Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Weldio Arc Fetel â Llaw (MMA) - Plât (3268-53)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
20 wythnos - 3 awr yr wythnos
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Weldio Arc Fetel â Llaw (MMA) - Plât (3268-53)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Nod(au)'r dyfarniad:
Cynlluniwyd y dyfarniad i alluogi ymgeiswyr i feithrin sgiliau a gwybodaeth weldio i lefel a fydd yn eu galluogi i weithio mewn sefyllfaoedd cymhleth a'u paratoi i ddilyn cymwysterau NVQ Lefel 3 a BS EN 287 Profion cymeradwyo weldiwr trwy gael safon derbyn yn seiliedig ar ISO 5817 – Uniadau arc wedi'u weldio mewn dur – Canllawiau ar lefelau ansawdd o ran diffygion.
Gofynion mynediad
Weldio Arc Fetel Lefel 2 (MMA)
Cyflwyniad
Gwaith ymarferol i amlinellu'r elfennau theori, casglu tystiolaeth mewn llyfrau cofnodi ac un arholiad.
Asesiad
Gwaith cwrs ac un arholiad
Dilyniant
Rhagor o gyrsiau ar gael mewn meysydd eraill, a chyfleoedd gyrfa yn y diwydiant weldio
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg