyr – Rhan 2 Tiwbiau a Gosod
Cwrs CISRS i Sgaffaldwyr – Rhan 2 Tiwbiau a GosodCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Byddwch yn dysgu sut mae:
- Gosod yr offer a ganlyn yn ddiogel a'u defnyddio'n gywir: cyplau, nenbont uwchben palmant, man llwytho, goledd, ffan amddiffynnol, trawstiau wedi'u rhagffurfio a sgaffaldau to.
- Cadw at y rheoliadau sy'n llywodraethu gosod, archwilio a thynnu sgaffaldau i lawr yn ddiogel a'r dulliau gweithio i'w defnyddio.
- Penderfynu ar system gosod y cyplau, nenbont uwchben palmant, man llwytho, goledd, ffan amddiffynnol, trawstiau wedi'u rhagffurfio a sgaffaldau to neu ddefnyddio system berchnogol lle’n briodol.
- Gosod sgaffaldau yn unol â rheoliadau statudol TG20 a BE EN12811-1, a dilyn y systemau gweithio diogel a nodir yn Nodyn Canllaw Diogelwch 4 (SG4).
- Gosod angorau er mwyn profi clymau.
- Datblygu portffolio NVQ.
Gofynion mynediad
Cyn dilyn y cwrs CISRS i Sgaffaldwyr Rhan 2, rhaid i'r ymgeisydd fod wedi meddu ar Dystysgrif CISRS i Sgaffaldwyr Rhan 1 am o leiaf chwe mis.
Cyflwyniad
- Addysgu yn y dosbarth
- Ymarferion ymarferol
Asesiad
Mae'r asesu yn cynnwys profion ysgrifenedig ac ymarferol.
Dilyniant
CISRS i Uwch Sgaffaldwyr
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
Na
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

