Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Gwallt Priodasol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Gyda'r nos neu yn y prynhawn. 3 awr yr wythnos i gynnwys gwybodaeth theori a sgiliau ymarferol. 12 wythnos.

    £190 gan gynnwys ffi arholiad

Cofrestrwch
×

Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Gwallt Priodasol

Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cwrs byr proffesiynol - mae'r Dyfarniad mewn Steilio Gwallt Priodasol wedi'i anelu at unigolion sydd eisiau ehangu eu sgiliau gosod y gwallt i fyny a gwella eu hyder gyda steilio gwallt priodasol.

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddefnyddio gwahanol dechnegau i osod y gwallt i fyny a chreu gwahanol edrychiadau.

Byddwch yn llunio llyfr steiliau i adlewyrchu'r technegau a ddysgwyd ac yn ei gyflwyno fel aseiniad i'w farcio.

Bydd arnoch angen tri model gwallt hir ar gyfer eich asesiadau gan greu tri edrychiad gwahanol.

Ar y cwrs hwn, cewch ddysgu pa steiliau priodasol sy’n ffasiynol, gan feithrin technegau newydd a sgiliau traddodiadol. Byddwch yn magu hyder ac yn cael syniadau newydd ar gyfer trin gwallt priodasferch. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sydd am ddatblygu ei sgiliau trin gwallt neu sydd am ddysgu sut i greu steiliau gwallt hir clasurol ffasiynol a chyfoes sy'n berffaith ar gyfer priodferched. Bydd y cwrs hwn yn eich ysbrydoli i greu steiliau priodasol arbennig, gan gynnwys edrychiadau ar gyfer y dydd a'r min nos.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys:

  • Steilio gwallt hir gan gynnwys rholiau, clymau, troelliadau, plethi, cyrlau ac effeithiau gwehyddu
  • Darnau gwallt, addurniadau - defnyddio darnau ac addurniadau dros dro i greu steiliau trawiadol
  • Creu steiliau priodasol clasurol a chyfoes

Gofynion mynediad

Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig, yn ymrwymedig a gyda dawn artistig.

Nid oes angen unrhyw brofiad arnoch, oherwydd efallai bod gennych ddiddordeb mewn gwallt priodasol eisoes

Angen llythrennedd sylfaenol.

Bydd gofyn i bob dysgwr ddod â'u pen model gwallt hir ar gyfer ymarfer a'u taclau trin gwallt eu hunain.

Cyflwyniad

  • Tasgau ymarferol a gweithdy
  • Theori

Asesiad

  • Tasgau ymarferol / arsylwi
  • Aseiniad

Dilyniant

Gallai'r cymhwyster hwn eich helpu i gael swydd fel steilydd gwallt priodasol neu symud ymlaen i gymhwyster trin gwallt Lefel 2.

Dilyniant i:

  • VRQ / NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Myfyriwr yn gwneud gwaith harddwch