Dyfarniad Lefel 3 mewn Pontio i Waith Chwarae
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Uchafswm o 6 mis ar y rhaglen. Tair uned theori:
Dealltwriaeth gweithiwr chwarae o chwarae
Gwaith chwarae yn ymarferol
Gwaith chwarae yn y cyd-destun ehangach
Dyfarniad Lefel 3 mewn Pontio i Waith ChwaraeDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Blynyddoedd Cynnar ac a hoffai weithio mewn lleoliadau gwaith chwarae neu sy’n ceisio gweithredu dull gwaith chwarae yn eu lleoliad presennol. Fe'i cydnabyddir gan reolyddion y gweithlu fel hyn.
Gofynion mynediad
Dysgwyr sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster rheoli Lefel 3 naill ai mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, y Gweithlu Plant a Phobl Ifanc neu Addysgwr Blynyddoedd Cynnar. Bydd cymwysterau Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid, Gofal Cymdeithasol Plant a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant hefyd yn bodloni gofynion mynediad y cymhwyster hwn.
Gweithio mewn sefydliad gwaith chwarae.
Rhaid bod dros 18 oed.
Cyflwyniad
Bydd asesydd yn eich cyfarfod unwaith bob mis a bydd gennych fynediad at bortffolio electronig.
Asesiad
Dim arholiadau, nid oes angen mynychu’r coleg, cwblheir y cwrs yn eich amser eich hunain.
Bydd angen cwblhau tair uned theori ar y portffolio electronig.
Dilyniant
Os mewn rôl rheoli gallwch gwblhau cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant Lefel 4.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Datblygiad ac Addysg Plant
Datblygiad ac Addysg Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: